Gwinllan
Chateau De Pibarnon
Rhyw ugain munud o Cadiere d'Azur ar hyd lonydd troellog, tyllog fel ddewch chi ar draws 'bastide' o'r drydedd ganrif ar ddeg - Chateau de Pibarnon. Mae'r annedd moethus yma'n gartref i Comte Henri de St-Victor a'i deulu ers 1977, pryd y bu iddo brynu'r adeilad a'i adnewyddu i'w stad bresennol. Dros y blynyddoedd mae'r stad wedi ehangu o 3.5 ha i dros 50 ha a'r gwaith mwyaf arwyddocaol oedd plannu amffitheatr o winwydd sy'n cael ei adnabod fel 'Theatre d'Epidaure'.
Mae'r amffitheatr o derasau sydd gyferbyn a'r tŷ nid yn unig yn tyfu gwinwydd ond hefyd yn atal erydu ac yn gwella amsugniad dwr.
Eric mab Henri de St-Victor aeth ar cystadleuwyr o amgylch y seleri a rhoi cyfle i'r 4 flasu'r gwinoedd bendigedig. Mae gan winoedd Pibarnon steil unigryw eu hunain ac mae ganddy nhw win coch, gwyn a rose i gyd yn fendigedig!
Am fwy o wybodaeth am Chateau Pibarnon a'u gwinoedd ewch draw i'r safle gwe
I ddarllen adolygiad blasu ewch i wefan y Wine Doctor website