English
S4C

Marchnadoedd

Mae marchnadoedd agored yn ffynnu mewn nifer o wledydd Ewropeaidd a maen nhw'n lefydd bendigedig i ymwelwyr a thrigolion lleol ymweld â nhw. Mae'n wir dweud fod marchnadoedd Provence ymysg y goreuon. Fel ymwelydd mae'n gyfle gwych i drwytho eich hun i ffordd o fyw'r ardal.

Pa bynnag dymor fydd hi, mae'n sicr bydd y marchnadoedd yn orlawn o gynnyrch o bob math. Mae'r farchnad yn gyfle i siopa ac yn weithgarwch i ddod â chymuned at ei gilydd bob wythnos. Mae'r marchnadoedd yn orlawn o stondinau gyda chasgliadau o ffrwythau a llysiau ffres gan ffermwyr lleol, pysgod a chigoedd gan gigyddion lleol, bara ffres, caws aeddfed, olifau, mel, sbeisys a gwin.

Yn mis Mehefin fe welwch chi ceirios a bricyll ar weth, yn aml yn syth o gefn y tryc - ffres yn wir! Mae rhai o'r gwerthwyr yn gallu bod yn 'particular' iawn, yn aml mae gwasgu a phinsio'r cynnyrch yn rhywbeth na dyle chi wneud, y gwerthwr sy'n trin y bwyd ac yn gwneud y dewis drosoch chi, mae hyn yn arferiad cyffredin iawn yn y marchnadoedd gorau.

Yn ychwanegol i'r holl gynnyrch bwyd sydd yn y marchnadoedd ceir amrywiaeth helaeth o ddefnyddiau Provencal, sebonau, lluniau gan artistiaid lleol a lafant.

Galeri

Chez Dudley