English
S4C

Aldwyn Jones

Byw: Caerfyrddin
Swydd: Brif Uwch Arolygydd, hefyd yn swyddog gofal ac yn gyfrifol am blismona Sir Gaerfyrddin

Treuliodd Aldwyn 31 mlynedd yn gweithio yn yr heddlu a fe wnaeth ymddeol rhyw ddwy flynedd yn ôl. Bu'n dditectif am ugain mlynedd ac yn Brif Uwch Arolygwr ar swyddog a gofal a chyfrifoldeb am blismona Sir Gaerfyrddin cyn ymddeol yn 2004. Mae e hefyd wedi ymddangos ar rhaglenni Crimewatch a 999.

Yn ei amser rhydd, mae e wedi dechrau ymddiddori mewn coginio ac wedi dechrau mynychu cwrs coginio ym Mhibwrlwyd.

Mae e wrth ei fodd yn teithio mewn camper fan o gwmpas Ffrainc a blasu'r bwydydd hyfryd sydd i'w cael yno.

Hoff Rysáit: Mae e'n hoff o wneud sawsiau
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: llawn bwrlwm, caredig ac unigryw

Rhaglen 6

Sialens Pwdin Perlysiau

Cyfuno ffrwythau gyda pherlysiau i greu pwdin i blesio Jeff Bérard a Bryn Williams.

Dewisodd Aldwyn Nesta i ymuno gydag ef am ei bod hi wedi ennill y sialens ddiwethaf.

Dyma nhw'n penderfynu pobi eirin gwlanog gyda mêl, sudd oren a basil, a gweini a mascarpone. Roedd eirin gwlanog o berllan René mor feddal roedd yn amhosib eu torri felly bu'n rhaid iddynt ddefnyddio bricyll.

Dim ots, dyma nhw'n ennill ta beth!

Yn anffodus i Aldwyn doedd e ddim trwyddo i'r ffeinal eto. Roedd Dudley eisiau tri yn y sialens nesaf ac unwaith eto dyma'r merched yn dewis Aldwyn i ymuno â nhw!


Sialens Omled

Yn syml, creu omled!

Ond ddim mor syml i Aldwyn druan. Dyma fe'n anghofio rhoi menyn yn y badell a'r omled yn sticio i'r gwaelod.

Roedd Aldwyn mor ddigalon, bron iddo bacio'i fag yn syth. Ond ar ôl y siom daeth newyddion da - roedd cyfle iddo gystadlu yn y sialens nesaf i weld pwy byddai'n ymuno â Nesta ac Anna yn y ffeinal.


Sialens o lyfr René

Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yn hyn oedd sialens arbennig gan Renê i ail greu un o'i ryseitiau - Draenog y Môr mewn Crwst gyda Saws Madarch a Siampên.

Gwynebodd Aldwyn Jan i weld pwy oedd yn gallu coginio'r rysáit gorau, er mwyn ennill lle yn y ffeinal.

Roedd Aldwyn wrth ei fod yn cystadlu yn y sialens yma.

"Roedd e'n werth sgramblo'r ŵy bore yma i gael mynd mewn fynna i goginio hwnna!"

Roedd y feirniadaeth yn agos iawn. Ond yn anffodus i Aldwyn, dyma René yn meddwl mai toes Jan oedd y pêstri gorau. Druan ag Aldwyn – dyma'i amser yn Provence yn dod i ben.


Rhaglen 5

Sialens Tapenade ac Aioli

Yn dilyn taith i'r farchnad i brynu'r cynhwysion, dyma'r cystadleuwyr yn meddwl mai sialens i baratoi tapenade oedd y sialens nesaf. Ond roedd Aldwyn yn amau hyn!

"Mae na gymaint o sypreisys yn y gystadleuaeth hyn, mwy na thebyg dim y tapenade fyddwn ni'n neud."

Ac roedd Aldwyn yn iawn, sialens i baratoi aioli oedd hi.

Yn anffodus i Aldwyn, aioli Nerys oedd yn plesio René. Ac ymlaen i'r sialens nesaf bu Aldwyn.


Sialens Parau

Yn dilyn taith i'r winllan, y sialens nesaf oedd dyfalu'r gwin a pharu gyda'r ffrwythau; dyfalu'r caws a pharu gyda'r anifail; ac i orffen paru'r caws gyda'r gwin!! Roedd Aldwyn wedi paru gydag Anna.

Dydy Aldwyn ddim un da am enwi gwin, ond mae e'n hoff o yfed gwin! Er hynny, mae e'n gallu gwahaniaethu rhwng finegr balsamic!

Diolch byth fod Anna yn nabod ei gwin a dyma nhw'n ennill y sialens.

Ond gyda thro bach arall yn y gynffon, dyma Nerys a Jan yn gorfod dewis naill ai Aldwyn neu Anna i ymuno a nhw yn y sialens nesaf. Dyma nhw'n dewis Aldwyn!


Sialens Bwyd a Gwin

Sialens i ddewis gwin, blasu dros nos a phenderfynu ar fwyd i goginio i'r beirniad gwadd - Bryn Williams.

Dyma Aldwyn yn cael y dewis cyntaf am iddo ennill y sialens ddiwethaf. Dewisodd y coch a phenderfynu coginio stêc.

Roedd yn boeth yn y gegin, ond benderfynodd Aldwyn cymryd risg a pharatoi tato dauphines i fynd gyda'i stêc.

"Na beth odd sialens - I'm coming home!"

Rhaid bod y risg yn werth yr ymdrech. Dyma Bryn yn dewis y gwin coch fel ei holl fwyd ac mae Aldwyn dal yn y gystadleuaeth.


Rhaglen 4

Sialens Max

Y dasg oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Calligari - cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd. Roedd Eleanor a Nerys yn nhîm Aldwyn. Ef oedd yn gyfrifol am y cwrs cyntaf, ond teimlai na weithiodd y tîm yn dda.

"Mae'r cythraul yn dod mas mewn ambell i berson amser maen nhw yn sefyllfa cystadleuol fel hyn." Ac efallai effeithiodd hwn ar y canlyniad - colli wnaethon nhw! Fe wnaeth Aldwyn gamgymeriad mawr wrth iddo ddewis Anna i ymuno â nhw i gystadlu yn y sialens nesaf. Roedd e'n yn meddwl ei fod yn dewis rhywun i gael hoe fach!



Sialens Llyfant y Môr

Creu un o brydau traddodiadol yr ardal - Llyffant y Môr wedi ei stwffio. Wnaeth Aldwyn ddim mwynhau'r sialens yma. Roedd yn anodd iawn iddo dynnu'r perfedd allan o'r pysgodyn ac ofnai ei fod wedi gor-wneud hi!

"Gobeithio'r gorau bo fi ddim wedi stwffio fe'n ormod, ynte fe." Ond mae'r beirniaid yn hapus ac mae Aldwyn yn cael aros yn Provence.


*

Rhaglen 3

Roedd Aldwyn yn 'saff' oherwydd ei lwyddiant yn sialens y 5 cynhwysyn ond bu dal rhaid i Aldwyn dewis y parau ar gyfer y sialens nesaf.

Dewisodd Aldwyn dri tîm; Nerys a Nesta, Michael ac Anna a Jan ac Eleanor. Y rhesymau am ei benderfyniad oedd Nerys a Nesta am fod enwau'r ddwy yn dechrau gyda N a'r ddau dîm arall am eu bod yn sefyll wrth ymyl ei gilydd!

Rhaglen 2

Doedd Aldwyn methu coelio ei fod wedi cael ei ddewis i fynd i Provence.

Cyfuniad o "sioc a balchder, roeddwn i methu credu oherwydd doeddwn i ddim yn hapus gyda fy mwyd yn Llandrillo"

Ond yn amlwg roedd y beirniaid wedi eu plesio, ac oherwydd ei bryd arbennig yn rownd un fe gafodd Aldwyn ei sedd ar yr awyren. Yr unig bryderon oedd gan Aldwyn am y daith oedd yr hedfan a'r iaith ...

"Dydw i ddim yn hoffi hedfan a rhaid oedd cael ambell gin a tonic cyn gadael tir, roeddwn i hefyd yn pryderu am fy Ffrangeg (petit peu) gan wybod fod eraill yn y cwmni yn rhugl."

Y profiad sy'n aros yng nghôf Aldwyn fwyaf yw'r ardal lle leolir yr ysgol, y prydferthwch a phersawr y tir.

Ar un gair i ddisgrifio'r profiad...anhygoel!

Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Aldwyn creu saws garlleg a lemwn i fynd gyda'r pysgod a ratatouille.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Phew, mae hwnna drosodd. Sai'n gwybod, ond o'dd y beirniaid yn bwyta fe ac yn edrych yn ffafriol ar y saws"
Barn y beirniaid Rhagorol, 18 allan o 20. Aldwyn oedd yr unig un i baratoi saws. Mae angen ychydig bach mwy o halen.

Rhaglen 1 - Rownd 2
Brest cyw iâr wedi ei lenwi â merllys, wedi ei rwymo mewn ham Caerfyrddin gyda saws caws cennin a garlleg Nantybwla a 'timbal' o lysiau

food

Rysáit Aldwyn

Gweini 2

Cynhwysion
4 brest cyw îar
250g merllys
220g ham caerfyrddin
500ml stoc cyw îar
25g menyn
25g blawd plaen
60g caws nantybwla
400g tatws melys
400g pannas
400g moron
2 l fdd olew llysiau
pinsiad o nytmeg
pinsiad o halen a phupur du

Dull

Glanhau'r merllys, torri'r darnau uchod i ffwrdd a'u rhoi naill ochr.

Stemio coesau merllys am 5 munud a'u rhoi naill ochr.

Agor y frest cyw iâr gyda chyllell siarp a'i llenwi gyda'r merllys.

Rolio'r ham o amgylch y frest.

Cynhesu'r olew mewn padell ffrio a choginio'r cyw iâr ar ben y ffwrn am 7 munud cyn ei osod yn y ffwrn am 15 munud ar wres o 190°C/Nwy 5.

Gadael y cig i orffwys am ychydig cyn ei dorri'n sleisiau/cylchoedd.

Y Saws

Toddi'r menyn mewn sosban, ychwanegu'r blawd a'i droi'n am 2-3 munud i greu 'roux'. Ei dynnu o'r gwres a'i adael i oeri am ychydig cyn ychwanegu yn raddol y stoc cyw iâr. Rhoi'r sosban yn ôl ar y tân i ferwi'r stoc a'i droi'n gyson. Troi'r gwres i lawr a gadael iddo ffrwtian am 5 munud. Ychwanegu'r caws yn raddol dros dymheredd isel.

Y Llysiau

Berwi'r tatws melys yn eu croen am 15 munud a'u rhoi naill ochr.
Berwi'r pannas a'r moron am hanner awr a'u malu'n stwmp.
Tynnu'r croen oddi ar y tatws melys a'u torri'n giwbiau.
Arllwys ychydig o olew llysiau dros y tatws a phinsiad da o halen a'u ffrio mewn padell am 10 munud.
Gosod y llysiau i mewn i 'timbal' i greu tŵr cyn eu gweini.

I'w weini

Gosod sleisys o'r cig ar y plât gyda'r tŵr o lysiau a'r merllys wedi'u clymu gyda llain o gennin.

Rhaglen 1 - Rownd 1
Cacen gocos a bara lawr gyda saws menyn a garlleg

Barn y Beirniaid

Blas: arbennig o dda, cydbwysedd da o flasau. Edrychiad: syml ond effeithiol a glan

Cystadleuwyr