Y Wobr Fawr - Le Manoir Aux Quat' Saisons.
Pan yn 28 mlwydd oed agorodd Raymond Blanc ei fwyty cyntaf. Ar ôl dim ond blwyddyn o fod yn agored fe gafodd ei enwi'n 'Fwyty Egon Ronay' y flwyddyn.
Daeth toreth o anrhydeddau eraill gan gynnwys sêr Michelin a gwobr 'Pestl a Morter'. Yn 1984 fodd bynnag gwireddodd ei freuddwyd sef creu gwesty a bwyty drwy agor Le Manoir aux Quat' Saisons yn Great Milton, yn Rhydychen. Le Manoir yw'r unig blasty a gwesty ym Mhrydain i lwyddo i gael a chadw dwy seren Michelin, gwobr 'Relais' a'r 'Chateaux Purple Shield'.
Raymond Blanc
Seren Michelin
Fe gafodd y llyfr cyntaf ei gyhoeddi gan André Michelin yn 1900 a phwrpas y llyfr bryd hynny oedd cynghori gyrwyr yr 20fed ganrif ar lefydd i fwyta, a llefydd i ymweld ag aros ynddynt. Erbyn 1920 roedd adran y llefydd i fwyta mor boblogaidd bu i Michelin sefydlu tîm o archwilwyr cudd a dechreuodd gategori newydd o roi sêr i wahanol fwytai.
Y 'Michelin Guide Rouge' ydi'r llyfr bwyta mwyaf enwog a llwyddiannus Ffrainc, ac mae ganddo ddylanwad enfawr. Mae cael un seren gan y llyfr yn gallu golygu 25% yn fwy o drosiant gwerthu i fwyty ac fe all colli seren olygu cwymp ariannol.
Byw: Rhydychen ond yn wreiddiol o Besançon, Ffrainc.
Swydd: Perchennog Le Manoir ac un o gogyddion enwoca'r byd.
Cafodd Raymond Blanc ei eni ym 1949 yn Besancon, Ffrainc. Daeth i Loegr yn 1972 i weithio fel gweinydd ym mwyty Rose Revived ger Witney. Bu i'r cogydd yno gael ei daro'n wael a bu i Raymond gamu i'r adwy, dwy flynedd yn ddiweddarach fe gafodd y bwyty ei nodi yn yr arweinlyfr Michelin.
Yn 1991 y bu iddo sefydlu L'Ecole de Cuisine' yn Le Manoir, ysgol goginio sy'n cyfarch cogyddion amateur a proffesiynol i'w gegin i ddatblygu eu crefft a dysgu rhai o gyfrinachau'r gegin.
Mae gan Raymond Blanc dipyn o lyfrau i'w enw gan gynnwys 'Cooking for friends', 'A Blanc Christmas', 'Recipes from Le Manoir aux Quat' Saisons', 'Blanc Vite' a'i lyfr diweddara ' Foolproof French Cookery'.
Am fwy o wybodaeth am Le Manoir aux Quat' Saisons ewch draw i safle gwe www.manoir.com