English
S4C

Ysgol Coginio - Hostellerie Bérard

Seren Michelin

Fe gafodd y llyfr cyntaf ei gyhoeddi gan André Michelin yn 1900 a phwrpas y llyfr bryd hynny oedd cynghori gyrwyr yr 20fed ganrif ar lefydd i fwyta, a llefydd i ymweld ag aros ynddynt. Erbyn 1920 roedd adran y llefydd i fwyta mor boblogaidd bu i Michelin sefydlu tîm o archwilwyr cudd a dechreuodd gategori newydd o roi sêr i wahanol fwytai.

Y 'Michelin Guide Rouge' ydi'r llyfr bwyta mwyaf enwog a llwyddiannus Ffrainc, ac mae ganddo ddylanwad enfawr. Mae cael un seren gan y llyfr yn gallu golygu 25% yn fwy o drosiant gwerthu i fwyty ac fe all colli seren olygu cwymp ariannol.

Wedi ei leoli ym mhentref bychan La Cadière d'Azur tua 45 munud o faes awyr Marseille, Provence. Mae'r gwesty a'r ysgol goginio yn cael ei redeg gan deulu René Bérard, ei wraig a'i ddau o blant.

*

Tra bod Danielle Bérard a'i merch Sandra yn gwneud yn siŵr bod eich arhosiad yn un cyfforddus, mae René a'i fab Jean-François Bérard yn paratoi'r prydau bwyd gorau gewch chi.

Mae modd cyfuno gwyliau yng Ngwesty Bérard gyda chyrsiau coginio, sy'n cynnwys bwyd, 4 diwrnod o goginio ac ymweliadau â gwinllan, fferm fêl, fferm gaws a chynhyrchwyr olifau. Profiad unigryw dan arweiniad cogydd seren Michelin, profiad byth cofiadwy!

Am fwy o wybodaeth am Hostellerie Bérard ewch draw i safle gwe www.hotel-berard.com

Galeri

Chez Dudley