English
S4C

Jan Wilson Jones

Byw: Rhuthun
Swydd: Athrawes ysgol gynradd rhan amser

Mae Jan wrth ei bodd yn coginio a gwylio rhaglenni coginio. Mae hi'n hoff iawn o fwyta ac yfed gwin coch yn enwedig hefo ffrindiau sydd yn arwain yn aml i losgi'r bwyd gan ei bod hi'n siarad gormod â nhw!! Yn ei amser rhydd mae Jan yn mwynhau darllen, canu mewn côr bwyta allan a theithio.

Un digwyddiad doniol pan oedd Jan newydd ddyweddïo ac yn paratoi swper i rieni ei darpar ŵr, ar y fwydlen stecen cig oen. Wyneb coch oedd gan Jan wedi iddi hi ddarganfod ar ôl i bawb fwyta'r bwyd nad oedd tad ei darpar ŵr yn hoffi cig oen!.

Hoff Rysáit: Anodd dewis! Pwdin bara menyn fanila
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: gwin coch/caws/choc-aholic, brwdfrydig a chyfeillgar

Rhaglen 7

Sialens Bouillabaisse

Creu Bouillabaisse traddodiadol i René heb ryseitiau na nodiadau i'w dilyn!

Gafwyd Jan sioc aruthrol wrth i Dudley fynd a'i nodiadau.

“Does dim syniad sut mae bod i flasu, a heb rysáit hefyd .... o da'ch chi mor greulon!”

Bu bron i Jan anghofio'r brocoli ond dim ots roedd Rene yn hapus iawn gyda'i bouillabaisse. Cyfle arall iddi fynd am y wobr fawr felly.

“Wnes i fwynhau - roedd e'n her!”


Y Sialens Olaf

Sialens i baratoi pryd o fwyd dau gwrs i dri gwestai pwysicaf yr ardal. A hynny yn union fel mae’r bwytai gorau yn eu gwneud.

Maelgi ar wely o ratatouille a thomato Provencal oedd prif gwrs Jan, gyda gellyg a mêl a saws teim melys i orffen.

Dewisodd Jan defnyddio’r holl bethau mae hi wedi dysgu tra’n Chez Dudley i geisio rhoi “bach o Provence ar blât iddyn nhw“.

A dyma’r penderfyniad yn gweithio. Roedd y beirniaid wedi'u plesio’n fawr iawn.

Roedd y prif gwrs yn wirioneddol arbennig yn ôl y beirniaid. Ac yn amlwg iddyn nhw bod llawer o waith wedi mynd i mewn i’r cyflwyniad. Rhagorol, oedd eu barn am y pwdin ac am ei bod hi wedi defnyddio cynnyrch o’r berllan mewn ffordd newydd.

Yn y diwedd dyma nhw’n dewis bwydlen Jan dros un Anna i ennill y sialens.

Jan oedd enillydd y gyfres a’r wobr fawr.

“Roedd o’n deimlad cwbl anhygoel, mae o dal fel breuddwyd a dweud y gwir.”

Rhaglen 6

Sialens Pwdin Perlysiau

Cyfuno ffrwythau gyda pherlysiau i greu pwdin i blesio Jeff Bérard a Bryn Williams.

Jan oedd wedi ei pharu gyda Anna ar gyfer y sialens hon.

Dyma nhw'n penderfynu pobi ffigys gyda coulis mefus a lafant, wedi ei weini a mascarpone fanila mewn box toes filo!

Rhy uchelgeisiol? Tra roedd Anna yn anghofio'r toes yn y popty a Jan yn fflyrtio gyda Jeff, mae'n syndod bod y pwdin wedi ei orffen mewn pryd.

Bois bach! Roedd yn edrych yn dda. Ond dim digon da i guro pwdin Nesta ac Aldwyn.


Sialens Omled

Yn syml, creu omled!

Plesiodd omled Jan y beirniaid ond nid oedd yn ddigon da i guro omled Anna.

Ymlaen aeth Jan i wynebu Aldwyn yn y sialens i weld pwy byddai'n ymuno â Nesta ac Anna yn y ffeinal.


Sialens o lyfr René

Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yn hyn oedd sialens arbennig gan René i ail greu un o'i ryseitiau - Draenog y Môr mewn Crwst gyda Saws Madarch A Siampên.

Roedd Jan yn wynebu Aldwyn i weld pwy oedd yn gallu coginio'r rysáit gorau, er mwyn ennill lle yn y ffeinal.

"Roedd o'n wych gweld y meistr René wrth ei waith yn dangos ei grefft ac roedd 'na lot o chwerthin wrth i'r siampên ffrwydro!!"

Dyma René yn canmol y ddau gogydd mentrus a thalentog. Ond yn y diwedd ond un enillydd sydd. Penderfynodd Rene bod toes Jan ychydig yn well nag un Aldwyn a dyma hi'n ennill ei lle yn y ffeinal.


Rhaglen 5

Sialens Tapenade ac Aioli

Yn dilyn taith i'r farchnad i brynu'r cynhwysion, dyma'r cystadleuwyr yn meddwl mai sialens i baratoi tapenade oedd y sialens nesaf. Ond na sialens i baratoi'r aioli yn lle!

Roedd Dudley wedi gwirioni gyda thechneg Jan gyda'r pestl a morter. Ond doedd Renè ddim wedi gwirioni gyda'i aioli, felly ymlaen a hi i'r sialens nesaf.


Sialens Parau

Yn dilyn taith i'r winllan, y sialens nesaf oedd dyfalu'r gwin a pharu gyda'r ffrwythau; dyfalu'r caws a pharu gyda'r anifail; ac i orffen paru'r caws gyda'r gwin!! Roedd Jan wedi paru gyda Nerys.

Roedd y tîm arall yn benderfynol bod Jan a Nerys yn mynd i ennill y sialens yma. Mae'r ddwy yn gallu siarad Ffrengig ac wedi treulio amser yn byw ac yn ymweld â Ffrainc.

Ond dyma nhw'n colli'r sialens am ei bod nhw'n methu adnabod y gwinoedd.


Sialens Bwyd a Gwin

Sialens i ddewis gwin, blasu dros nos a phenderfynu ar fwyd i goginio i'r beirniad gwadd - Bryn Williams.

Dewisodd Jan y gwin gwyn a phenderfynu coginio monkfish.

Ond, doedd hi ddim yn hapus.

"Dwi wedi anghofio rhoi'r tomatoes i mewn a dwi wedi llosgi'r winwns."

Gyda'i phen yn ei dwylo, roedd Jan yn benderfynol ei bod hi wedi colli. Ond na, mae Bryn yn ei hachub wrth ddewis cystadleuydd y gwin rosé i fynd adref.


Rhaglen 4

Sialens Max

Y dasg oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Calligari - cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd. Dewisodd Jan gael Anna a Nesta yn ei thîm hi, oherwydd teimlai fod Anna wedi bod yn 'sneaky' yn y sialens flaenorol, a ddewisodd Nesta am ei phrofiad helaeth o goginio.

Teimlai eu bod nhw wedi gweithio yn dda fel tîm a'u bod nhw wedi siwtio'n dda i'r tasgau. "Gafon ni gyd neud be da ni'n licio neud mewn ffordd. Ges i neud y pwdin." A dyma'r dewis yn gweithio - nhw oedd yn fuddugol!

Sialens Llyfant y Môr

Doedd ddim rhaid i Jan ymgymryd â sialens Llyffant y Môr oherwydd ni chafodd ei dewis gan y tîm wnaeth golli sialens Max!


Rhaglen 3

Sialens 10 Tomato

Y sialens oedd creu salad tomato hefo 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Roedd Jan gyda Eleanor.

Roedd Jan wedi drysu gyda'r wahanol fathau o domatos, llawer ohonom ni welwyd o'r blaen. Roedd y ddau yn ddigon hapus gyda'u salad domatos. "Wnawn ni fynd i fyta fe os di Jeff ddim yn licio fe".


Sialens Mille Fuille

Y sialens oedd creu rysáit Mille Fuille gyda ceuled lemwn a saws mafon. Teimla Jan mae hi oedd y mwyaf pryderus o'r pedair am y sialens newydd.

"Trio rhywbath i neud iddo edrych yn wahanol" i'r gweddill sydd angen "Os mae pawb yn gwell na fi, dyna ni dwi'n haeddu mynd adref." Ond roedd Jan yn poeni heb achos, oherwydd wnaeth Rene dewis ei Mille Fuille hi yn fuddugol.


Rhaglen 2

Roedd Jan mewn sioc a methu credu pan glywodd bod hi'n mynd i Provence. Roedd hi'n meddwl bod Dudley a'r beirniaid wedi gwneud camgymeriad! Ond ar yr awyren a hi, draw i ysgol goginio Berard!

"Roeddwn o fewn trwch blewyn i beidio â thrio o gwbl. Dwi mor falch fod Rob (ei gwr) a photel o win coch wedi gwneud i mi newid fy meddwl!"

Un gair sy'n disgrifio'r profiad i Jan - bythgofiadwy!

Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Jan pobi'r pysgod mewn papur a'i weini a ratatouille risotto.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Dwi'n iawn. O ni ddim yn gwybod be o ni'n neud"
Barn y beirniaid Doedd Jan ddim wedi lleihau'r gwin. Heblaw am hynny mae'n dda iawn.

Rhaglen 1 - Rownd 2
Cyw iâr Duxelles gyda saws gwin coch a phate.

Rysáit Jan

Gweini 2

Cynhwysion
Cyw Iâr:
2 madarch mawr fflat � wedi'u torri'n fân
2 winwnsyn bach - wedi'i dorri'n fân
1 ewin o arlleg mawr
2 brest cyw îar
menyn
haenen o bate ar y cyw îar
dyrned o bersli
halen a phupur du
stoc cyw îar

Y Saws:
2 winwnsyn bach
1 ewin garlleg
¼ pt gwin coch da
4 owns o bate
¼ pt hufen sengl
menyn
joch da o win eirin duon
rhosmari
deilen llawryf
halen a phupur du
food

Dull

Cyw Iâr:

Toddi'r menyn mewn sosban neu ffreipan, ychwanegu'r winwns a'r madarch a'u ffrio ar wres isel am 10 munud. Ychwanegu'r persli, halen a phupur du.

Yn y cyfamser, hollti'r cyw a'i agor allan cyn ei guro'n ysgafn i'w wneud yn fwy fflat. Rhoi halen a phupur du a haenen denau o bate ar y cyw. Rhoi'r duxelles (madarch a'r winwns) yn y canol a rholio'r cig mewn ffoil a'i goginio mewn stoc ar wres isel am ryw 20-30 munud.

Y Saws:

Ffrio'r winwns a'r garlleg yn y menyn. Ychwanegu'r gwin coch a'r perlysiau a gadael iddo ffrwtian am 10-15 munud. Curo'r pate a'r hufen gyda'i gilydd a'i ychwanegu'n araf i'r saws. Rhoi'r gwin eirin, halen a phupur i mewn i'r saws a'i weini gyda'r cyw.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Pwdin bara menyn fanila

Barn y Beirniaid

Blas: cydbwysedd da ysgafn a blasus ar fricyll yn gweithio yn dda. Edrychiad: melyn y pwdin yn mynd yn dda hefo lliw'r bricyll

Cystadleuwyr