English
S4C

Provence - un gardd enfawr hyfryd

Mae coginio Provence yn cael ei gyfeirio ato'n aml fel 'la cuisine du soleil' - bwyd yr haul.

Gyda hinsawdd freintiedig, cuisine bendigedig a cyfoeth o gynnyrch lleol does unman tebyg i'r ardal yma. Yn yr haf fe welwch chi Provence ar ei gorau - tomatos, pupur, wylys (aubergines) a corbwmpen (courgettes) y cyfan yn barod ar gyfer y pryd lleol - Ratatouille!!

Yn cuisine yr ardal yma fe gewch chi flas yr haul, olew olewydd, gwin rose oer, tomatos bach cynnes, pastis traddodiadol, bouillabaisse pysgod, ffrwythau fel eirin gwlanog, ceirios a 4 math o fefus heb anghofio'r llysiau - cyfuniadau bendigedig o flasau a pheraroglau Provence.

provence

Mae gastronomeg Provence yn wahanol iawn i weddill cuisine Ffrainc. Mae dylanwad y canoldir yn creu rysetiau gyda sbeisys poeth a bwyd y môr. Ychydig iawn o lefrith a ddefnyddir mewn coginio Provencal â caws gafr sydd i'w weld yn amlwg iawn. Garlleg, olew olewydd ac olifau yw'r cynnyrch a welir ac a ddefnyddir fwyaf a'r digonedd o berlysiau Provence yn amlwg yn rysetiau'r rhanbarth.

Mae Provence yn wlad heulog gyda mynyddoedd yn y gogledd a Côte d'Azur yn y de. Ceir amrywiaeth o dirwedd yn ardal Provence a'r rhan fwyaf wedi cael ei orchuddio â olifau a gwinllanoedd.

Prif drefi Provence yw Marseilles, Aix en Provence a Toulon.

provence

Adran Var

430 km o arfordir heulog, bwyd môr bendigedig, a gwin da. Mae tir yr ardal yn gyfoethog o winllanoedd a choed olifau, y lafant yn garped piws am y gwelwch chi, trefi canoloesol a marchnadoedd profensalaidd, mae'r ardal yma wedi nythu'n berffaith rhwng môr a mynydd.

Yn uwch 'The Haut' (uchel) gwelir pentrefi mynyddig, fforestydd eang a pherlysiau gwyllt yn persawru'r aer.

La Cadière d'Azur

provence

Wedi ei leoli ar ochr clogwyn mae'r pentref bach canoloesol yma yn elwa o olygfeydd anhygoel. Wedi ei amgylchynu â fforestydd pîn ac yn enwog am y winllan Bandol.

Strydoedd bach cynnes, blodeuog yn treiddio mewn hanes. Rhwng y strydoedd bach prysur ceir siop cigydd, cafis, bwytdai, siop groser, siop bysgod, becws a siopau crefftau.

Yng nghanol y pentref fe newch chi ddarganfod Eglwys Sant André a gafodd ei adeiladu ar ddechrau'r 16ganrif ar olion eglwys o'r 12 ganrif. Mae ei thwr cloch yr hynaf yn ardal Var ac yno ers 1458, ac mae'r cloc haearn yn y pentref wedi bod yn dweud yr amser wrth y trigolion ers 1551.

O ran treftadaeth mae La Cadière wedi cadw ychydig o olion o'i orfennol. Ceir tri porth mawreddog - Saint Jean yn y canol,sy'n dyddio nol i'r unfed ganrif ar bymtheg, mae ei ddrws pren sydd wedi ei addurno â hoelion anferth i'w gweld yna heddiw. Porth Mazarine yn y dwyrain a Colle yn y gorllewin, Colle yn golygu bryn yn Provençal.

Os gewch chi byth y cyfle ewch draw i La Cadière d'Azur ardal hyfryd sydd wedi ysgogi cymaint o artistiaid a peintwyr, dim torfeydd mawr o ymwelwyr a dim ond tafliad carreg o'r traeth.

www.ot-lacadieredazur.fr
www.vardestination.com
www.tourismevar.com

Chez Dudley