Eleanor Baker
Byw: Caerdydd
Swydd: Gweinyddwraig addysg yn Sain Ffagan
Newydd raddio o Brifysgol Caerdydd y mae Eleanor ac mae ganddi radd mewn Ffrangeg ac Eidaleg. Mae hi wedi treulio tipyn o amser dramor fel rhan o'i chwrs gradd ac mae hi wedi dysgu tipyn am wahanol ddulliau o goginio.
"Dwi'n ymhyfrydu wrth arbrofi a'r hyn dwi wedi dysgu oddi cartref ac yn wir teimlo fod y gegin yn gynefin i mi."
Hoff Rysáit: Torta alla Gianduia a Lasagne - unrhywbeth Eidalaidd!!
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: dysgwraig hyderus ac arbrofol
Rhaglen 4
Sialens Max
Y dasg oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Calligari - cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd. Roedd Aldwyn a Nerys yn nhîm Eleanor. Eleanor oedd yn gyfrifol am y pwdin, ond teimlai’n siomedig iawn gyda’i ymdrech a’r ffaith bod Nerys ddim yna i'w chefnogi.
“Roeddwn i angen help ond ble roedd Nerys?” Teimlai nad yw ei sgiliau cyflwyno yn ddigon da a roedd hi wedi'i siomi. “Ond y blas yw’r peth pwysig...felly gawn ni weld”
Yn anffodus i Eleanor a’i thîm, nhw wnaeth golli'r sialens!
Sialens Llyfant y Môr
Creu un o brydau traddodiadol yr ardal - Llyffant y Môr wedi ei stwffio. Wnaeth Eleanor fwynhau’r sialens yma. “Os wi’n mynd adref, fyddai tipyn yn drist ond dwi’n gallu mynd adref i ddweud fi wedi dysgu rhywbeth newydd.”
Ond druan ag Eleanor, doedd y beirniaid ddim yn hapus gyda’i physgodyn hi felly bant â hi adref – gyda sgiliau newydd! “Hoffwn i Aldwyn ennill oherwydd mae e mor garedig ac yn fwy debygol o ddefnyddio’i sgiliau newydd adref.”
Rhaglen 3
Sialens 10 Tomato
Y sialens oedd creu salad tomato hefo 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Roedd Eleanor gyda Jan.
Roedd Eleanor yn falch o gael gweithio gyda Jan. "Roedd yn neis i gael ychydig o gymorth ar ôl bod ar fy mhen fy hun trwy'r dydd"
Sialens Mille Fuille
Y sialens oedd creu rysáit Mille Fuille gyda ceuled lemwn a saws mafon. Roedd Eleanor yn pryderu am y sialens yma, gan nad oedd yn teimlo'n hyderus iawn yn y sialens 5 cynhwysyn. "Ar ôl ddoe, dwi'n teimlo mor falch i fod yma. Wi rili mhoen aros."
Ond wnaeth ei theimladau newid ar ôl i Rene canmol ei Mille Fuille. "Wi'n teimlo lot well na ddoe... fingers crossed ond gawn ni weld!"
Rhaglen 2
Ymateb cyntaf Eleanor pan glywodd hi Dudley yn dweud ei bod hi yn mynd draw i Provence oedd sioc, anghrediniaeth ac yn teimlo'n lwcus iawn o gael mynd i Ffrainc gyda phobl mor dalentog.
Y profiad sy'n aros yng nghof Eleanor fwyaf oedd y sialens gyntaf yn Provence "roedd e mor frawychus" meddai, "pan welais y pysgod roeddwn i bron a dechre llefain oherwydd doedd dim prif gynhwysyn arall i'w gael felly roedd rhaid i fi ddangos fy sgiliau o goginio pysgod i'r beirniaid, a doedd dim llawer o sgiliau da fi yn y gamp hon!"
Os am ddisgrifio'r profiad mewn un gair - bythgofiadwy!
Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Eleanor ffrio ffiledau y pysgod mewn padell a'u gweini ar gwely ratatouille.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Ofnadwy, dwi ddim yn hapus o gwbl. Dwi ddim yn hyderus iawn gyda pysgod ac i fi roedd yn haws defnyddio'r ffilet".
Barn y beirniaid Pam dynnodd hi'r croen bant? Bysa wedi blasu'n well gyda'r croen dal arno.
Rhaglen 1 - Rownd 2
Brest cyw iâr wedi ei stwffio a mozzarella a pesto ac wedi ei lapio mewn Parma ham
Rysáit Eleanor
Gweini 2Cynhwysion
Pesto:
3 llond dyrned o fasil
50g cnau pîn
1 clof o arlleg
20g caws parmesan
5 ll fdd olew yr olewydd
Cyw iâr:
2 brest
150g caws mozzarella
6 tafell o ham parma
Ratatouille:
250g passatta
¼ litr o ddŵr poeth
1 winwnsyn
2 clof o arlleg
1 pupur coch
1 corbwmpen
3 madarch
2 l de perlysiau de Provence
Tatws Ffondant:
2 tatws maris piper
1 litr stoc cyw iâr
3 clof o arlleg
dyrned o deim
75g menyn
Dull
Cynhesu'r ffwrn i 200°/Nwy 6
Pesto
Malu'r garlleg mewn pestl a mortar a'i rhoi mewn powlen, torri'r dail basil yn fân a'i ychwanegu i'r bowlen. Gosod y cnau pîn ar hambwrdd a'u tostio yn ysgafn. Ychwanegu'r cnau, caws parmesan a'r olew i'r bowlen gyda phinsiad o bupur a halen a'i gymysgu'n dda.
Ratatouille
Torri'r winwnsyn, garlleg, pupur coch, corbwmpen a'r madarch. Ffrio'r winwnsyn a'r garlleg yn yr olew i'w meddalu.
Ychwanegu'r corbwmpen, pupur coch a'r madarch i'r ffreipan yna eu gorchuddio gyda'r passatta a llwyed neu ddwy o ddŵr poeth. Ychwanegu'r 'herbes de provence' a phinsiad o halen a phupur a'i adael i fudferwi hyd nes i'r llysiau dechrau meddalu.
Cyw iâr
Torri i ganol y frest. Gosod y caws mozzarella yng nghanol y frest gyda'r pesto. Rhwymo'r frest gyda'r ham parma a'i osod ar hambwrdd pobi wedi'i orchuddio gyda ffoil a'i choginio yn y ffwrn am 25 munud.
Tatws Ffondant
Gwaredu'r croen, torri'n dew a'u berwi mewn stoc cyw iâr am 10 munud. Ffrio'r tatws gyda'r menyn, teim a'r garlleg (gyda'r croen). Yn y cyfamser, tynnu'r cyw iâr allan o'r ffwrn a'i adael i sefyll am 10 munud. I'w weini - gosod y 4 brest ar 4 plât ac arllwys y saws dros y cig, yna ychwanegu'r cennin.
Rhaglen 1 - Rownd 1
Tarten siocled a mafon
Barn y Beirniaid
Blas: ysgafn a blasus. Edrychiad: syml ond effeithiol