Gwyliau Bwyd
Ffrainc: Provence
Nuit des Pêcheurs, Toulon, Var, Provence-Alpes-Côte d'Azur
Dathlu traddodiad pysgota cyfoethog Toulon. Cyfle i flasu cawliau pysgod, cranc, wystrys a sardines gorau yr ardal. Porthladd bychan Port St Louis yn dod yn fyw. Adloniant, a bwydlen y noson yn dibynnu ar ddalfa'r dydd. Agored 5y.h. hyd 12y.b. www.toulon.com
Carreto Ramado, Saint-Rémy-de-Provence
Digwyddiad anhygoel yng nghalendr haf ardal Provence gyda thema ffrwythau a llysiau. Yn ystod yr ŵyl, arddangosir holl gynnyrch yr ardal a dathlir ffermio lleol traddodiadol. Agored 10.30y.b. hyd 11.30y.h www.saintremy-de-provence.com
Diwrnod Madarch / Mushroom Day Enrevaux, Provence-Alpes Côte d'Azur
I bawb sy'n hoffi madarch! Teithiau a seminarau ar y madarch. www.ot-dignelesbains.fr
Baptême Des Côtes Du Rhône, Avignon, Provence-Alpes Côte d'Azur
Mae poteli cyntaf y flwyddyn yn cyrraedd y bwrdd yn Avignon. Mae'r bobl leol yn agor y poteli yn y bore ac yn yfed trwy'r dydd! Côtes du Rhône ydi cynhyrchwyr gwin coch 'Appellation Controlée' mwyaf Ffrainc. Mynediad am ddim. www.avignon-tourisme.com www.vins-rhone.com
Gourmet Fair, Saint Raphael, Var, Provence-Alpes Cotes d'Azur
Wystrys, siampen, foie gras,caws, siocled dyma ychydig o bethau i'ch dennu draw i'r ffair hynod yma yn ardal Var, Provence. Bydd ogwmpas 110 o arddangoswyr i gyd hefo danteithion i chi eu blasu. Mynediad yn 8 ewro ac mae'r drysau'n agor rhwng 2y.p a 8y.h dydd Gwener ac o ddydd Sadwrn i Llun o 10y.b hyd 8y.h. www.saint-raphael.com
Ffair St André, St André Fair Avignon, Var, Provence-Alpes Côte d'Azur
Trigolion Avignon yn cyfarch gaeaf crin Provence gyda'r ffair yma. Mae gan y ffair tipyn i'w gynnig os ydych chi wrth eich bodd â cynnyrch Provensalaidd o grefftau i'r 'truffle'. Mynediad am ddim. www.avignon-tourisme.com
Ffair Olew a 'Truffles' Newydd, Aix-en-Provence, Provence-Alpes Côte d'Azur
Cyfuniad perffaith o olew a 'truffles'. Mae'r ffair yn dathlu gwasgiad cyntaf yr olifau sy'n creu olew olewydd gwyryf a hefyd dathlu'r 'truffle' y ffwng drudfawr ond tu hwnt o flasus! Cyfle i brynu a blasu be well! Mynediad am ddim ac yn agored rhwng 9y.b a 6y.h. www.afidol.org www.aixenprovencetourism.com
Ffrainc: Midi Pyrenées
Ffair y Garlleg Pinc, Lautrec.
Y dref cyfan yn paratoi crochan enfawr o gawl garlleg wedi ei wneud â'r garlleg pinc enwog l'ail rose. Mae marchned garlleg a cystadleuthau yn creu 'manouille' sef siaen o gerllyg. Mynediad am ddim ac yn cychwyn am 8.30 y.b. hyd 8y.n. www.ailrosedelautrec.com
Gŵyl Caws, Loures-Barousse
Sadwrn cyntaf pob Awst
Meistri yn dangos sut i wneud caws a cyfle i flasu pob math o gawsiau. Mynediad am ddim cychwyn 11y.b. hyd 7y.h. ar y Sadwrn a 9y.b hyd 7y.h dydd Sul www.tourisme-midi-pyrenees.com
Gŵyl y Mochyn, La Pourcailhade, Trie-sur-Baise
Ail ddydd Sul pob Awst
I bawb sy'n caru moch! Mae'r ardal Trie-sur-Baise yn un o'r ardaloedd mwyaf sy'n magu moch, ac yr unig le sy'n bodoli sydd hefo marchnad draddodiadol i werthu nhw. Blasu,cystadlaethau a rasus mae o i gyd i'w gael yn Trie-sur-Baise. Uchafbwynt yr wyl yw'r gystadleuaeth dynwared mochyn - yn wir mae'n gystadleuaeth ddifrifol iawn!! Agored 11y.b. hyd 12y.h. www.tourisme-midi-pyrenees.com
Gŵyl Castan A Seidr, Sauveterre-de-Rouergue, Midi-Pyrenees
Os ydych chi'n hoffi tymor yr Hydref yna mae rhaid i chi ymweld â thref Sauveterre. Yng nhanol y dref ceir coed castanwydden ac yn ystod yr wyl mae'r cnau castan yn cael eu grilio au bwyta. www.tourisme-midi-pyrenees.com
Ffrainc: Rhône-Alpes
Sarmentelles - Beaujolais Nouveau, Beaujeu, Rhône-Alpes
3ydd Dydd Mercher o bob Tachwedd
Mae gwin cyntaf y flwyddyn yn cael ei ryddhau am hanner nos ar y tryddydd dydd Mercher ym mis Tachwedd ym mhrif ddinas tiriogaeth Beaujolais sef Beaujeu en Ligne. Mae arbennigwyr ar draws y byd yn edrych ymlaen cymaint i'r diwrnod yma gyda partion bach a dathliadau mewn bariau a bwytai led led y byd! Ond ym man geni Beaujolais y mae'r dathliadau gorau i'w gweld. Yn Beaujeu ceir parti enfawr o'r enw Sarmentelles sy'n arwain i fyny at hanner nos. Parti a hanner!! Ac yn ol coel gwlad dylie chi yfed y gwin Beaujolais Nouveau cyn y Nadolig - digon o reswm i wagio'r seler!! Mynediad am ddim gyda'r bareli gwin yn cael eu hagor am hanner nos. www.beaujeu.com
Les Glorieuses de Bresse, Bourg-en-Bresse, Rhône-Alpes
Dyma'r lle i ddanganfod eich twrci Nadolig! Ceir cystadleuthau yma am y capon, cyw iar a'r twrci gorau. Mae na ddigwyddiadau 'gourmet' i'w cael hefyd, yn ogystal a cyfle i flasu gwinoedd a cynnyrch lleol. Mynediad am ddim. Agor o 10y.b. hyd 6y.h www.glorieusedebresse.com
Cymru
Gwledd Conwy Feast, Conwy
Nifer o stondinau bwyd a chrefftau lleol.
www.conwyfeast.co.uk
Gŵyl Fwyd Y Bontfaen, Bontfaen
Hydref
Dros 70 o stondinau bwyd, nifer o arddangosfeydd, seler win ac adloniant stryd. www.cowbridgefoodanddrink.org
Gŵyl Fwyd Wrecsam, Wrecsam
Lleoliad - Canolfan Chwaraeon NEWI, Wrecsam
Cyswllt: Niall Waller 01978 298 381
Gŵyl Fwyd Y Gaeaf, Y Trallwng
Lleoliad - Powys Suite, Gwesty y Royal Oak, Y Trallwng
Cyswllt: Nick Davies 01938 555 893
Ffair Nadolig Bannau Brycheiniog
Lleoliad: Maes parcio coffa Y Gelli Gandryll
Cyswllt: Andrew Powell 01874 624 979
Ffair Fwyd Cymru, Aberystwyth
Lleoliad: Canolfan Y Celfyddydau Aberystwyth
Cyswllt: Tamsin Wright 01970 622 889
Ffair Fwyd A Chrefftau'r Nadolig
Lleoliad: Stryd y Popty, Aberystwyth
Cyswllt: Jan Fenner 01970 633 066
Ffair Aeaf Y Sioe Frenhinol Gymreig, Llanelwedd
Lleoliad: Maes y Sioe Frenhinol Gymreig, Llanelwedd
Cyswllt: Bob Morgan 029 2082 8989
Ffair San Niclas Saundersfoot
Lleoliad: Harbwr Saunderfoot, Saundersfoot
Cyswllt: Andrew Evans 01834 812 304