English
S4C

Nerys Kelly

Byw: Aberystwyth
Swydd: Athrawes bwyd a maeth, a Ffrangeg yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth

Person bywiog ac yn hoff o sialens yw Nerys.

Mae hi wrth ei bodd yn coginio i'r teulu ac â diddordeb mawr ymhob dim i wneud âFfrainc. Bu'n byw ym Mrest am 8 mlynedd lle bu'n dysgu Saesneg i staff yn y Siambr Fasnach yno.

Yn ei amser rhydd mae hi'n hoffi gwrando ar bob math o gerddoriaeth mae hi'n chwarae'r gitâr ac yn hoffi mynd allan i ddarganfod bwyd o wledydd gwahanol.

Hoff Rysáit: Cig carw gyda madarch gwyllt mewn saws gwin coch.
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: frwdfrydig, ffeind ac unigryw.

Rhaglen 5

Sialens Tapenade ac Aioli

Yn dilyn taith i'r farchnad i brynu'r cynhwysion, dyma'r cystadleuwyr yn meddwl mai sialens i baratoi tapenade oedd y sialens nesaf. Ond na sialens i baratoi'r aioli yn lle! Nerys gaeth y pestl a mortar mwyaf.

"O ni bron mhoen golchi babi ynddo fe"

Ond doedd aioli Nerys dal ddim di plesio Renè.

"Mae'n tamaid bach rhy hallt i mi ond gyda llysiau fydd yn iawn."

Gafodd Nerys amser bendigedig ac roedd hi'n falch bod Nesta wedi ennill a neb arall!


Sialens Parau

Yn dilyn taith i'r winllan, y sialens nesaf oedd dyfalu'r gwin a pharu gyda'r ffrwythau; dyfalu'r caws a pharu gyda'r anifail; ac i orffen paru'r caws gyda'r gwin!! Roedd Nerys wedi paru gyda Jan.

Roedd Nerys yn benderfynol ei bod hi'n gallu enwi'r caws. Ond yn anffodus, Jan oedd yn gywir y tro hyn.

Dyma nhw'n colli'r sialens ac wedyn gorfod dewis un o'r tîm buddugol i ymuno a nhw yn y sialens nesaf. Er mwyn gallu rhoi brêc i Anna, dyma nhw'n dewis Aldwyn.


Sialens Bwyd a Gwin

Sialens i ddewis gwin, blasu dros nos a phenderfynu ar fwyd i goginio i'r beirniad gwadd - Bryn Williams.

Dewisodd Nerys y gwin rosé a phenderfynu ar y funud olaf i goginio pysgodyn coch.

Yn anffodus, dyma Bryn yn dewis y gwin rosé i fynd allan o'r gystadleuaeth. Druan a Nerys roedd rhaid iddi adael Provence.

"O'n ni'n gwybod mai fi oedd e. Ond mae hwnna'n dangos mod i wedi dysgu."


Rhaglen 4

Sialens Max

Y dasg oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Calligari - cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd. Roedd Eleanor ac Aldwyn yn nhîm Nerys. Cyfrifoldeb Nerys oedd cyd-lynu'r coginio ac i weini'r cyrsiau i Max.

"Dwi'n neud menu achos mae rhaid i mi serfio'r bwyd i Max, so mae rhaid i fi cymryd pethau yn serious!" Ond a'i hyn oedd y ffordd i blesio'r beirniad - gyda bwydlen hardd oddi ar y cyfrifiadur? Fe wnaethon nhw golli'r sialens - penderfynwch chi!



Sialens Llyfant y Môr

Creu un o brydau traddodiadol yr ardal - Llyffant y Môr wedi ei stwffio. Roedd Nerys yn gyffrous i wneud y sialens yma.

"Wi'n credu heddiw mae'r dasg yn un deg iawn, mae neb wedi defnyddio'r pysgodyn o'r blaen." Teimlai Nerys yn fodlon iawn gyda'i ymdrech, er efallai bod angen mwy o halen! Roedd y beirniaid yn hapus hefyd, a'r pysgod wedi coginio yn berffaith - hi enillodd y sialens!


Rhaglen 3

Sialens 10 Tomato

Y sialens oedd creu salad tomato hefo 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Roedd Nerys gyda Nesta.

Roedd Nerys yn siomedig eu bod nhw wedi anghofio rhoi halen ar eu salad domatos. "Maen nhw'n licio pethau hallt yn fan hyn" Ond wnaeth yr halen ddim gwahaniaeth i'r faith mae salad nhw oedd ffefryn Jeff. Rodd y ddau yn awr yn 'saff', heb orfod cystadlu yn y sialens nesaf.


Sialens Mille Fuille

Roedd Nerys yn 'saff' oherwydd iddi ennill y Sialens 10 Tomato. Nid oedd rhaid iddi ymgymryd â'r Sialens Mille Fuille.


Rhaglen 2

Roedd Nerys yn meddwl bod Dudley yn tynnu'i choes pan glywodd ei bod hi'n cael mynd i Provence. Croeso i Ffrainc! Roedd Nerys wrth ei bodd gyda phrydferthwch Provence. "Dwi mwy na hapus, mae hyn fel breuddwyd. Ydw i'n gallu symud mewn cyn bod hir?"

Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Nerys coginio'r pysgod mewn ffoil a'i weini gyda rissotto a ratatouille
Sut oedden nhw'n teimlo? "Mae e mor dwyn yn y gegin. Ydw i'n binc ac yn hyfryd? Dwi'n eitha bles da beth wnes i".
Barn y beirniaid Bland, dim digon o halen a dim digon dyfeisgar.

Rhaglen 1 - Rownd 2
Tagine cyw iâr â datys

Rysáit Nerys

Gweini 4

Cynhwysion
1 cyw îar (wedi torri i bedwar)
3 winwns coch
5 moron
3 clof garlleg
250g datys
braster gŵydd
3 ll fdd mêl
dyrned o goriander ffres
2 l de o sinamon
2 l de o sinsir
1 l de o cumin (opsiynol)
pinsiad o saffrwm wedi'i gymysgu gyda dŵr cynnes
couscous
food

Dull

Cynhesu'r braster mewn ffreipan a brownio'r cig ar bob ochr.

Mewn ffreipan neu sosban arall, gosod y winwns, garlleg, sbeisys a gweddill y cynhwysion (heblaw am y mêl a'r stoc) a'u coginio hyd nes i'r winwns feddalu.

Trosglwyddo'r cyfan i tagine neu ddysgl caserol a'i osod yn y ffwrn ar wres o 200�F am 1 awr neu hyd nes bod y cig yn dyner.

Paratoi'r couscous yn ôl cyfarwyddiadau'r pecyn.

I'w weini - gosod y tagine ar y bwrdd a'i weini gyda'r couscous a gwydred o win coch da.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Pate afu cyw iâr gyda tsytni ffigys

Barn y Beirniaid

Blas: blasus tu hwnt a chyfuniadau da. Edrychiad: 'rustic'

Cystadleuwyr