English
S4C
Jan

Jan, Dudley

Jan, Dudley

Jan

Cyfres newydd - Casa Dudley

Ymunwch â Dudley, Ffion ac wyth cogydd amatur mewn ysgol goginio yn Yr Eidal ar gyfer cyfres newydd yn yr hydref ar S4C.
Ewch i wefan Casa Dudley

Enillydd Chez Dudley 2006!

Jan Wilson-Jones, athrawes gynradd ran amser o Ruthun, Sir Ddinbych yw pencampwraig gyntaf Chez Dudley.

Gwobr Jan am ennill y gystadleuaeth yw cwrs pedwar diwrnod yn ysgol goginio Raymond Blanc, Le Manoir aux Quat'Saisons ger Rhydychen.

Mae'r cwrs yn cynnwys gwersi mewn creu cyrsiau cyntaf megis soufflé a ravioli, cyrsiau pysgod fel eog a thorbwt, cyflwyniadau cig gyda saws ac wrth gwrs pâtisserie enwog Ffrainc gan gynnwys arddangosiad siocled. Bydd Jan hefyd yn cael y cyfle i aros yn y gwesty moethus mewn gwobr gwerth dros ddwy fil o bunnau.

"Dwi'n edrych ymlaen at gael mynd ar y cwrs dros y Pasg. Ond os fyddai Siôn Corn yn dod ac un anrheg i mi 'Dolig yma, byddwn i'n hoffi mynd â'r holl gystadleuwyr gyda fi, oherwydd fydd hi ddim yr un peth hebddyn nhw!"

Y Ffeinal

Wedi misoedd o chwilio, milltiroedd o deithio a channoedd o flasu rysetiau, heno coronir pencampwr Chez Dudley. Ai'ch ffefryn chi fydd yn ennill? Dewch drwy ddrysau Chez Dudley am y tro olaf i weld pwy fydd yn fuddugol.

Cewch fwy o bytiau blasus... ar wefan Dudley!