English
S4C

Nesta Treharne

Byw: Pontarddulais
Swydd: Gwraig Tŷ

Roedd gan Nesta restr faith o bethau ma' hi wrth ei bodd yn eu gwneud! Ar dop y rhestr - coginio wrth gwrs, yna garddio, teithio, casglu hen bethau, mwynhau gwrando ar gerddoriaeth a gwneud Sudoku y Times bob dydd!!

Hoff Rysáit: Tynerlwyn porc gyda stwffin bricyll gyda saws seidr.
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: byw bywyd llawn.

Rhaglen 7

Sialens Bouillabaisse

Creu Bouillabaisse traddodiadol i René heb ryseitiau na nodiadau i'w dilyn!

Roedd Nesta eitha' hyderus cyn y sialens yma - mae'n hoffi coginio pysgod.

"Dwi'n mynd i fwynhau hwn, s'dim pwynt gofidio."

Ond newidiodd popeth ar ôl i Dudley ddwyn ei nodiadau.

Cyfaddefodd René bod y rysait yma yn un anodd iawn, ond yn y pen draw nid oedd digon o gawl yn bouillabaisse Nesta a roedd dal gwpwl o esgyrn yn y pysgod.

Druan a Nesta dyma hi'n colli'r sialens a'i lle yn y ffeinal. Ond a wnaeth hi fwynhau'r sialens?

“Mae di fod yn braint, breuddwyd ac yn braf. Dwi di ennill 4 sialens ac wedi mwynhau'n fawr iawn.”


Y Sialens Olaf

Roedd Nesta wedi colli'r Sialens Bouillabaisse a dyma hi ar ei ffordd adref i Gymru.

Rhaglen 6

Sialens Pwdin Perlysiau

Cyfuno ffrwythau gyda pherlysiau i greu pwdin i blesio Jeff Bérard a Bryn Williams.

Dewisodd Aldwyn Nesta i ymuno gydag ef am ei bod hi wedi ennill y sialens ddiwethaf.

Dyma nhw'n penderfynu pobi eirin gwlanog gyda mêl, sudd oren a basil, a gweini a mascarpone. Ond roedd eirin gwlanog o berllan René mor feddal roedd yn amhosib eu torri. Felly bu rhaid iddynt ddefnyddio bricyll yn lle.

Dim ots, dyma nhw'n ennill ta beth!

Yn ffodus iawn i Nesta, dyma'r merched yn dewis Aldwyn i ymuno a nhw yn y sialens nesaf. Golygai hyn fod Nesta yn y ffeinal!

Sialens Omled

Ni wnaeth y tîm arall ddewis Nesta felly mae hi yn y ffeinal.

Sialens o lyfr René

Ni wnaeth y tîm arall ddewis Nesta felly mae hi yn y ffeinal.


Rhaglen 5

Sialens Tapenade ac Aioli

Yn dilyn taith i'r farchnad i brynu'r cynhwysion, dyma'r cystadleuwyr yn meddwl mai sialens i baratoi tapenade oedd y sialens nesaf. Ond na sialens i baratoi'r aioli yn lle!

"Wrth weld René'n paratoi roedd e mor hawdd ond pan ti gorfod neud e dy hunan dyw e ddim mor hawdd!"

Ond roedd René wrth ei fodd gydag aioli Nesta a dyma hi'n ennill y sialens.


Sialens Parau

Roedd Nesta yn 'saff' oherwydd iddi ennill y Sialens Tapenade ac Aioli. Nid oedd rhaid iddi gymryd rhan yn y Sialens Parau.


Sialens Bwyd a Gwin

Roedd Nesta yn 'saff' oherwydd iddi ennill y Sialens Tapenade ac Aioli. Nid oedd rhaid iddi gymryd rhan yn y Sialens Bwyd a Gwin.


Rhaglen 4

Sialens Max

Y dasg oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Calligari - cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd. Dewisodd Jan gael Anna a Nesta yn ei thîm hi. Nesta oedd yn gyfrifol am baratoi'r cwrs cyntaf. Teimlai bod y merched wedi gweithio yn dda fel tîm a phawb yn gwybod peth i wneud. "Mae'r merched yn dweud 'so ti'n panicio' ond tu fewn wi'n meddwl bo fi yn" Dim rheswm i banicio Nesta - chi 'di ennill!

Sialens Llyfant y Môr

Doedd ddim rhaid i Nesta ymgymryd â sialens Llyffant y Môr oherwydd ni chafodd ei dewis gan y tîm wnaeth golli sialens Max!


Rhaglen 3

Sialens 10 Tomato

Y sialens oedd creu salad tomato hefo 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Roedd Nesta gyda Nerys.

Roedd Nesta wrth ei bodd i gael ennill y sialens. "Odd e'n grêt! Roedd Nerys a fi fel dwy champ!"


Sialens Mille Fuille

Roedd Nesta yn 'saff' oherwydd iddi ennill y Sialens 10 Tomato. Nid oedd rhaid iddi ymgymryd â'r Sialens Mille Fuille.


Rhaglen 2

Roedd Nesta'n teimlo'n gwbl gyfforddus pan glywodd bod hi'n mynd i Provence ac yn edrych ymlaen at brofiad newydd yn ei bywyd.

Roedd Provence fel "byd arall yn yr haul a ffordd arall o fyw a choginio. Yr ardal yn lân ac yn ffres a dim glaw!!"

Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Nesta gweini ffiledau o bysgod ar ben twr o risotto a ratatouille.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Dwi'n synnu bod llysiau al dente yn annerbyniol yn y gwres!"
Barn y beirniaid Bysa'r pysgod yn edrych yn well petai'r croen i fyny ac roedd y llysiau heb ei goginio digon.

Rhaglen 1 - Rownd 2
Poussin gyda garlleg a saws ffa du.

food

Rysáit Nesta

Gweini 2

Cynhwysion
2 poussin
2 l fdd tapenade olifau du
1 sudd lemwn
4 ll fdd olew yr olewydd
10 ewin tew o arlleg - wedi'u pilio
250 ml vermouth sych
4 dail llawryf
pinsiad o halen môn a phupur du
tun neu jar o saws ffa du
75g reis grawnir a gwyllt - wedi'i berwi/stemio
2 pak choi - wedi'u torri a'u ffrio/berwi

Tapenade:
20 olifau du
1 ll bdd caprys
1 ll de sudd lemwn
1 ll bdd olew yr olewydd
2 tomato heulsych
1 ewin bach o arlleg
1 ll bdd cognac

Dull

Gosod cynhwysion y tapenade mewn prosesydd bwyd a'u cymysgu'n dda i greu past.

I bob aderyn cymerwch un llwy fwrdd o'r tapenade a gwasgiad da o'r sudd lemwn gan ei ddefnyddio i iro'r gwacter yn eu canol.

Cynhesu'r olew mewn dysgl caserol a brownio'r adar gan eu troi o ochr i ochr.

Ychwanegu'r garlleg wedi'u pilio a'u coginio'n ysgafn am 2 funud.

Arllwys y Vermouth i mewn i'r caserol ac ychwanegu halen a phupur dros yr adar gan dwcio'r dail llawryf yn eu ceseiliau

Gorchuddio'r adar gyda'r Saws Ffa Du, rhoi caead ar ei ben y caserol a'i osod mewn ffwrn (a rhagdwymwyd i 190°C/Nwy 5) am 45 munud, gan iro bob 15 munud hyd nes bod yr adar yn dyner.

Gweini'r Poussins, y garlleg a'r saws o'r caserol gyda reis gwyllt a Pak Choi.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Brithyll wedi ei fygu mewn te

Barn y Beirniaid

Blas: ysgafn cyfuniad neis blasau wedi gweithio'n dda brithyll wedi ei goginio'n berffaith. Edrychiad: ffres, hyfryd

Cystadleuwyr