English
S4C

Iona Davies

*

Byw: Tregaron
Swydd: Myfyrwraig arlwyo yn astudio Culinary Arts Management ym Mhrifysgol Thames Valley, Llundain

Mae Iona wrth ei bodd yn teithio a chwrdd â phobl, coginio a gwylio ffilmiau.

Mae hi wedi bod â diddordeb mewn bwyd ers pan yn fach ond erioed wedi penderfynu ar yrfa yn y maes arlwyo hyd yn ddiweddar. Bu iddi ddilyn cwrs busnes i ddechrau ond ar ôl cwblhau'r cwrs a theithio o gwmpas De America lle bu iddi fwyta fochyn cwta penderfynodd ddychwelyd nôl adra a dechrau ar ei thaith ym myd y bwyd!

Hoff Rysáit: Ffiled o eog mewn saws mêl, lemwn a gwin gyda 'stir fry' cennin a bresych
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: cyfeillgar, gweithgar a brwdfrydig

Rhaglen 1 - Rownd 2
Brest cyw iâr wedi ei photsio gyda chennin bach a madarch trompette

Rysáit Iona

Gweini 2

Cynhwysion
4 x 150g brest cyw iâr
8 cennin bach
100g madarch 'trompette' neu 10g o fadarch sych, ee porcini
halen a phupur du
stoc cyw iâr
perlysiau i weini

Dresin:
3 tomato
100ml olew yr olewydd
2 l fdd siampen neu finegr gwin gwyn da
4½ ll fdd stoc cyw îar wedi'i leihau (mudferwi 200ml hyd nes iddo dewhau)
2 ll de mwstard Ffrengig
2 l fdd cennin syfi - wedi'i dorri'n fân
2 l fdd sierfel
1½ ll de dil

Dull

Gosod y cig ar hambwrdd a gyda chyllell siarp paratoi'r cig yn y modd 'butterfly', gorchuddio gyda haenen lynu a lleihau eu maint gyda rholbren.

Rhoi'r cennin mewn sosban o ddŵr berw wedi'i halltu hyd nes iddynt feddalu, yna eu trosglwyddo i bowlen o ddŵr rhewllyd a'i gosod naill ochr.

Os defnyddir madarch sych eu gosod mewn powlen o ddŵr cynnes am 10 munud, yna eu rhwygo yn hanner a'u golchi'n dda. Os defnyddir madarch ffres, eu glanhau a'i rhwygo'n hanner.

Rhoi haenen lynu dros hambwrdd ac ychwanegu pinsiad o halen a phupur. Rhoi'r cig ar yr hambwrdd a gosod y cennin a'r madarch yng nghanol y cig a'i rolio mewn i siâp tiwb. Lapio'r cig yn dynn mewn haenen lynu, gan sicrhau fod y ddau ochr wedi'u glymu.

Gosod y stoc cyw îar mewn sosban a photsio'r cig am 10-12 munud.

Yn y cyfamser, gosod y tomatos mewn sosban o ddŵr berwi am 10 eiliad yn unig, ac yna eu trosglwyddo i bowlen o ddŵr rhewllyd. Tynnu'r croen, torri'n chwarterau, gwaredu'r hadau ac yna eu torri'n giwbiau bach.

Mewn powlen, cymysgu'r olew, finegr, stoc cyw îar wedi'i leihau a'r mwstard gan ychwanegu halen a phupur yn ôl eich blas.

Cyn gweini - twymo'r dresin mewn sosban, ychwanegu'r perlysiau a'r tomatos.

I'w weini - Gosod y cig ar blāt, arllwys y dresin dros y cig a'i weini gyda llysiau o'ch dewis.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Panacotta gyda rŵm a saws caramel

Barn y Beirniaid

Blas: cydbwysedd da, cyfuniad da o flasau. Edrychiad: apelgar, syml, glan

Cystadleuwyr