English
S4C

Bouillabaisse

Sanary

provence

Tref bysgota fechan lle bu i Aldous Huxley ysgrifennu 'Brave New World' wrth edrych i lawr ar fôr glas y Canoldir. Mae Sanary yn bentref traddodiadol gyda strydoedd bach lliwgar yn arwain chi lawr at y cychod pysgota sy'n orlawn o greaduriaid o bob lliw a llun!

Yr Ŵyl Bouillabaisse

Yn ôl coel gwlad dywedir fod y pysgodyn Eurgefn (John Dory) sydd hefyd yn cael ei adnabod yma yn Provence fel Sant Pedr (St Pierre) wedi cael ei gyffwrdd gan Sant Pedr ei hun ac wedi gadael ôl ei fawd o'r ochr y pysgodyn.

Bob dwy flynedd mae pentref Sanary yn dathlu'r pysgodyn yma ag yn creu bouillabaisse anferth - a wir i chi mae e'n ANFERTH!!

Mae digon o bouillabaisse i 1,500 o bobl ac mae'n cael ei goginio mewn crochan enfawr naw troedfedd a hanner o ddiamedr ac yn pwyso 1,300 pwys. Mae'n cael ei chodi ar graen a'i osod ar dân 140 troedfeddi 'cubic' o bren fel arfer ym maes parcio pentref Sanary.

Yn y bouillabaisse mae:

provence

Heb son am y niferoedd anhygoel o domatos, pupur a nionod a'r dŵr i goginio'r cyfan yn cael ei roi i mewn i'r crochan gyda 'hose'!!

Bouillabaisse

Dyma ychydig o reolau cyn mentro gwneud y pryd traddodiadol Provence - Bouillabaisse

provence

Ychydig o ffeithiau:

Doedd y cimwch ddim yn rhan o'r rysáit gwreiddiol - pryd syml ydoedd yn defnyddio'r pysgod oedd wedi eu niweidio neu heb eu gwerthu.

Roedd y 'bouillabaisse de pêcheur' yn cael ei baratoi yn wreiddiol gyda dŵr y môr a oedd yn cael ei ferwi ar y traeth tra bo'r pysgotwyr yn trin eu rhwydi.

Chez Dudley