English
S4C

Gwin

Gwinoedd Ffrainc

Heblaw am fara a dŵr y cyfwyd mwyaf cyffredin i unrhyw bryd ffrengig ydi gwin a chaws. Yn Ffrainc yn wahanol i wledydd eraill mae gwin yn cael ei ystyried i fod yn rhan sylfaenol o brydau pob dydd.

Mae gwin Ffrainc yn cael ei ddosbarthu'n 4 lefel o ran ansawdd â phob potel o win gyda 1 o'r 4 label dosbarth yma.

  1. Vin de Table - gwin y bwrdd - gwin cyffredin i'w fwyta wrth y bwrdd gyda pryd syml.
  2. Vin de Pays - well na Vin de Table yn swyddogol mae'n superior form o Vin de Table
  3. VDQS - Vin Delimite de Qualite Superieure - gwin o ardal arbennig ac yn swyddogol yn well na'r Vin de Table a Vin de Pays ond ddim cystal ar AOC
  4. AOC - Appelation d'Origine Controlee - gwin o ansawdd uchel iawn

Ardaloedd pennaf o ran gwin yn Ffrainc

  1. Alsace
  2. Bordeaux - gwin coch full bodied & Sauternes - un o winoedd mwyaf melys y byd
  3. Burgundy - Chablis - gwinoedd gwyn 'elegant'
  4. Champagne
  5. Corsica
  6. Jura a Savoie
  7. Languedoc - Rousillion
  8. Loire Valley
  9. Provence
  10. Rhone Valley
  11. De Orllewin Ffrainc

Gwinoedd Provence

Mae 3 appellation gwin yn Provence - Cotes de Provence, Bandol a Bellet.

Cotes De Provence

Mae Cotes de Provence yn ardal eang o Marseille i Nice. Mae'r pridd, grawnwin a thechnegau yn amrywio, ond mae un peth yn gyffredin - yr haul.

Mae gwinoedd coch Cotes de Provence fel rheol yn eithaf cryf fodd bynnag mewn rhai ardaloedd fe all fod yn ysgafn a 'delicet'.

Mae gwinoedd gwyn Provence yn arbennig o dda gyda pysgod a bwyd y môr lleol.

Mae hanner y gwin rose sy'n cael ei wneud yn Ffrainc yn dod o Provence ac mae 80% o'r gwin sy'n cael ei wneud yn Provence yn rose. Mae Rose de Provence yn winoedd sych ac yn llawn ffrwyth ac yn ddelfrydol fel gwin yr haf gydag arogleuon grawnffrwyth pinc a ffrwythau coch i weld yn amlwg. Dda gyda cawsiau fel Picodon, Pelardon a Feta.

Bandol

Mae Bandol wedi ei leoli rhwng y bryniau rhwng La Ciotat a Toulon ac yn gwynebu Môr y Canoldir.Bandol yw un o winllannoedd hynaf Ffrainc gyda'r winllan gyntaf yn cael ei blannu yma 2,500 mlynedd yn ôl gan y Rhufeiniaid.

Bandol yw'r gwin coch gorau o Provence yn llawn sbeis, cinnamon, ffrwythau du a fanila. Mae'n mynd yn dda gyda gem a chig coch a cawsiau Brocciu, Pelardon a Feta.

Bellet

Yr appellation lleiaf yn Ffrainc ynghyd a Chateaux Grillet. Wedi ei leoli i'r gorllewin o Nice. Gwinoedd coch yn bwerus, gwyn yn 'aromatic' a rose yn ffres. Mae gwinoedd Bellet yn anodd i'w darganfod y tu allan i Nice.

Ogleuon yn y gwyn - mel a banana
Ogleuon yn y coch - fanila a ffrwythau du

Bwyd i fynd gyda'r gwyn - bwyd y môr
Bwyd i fynd gyda'r coch - gem
Cawsiau - Banon a Pelardon

Canllawiau bwyd a gwin yn Ffrainc

  1. Bwydydd cryf eu blas yn galw am win cryf a bwydydd ysgafn eu blas yn galw am winoedd delicate ac ysgafn.
  2. Gwin coch - cig, a gwin gwyn, pysgod a cig gwyn - hon ydi'r rheol fwyaf adnabyddus
  3. Gwin o'r run ardal ar bwyd
  4. Coginio gyda'r gwin a gweini yr un gwin. Os yn coginio â gwin eitha' da yna dim byd o'i le yn ei weini gyda'r pryd, ond os yn defnyddio gwin gwael gwell peidio ac os yn defnyddio gwin drud - dio ddim i fod yn y pryd i ddechrau!!
  5. Gwin lleol wastad yn plesio
  6. Yn draddodiadol mae gwinoedd trwm a sbeisi o gwmpas môr y canoldir yn mynd yn dda hefo olew olewydd a pherlysiau'r ardal yna.
  7. Coch cadarn Burgundy yn dda gyda cigoedd sy'n gyffredin i'r ardal yna
  8. Bwyd unigryw Alsace - steil Almaeneg - gwin â steil Almaeneg
  9. Gwinoedd ysgafn cyn rhai cryf - drwy yfed un cryf yn gyntaf mae'n gadael blas yn y geg felly'n difetha blas y gwin ysgafn.

Y reolau:

  1. Gwyn cyn coch
  2. Sych cyn melys
  3. Coch ysgafn cyn coch trwm
  4. Ifanc cyn hen

Caws

Mae'r caws yn cael ei weini fel cwrs ar ben ei hun ac yn cael ei fwyta ar ôl y prif gwrs a cyn y pwdin - fel arfer mae'n cynnwys 3-4 darn o gaws gwahanol gyda darn o baguette. Mae dros 365 o gawsiau gwahanol i'w cael yn Ffrainc

  1. Gwin gwyn yn well gyda cawsiau meddal a blasau cryf.
  2. Gwin coch yn well gyda caws caled â blas fwy ysgafn.
  3. Gwinoedd llawn ffrwythau a gwinoedd gwyn melys a gwinoedd pwdin yn well gyda amrywiaeth o gawsiau.
  4. Cryfa yn byd yw'r caws melysa'n byd dylai'r gwin fod.

Chez Dudley