Anna Brown
Byw: Mynyddygarreg
Swydd: Gwraig tŷ
Bu Anna mewn coleg arlwyo am gyfnod cyn priodi a magu pedwar o blant. Mae Anna yn gallu troi unrhyw beth sydd yn y cwpwrdd neu'r rhewgell yn bryd o fwyd.
Mae hi'n gyfforddus iawn yn coginio heb lyfr rysáit ac yn hoffi coginio hefo'r tymhorau yn enwedig gyda gwyliau Cristnogol fel y Nadolig a'r Pasg.
Hoff Rysáit: Bouillabaisse a Pavlova
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: siaradus, cyfeillgar a gweithgar
Rhaglen 7
Sialens Bouillabaisse
Creu Bouillabaisse traddodiadol i René heb ryseitiau na nodiadau i'w dilyn!
Am unwaith dyma Anna yn cymryd pum munud i feddwl cyn dechrau coginio.
“Mae'r rysáit yn anodd i ddilyn, ond heb rysáit!!!”
Rhaid bod yr amser i hel ei meddwl wedi gweithio i Anna. Roedd René yn bles iawn gyda'i bouillabaisse a dyma hi'n parhau yn y ffeinal.
Y Sialens Olaf
Sialens i baratoi pryd o fwyd dau gwrs i dri gwestai pwysicaf yr ardal. A hynny yn union fel mae'r bwytai gorau yn eu gwneud.
Dewisodd Anna greu maelgi yn yr haul i ddechrau a chig oen gyda chrwst a saws teim ar gyfer y prif gwrs.
Dyma Dudley yn codi'r tymheredd yn y gegin dra rhoi'r cystadleuwyr dan y fath o bwysau gallan nhw ddisgwyl mewn cegin broffesiynol. Nid oedd Anna yn hapus!
"Dwi ddim eisiau gweld ffedog Chez Dudley byth eto!"
Dyma'r beirniaid yn mwynhau'r pryd cyntaf ond yn teimlo gallai'r cyflwyniad fod yn well. Roedd y cig oen wedi'i goginio'n berffaith ond roedd y llysiau rhy 'al dente' iddyn nhw.
Druan ag Anna, mor agos ond hefyd mor bell! Dewisodd y beirniad bwydlen Jan yn lle.
"Dwi mor siomedig. O ni eisiau ennill yn fawr iawn."
Ond gall Anna fynd adref a'i phen yn uchel.
Rhaglen 6
Sialens Pwdin Perlysiau
Cyfuno ffrwythau gyda pherlysiau i greu pwdin i blesio Jeff Bérard a Bryn Williams.
Anna oedd wedi ei pharu â Jan ar gyfer y sialens hon.
Dyma nhw'n penderfynu pobi ffigys gyda coulis mefus a lafant, wedi ei weini a mascarpone fanila mewn box toes filo!
Rhy uchelgeisiol? Tra roedd Anna yn anghofio'r toes yn y popty a Jan yn fflyrtio gyda Jeff, mae'n syndod bod y pwdin wedi ei orffen mewn pryd.
Bois bach! Roedd yn edrych yn dda. Ond dim digon da i guro pwdin Nesta ac Aldwyn.
Sialens Omled
Yn syml, creu omled!
Omled Anna oedd y gorau ym marn y beirniaid. Roedd yn ysgafn, flyffi a wedi ei goginio'n berffaith.
Dyma Anna yn ennill ei lle yn y ffeinal.
Sialens o lyfr René
Mae Anna yn 'saff' oherwydd ei llwyddiant yn y sialens omled felly mae hi yn y ffeinal!
Rhaglen 5
Sialens Tapenade ac Aioli
Yn dilyn taith i'r farchnad i brynu'r cynhwysion, dyma'r cystadleuwyr yn meddwl mai sialens i baratoi tapenade oedd y sialens nesaf. Ond na sialens i baratoi'r aioli yn lle!
Doedd gan Anna ddim amser i siarad gydag ond 15 munud i greu'r aioli.
Roedd René wedi plesio ond dim digon iddi hi gael ennill. Ac ymlaen i'r sialens nesaf bu Anna unwaith eto.
"Dal ddim wedi cael brêc, pawb arall wedi. Dwi di neud pob un sialens ... HIR!"
Sialens Parau
Yn dilyn taith i'r winllan, y sialens nesaf oedd dyfalu'r gwin a pharu gyda'r ffrwythau; dyfalu'r caws a pharu gyda'r anifail; ac i orffen paru'r caws gyda'r gwin!! Roedd Anna wedi ei pharu gydag Aldwyn.
Roedd y ffaith bod Anna yn dawel cyn y sialens yma wedi pryderu'r tîm arall. Gyda digon o reswm, oherwydd mae Anna yn nabod ei gwin!
Dyma nhw'n ennill y sialens. Ac o'r diwedd mae Anna yn cael hoe fach, ar ôl i'r ddwy arall dewis Aldwyn i ymuno â nhw yn y sialens nesaf.
Sialens Bwyd a Gwin
Roedd Anna yn 'saff' oherwydd ni ddewiswyd hi gan y tîm arall. Nid oedd rhaid iddi gymryd rhan yn y Sialens Bwyd a Gwin.
Rhaglen 4
Sialens Max
Y dasg oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Calligari - cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd. Dewisodd Jan gael Anna a Nesta yn ei thîm hi. Anna oedd yn gyfrifol am baratoi'r toes ar gyfer y cwrs cyntaf. Roedd hi'n bles gyda'r tîm.
"Tîm dda, balans yn grêt, achos dwi'n gallu bod tipyn bach yn wyllt yn y gegin." Ond aeth pethau o le pan nad oedd 'ground almonds' ar gael! S'dim ots - dyma nhw'n ennill y sialens ta beth.
Sialens Llyfant y Môr
Creu un o brydau traddodiadol yr ardal - Llyffant y Môr wedi ei stwffio. Cafodd Anna drafferth mawr ceisio tynnu'r perfedd allan o'i physgodyn - y pysgodyn rhy fach a'i dwylo hi rhy fawr!
"Dau beth, pysgodyn tipyn bach rhy fach a slwshi stwffin, ond daeth yn y diwedd". Ond mae'r beirniaid yn ddigon hapus ac mae Anna yn cael aros yn Provence.
Rhaglen 3
Sialens 10 Tomato
Y sialens oedd creu salad tomato hefo 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Roedd Anna gyda Michael John.
"O ni wedi trial dewis popeth efo blasau cryf iawn" Mae Anna wedi dysgu bod pobl Provence yn mwynhau bwyd sydd yn rhoi "real gic yn dy ben!"
Sialens Mille Fuille
Y sialens oedd creu rysáit Mille Fuille gyda ceuled lemwn a saws mafon. Teimla Ann ei bod hi wedi rhoi ei gorau.
"Dwi wedi gwneud gymaint a gallai, allai ddim gwneud mwy. Os mae fi sy mas, dyna ni, diwedd y gân."
Rhaglen 2
Y peth cyntaf aeth drwy feddwl Anna pan glywodd ei bod yn mynd i Provence oedd "sut dwi'n mynd i golli digon o bwyse i ffitio mewn i'm dillad haf cyn mynd!" Ond o ddifri, roedd Anna yn "chuffed to bits".
Mae hi'n wraig ac yn fam i bedwar o blant a heb wneud dim byd ar ben ei hunan ers tipyn felly roedd cael mynd i Provence yn profi ei bod hi dal yn medru. "Rwy'n angerddol iawn am fy nghoginio" meddai " a dwi'n benderfynol o aros am yr wythnos gyfan".
Be bynnag fydd hanes Anna ar ei thaith yn Provence mae un peth yn sicr bod ei theulu yn falch iawn o'i llwyddiant.
Roedd cyrraedd Provence yn brofiad anhygoel i Anna. " Dwi erioed wedi cyrraedd unman o blaen sydd yn edrych yn well na'r brochure" meddai.
Y profiad sy'n aros yn y cof fwyaf yw ei diwrnod cyntaf yn yr ysgol goginio "pigo'r eirin gwlanog cynnes o'r goeden yn y berllan a chroeso enfawr Rene a'i deulu, yn wir hoffwn i dreulio mwy o amser yn Provence!"
Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Anna pobi'r pysgod mewn papur, shibwns a leim a'i weini gyda pupur wedi stwffio a ratatouille.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Neis i gael e drosto. Roedd e mor boeth yn y gegin"
Barn y beirniaid Da iawn, dim digon o halen ond mae'r pysgod heb ei goginio yn ormodol.
Rhaglen 1 - Rownd 2
Cyw iâr Sir Gar gyda saws Chablis.
Rysáit Anna
Gweini 2Cynhwysion
1 cyw iâr gyfan - torri 2 brest - cadw'r esgyrn ar gyfer y stoc
4 sleisen o ham Gaerfyrddin
6 asbaragws (a rhai ychwanegol i addurno'r plât) - wedi'u wynnu
Stoc:
2 pt o ddŵr
1 deilen bae
1 bouquet garni
2 shibwns neu winwns bach gyda'r croen a'u torri'n hanner
8 papurwn grawn du cyfan
Llysiau:
8 owns tatws maris piper - wedi'u ferwi
4 shibwns gwyrdd - torri'n fân a'u ffrio mewn menyn
1 ll fdd hufen dwbl
Moron:
6 owns moron - torri'n stribedi
1 ll de coriander
1 ll de menyn
Bresych:
4 owns bresych - wedi'i stemio
1 ll de - hadau sesame - wedi'u ffrio'n ysgafn
1 lle - hadau blodyn yr haul - wedi'u ffrio'n ysgafn
Dull
I greu'r stoc - gosod yr esgyrn mewn padell fawr gyda'r ddeilen bae, bouquet garni, shibwns a'i ferwi am _ awr, yna ei adael i oeri am ychydig.
Rhoi'r cig gyda'r croen i lawr ar hambwrdd a gosod 2 sleisen o ham Gaerfyrddin a 3 asbaragws ar bob brest.
Rolio'r cig a'i glymu â llinyn cyn ei lapio yn dynn mewn haenen lynu a'i botsio mewn dŵr berwedig am 10 munud.
Cynhesu ychydig o fenyn ac olew yr olewydd mewn padell a selio'r cig hyd nes iddo frownio, yna gosod y cig tun rhostio a'i osod yn y popty am 10 munud ar wres o 170°C/Nwy 3.
Gwaredu'r saim o'r stoc , ychwanegu'r Chablis i'r stoc a'i leihau i hanner maint.
Tynnu'r tun o'r popty ac ychwanegu'r stoc.
Cymysgu'r blawd a'r menyn gyda'i gilydd i greu past a'i ychwanegu yn araf deg i'r stoc hyd nes iddo dewhau.
Yn y cyfamser paratoi'r llysiau a'u gosod ar blatiau.
Sleisio'r cig i greu cylchoedd/darnau rownd a'i osod ar y plât gyda'r llysiau.
Arllwys y saws dros y cig a' weini yn syth.
Rhaglen 1 - Rownd 1
Tarten fach cocos a bara lawr gydag wy quail a saws hollandaise
Barn y Beirniaid
Blas: blas da iawn, cydbwysedd da o flasau ac meddai Dudley "yum yum ishe mwy!". Edrychiad: syml, da, glan ac effeithiol.