English
S4C

Dyfed Rowlands

*

Byw: Caerdydd
Swydd: Swyddog polisi, Adran Diwylliant y Gymraeg a Chwaraeon, Llywodraeth y Cynulliad

Mae gan Dyfed ddiddordeb mawr mewn bwyta allan mewn bwytai da a rhai sâl! Mae o hefyd wrth ei fodd yn darllen arweinlyfrau ac adolygiadau am dai bwyta.

Yn ei amser sbâr mae'n hoffi teithio, gwylio rhaglenni coginio, hwylio, hwylfyrddio ac unrhywbeth i wneud gyda llongau.

Tra'n fyfyriwr bu Dyfed yn gweithio mewn gwestai a bwytai ac ar un o longau P&O rhwng Portsmouth a Cherbourg.

Hoff Rysáit: Does dim hoff rysáit ganddo, ond mae'n hoffi rhoi cynnig ar rysetiau newydd yn dibynnu ar y tymor a'r cynhwysion sydd ar gael.
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: byw i fwyta

Rhaglen 1 - Rownd 2
Cyw iâr gyda saws morel a sieri.

Rysáit Dyfed

Gweini 2

Cynhwysion
Y Saws:
25g madarch Morel wedi'u sychu
250g madarch brown - wedi'u chwarteri
120ml sieri sych wedi'i ferwi am hanner munud i waredu'r alcohol
400ml hufen dwbl
pinsiad o halen

Y Cyw Iâr:
4 brest cyw iâr oddi ar yr asgwrn
15g menyn
pinsiad o halen

Y Cennin:
litr o ddŵr
10g halen
10g menyn
2 cennin - torri'r rhannau gorau yn 2cm

Dull

Socian y madarch Morel am awr mewn 250ml o ddŵr cynnes. Eu draenio, gan gadw'r dŵr socian at eto, golchi'r moreli mewn digonedd o ddŵr oer er mwyn eu glanhau yn iawn. Sychu'r moreli a'u rhoi naill ochr

Rhoi pinsiad o halen a phupur ar y cig. Toddi'r menyn mewn padell, ychwanegu'r cig a'i frownio am 3 munud bob ochr. Tynnu cig o'r badell a'i gadw naill ochr.

Rhoi'r moreli a'r madarch brown yn y menyn sydd ar ôl yn y badell a gadael iddynt feddalu. Ychwanegu pinsiad o halen a'r sieri, 100ml o'r dŵr socian a'r hufen dwbl a dod a'r cyfan i'r berw. Gosod y cig yn ôl yn y badell a'i orchuddio yn y saws a'i adael i fudferwi'n ysgafn am 15 munud.

Rhoi'r cennin mewn sosban o ddŵr berw wedi'i halltu a'u berwi hyd nes yn dyner.

Ar wres uchel, berwi'r saws am 6 munud hyd nes iddo dewhau, troi'r gwres i lawr, dychwelyd y cig i'r badell i'w ail-gynhesu am 2 funud.

I'w weini - gosod y 4 brest ar 4 plât ac arllwys y saws dros y cig, yna ychwanegu'r cennin.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Tartar o hadog wedi ei addurno ag afocado

Barn y Beirniaid

Blas: cyfuniad da. Edrychiad: lliwgar syml a hafaidd

Cystadleuwyr