Owain Morris
Byw: Dinbych
Swydd: Rheolwr Systemau Gwybodaeth
Pan mae Owain yn cael pum munud mae wrth ei fodd yn chwarae golff, chwarae a gwylio rygbi, cerdded a thrwsio cyfrifiaduron.
A'i hoff fwyty yng Nghymru ar hyn o bryd yw'r Bistro ym Metws y Coed, bwyd, awyrgylch a gwasanaeth gwych!
Hoff Rysáit: Cyri cig oen Cymreig gyda bricyll ag almonau
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: brwdfrydig, angerddol ac egniol.
Rhaglen 2
"Gwych!", oedd ymateb cyntaf Owain pan glywodd y newyddion da ei fod ar y sedd ar yr awyren draw i Provence.
"Do ni methu coelio fy mod wedi mynd drwy'r rownd gyntaf heb son am yr ail rownd gan fod y safon yn uchel iawn. Ro ni'n gwybod fod Provence yn ardal hyfryd a bod 'na fwyd a gwin da yna felly ro ni'n edrych ymlaen."
Y profiad sy'n aros yng nghof Owain yw gweld y cogyddion Ffrengig yn gwneud �demos' o'u prydau.
"Oni'n siomedig iawn o fynd adra ar y diwrnod cyntaf achos do ni ddim isho bod y cyntaf allan, ond ro'n i wedi gwneud camgymeriad ym mharatoi'r pryd. Er hyn ro ni'n falch fy mod wedi cyrraedd Provence yn y lle cyntaf."
Un gair i ddisgrifio'r profiad? "Byr!"
Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Owain ffrio'r pysgod gyda garlleg a berlysiau a'i weini gyda pupur wedi rhostio a stripedu o gorbwmpen wedi stwffio.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Iawn dwi'n meddwl. Odd rhaid i mi feddwl yn sydyn. Odd gynna fi ddim amser i newid fy meddwl."
Barn y beirniaid Roedd y pysgod heb ei goginio yn iawn. Doedd Owain heb dynnu croen y pupur. Roedd y syniad yn dda ond y dechneg yn wael.
Rhaglen 1 - Rownd 2
Cyw iâr pan a phopty, gyda jus gwin coch, tatws daphinoise, bresych coch a llysiau.
Rysáit Owain
Gweini 2Cynhwysion
Tatws Dauphinoise:
2 tatws mawr wedi ei sleisio'n denau ee. King edward
120ml hufen dwbl
120ml llaeth
50g caws gruyere wedi ei gratio'n fân
nytmeg wedi ei gratio
Cabej Coch:
1 cabej coch
25g menyn
pinsiad o halen a phupur
1 ll fdd o siwgr brown
30ml finegr balsamig
Cig Moch, Madarch a Winwns bach:
1 sleis o gig moch da - dim dŵr ynddo
8-12 winwns bach
2 ddyrned o fadarch
Saws Gwin Coch a'r Cyw îar:
Stoc
1 cyw îar
1 winwnsyn bach - wedi'i dorri'n fân
2 clof o arlleg - wedi'i falu
2 l fdd brandi - i lanhau'r sosban
1 winwnsyn - wedi'i sleisio
2 halogen - wedi'u sleisio
2 moron - wedi'u sleisio
4 sbrigyn o deim
3 deilen bae
1 ll de o saets
½ lemwn - wedi'i sleisio
1 ll de o siwgr gwyn
½-¾ potel o win coch da Ffrengig eithaf ysgafn fel Bourougne neu Beaujolais
Dull
Tatws Dauphinoise
Berwi'r tatws yn y llaeth a'r hufen am 10 munud, ychwanegu hanner y caws. Rhoi haenen ffilm mewn dysglau ramekin, yna iro'r ochrau gyda menyn a rhwbio garlleg o fewn ochrau. Rhoi'r gymysgedd i mewn i'r dysglau a'u gosod yn y ffwrn am 45 munud ar wres o 180°/Nwy 4. Ychwanegu gweddill y caws i'r top, gyda phinsiad o nytmeg a phupur du.
Cabej Coch
Torri'r cabej coch yn chwarteri gan waredu'r darn gwyn yn y canol a sleisio'r cabej yn denau iawn. Rhoi mewn padell neu sosban fawr gyda'r menyn, halen a phupur a'r siwgr brown a'i goginio am 5 munud ar wres isel. Ychwanegu'r finegr balsamig, a'i dod i'r berw, yna ychwanegu'r un faint o ddŵr a'i fudferwi dros wres isel am hanner awr - dibynnu ar eich blas efallai fydd rhaid ychwanegu mwy o siwgr.
Cig Moch, Madarch a Winwns bach
Torri'r cig moch yn ddarnau a'u ffrio mewn padell/sosban fawr gydag ychydig o olew yr olewydd ac ychydig o fenyn (hanner a hanner). Mewn sospan fach berwi'r madarch mewn ychydig o ddŵr ar wres isel, gyda'r caead ymlaen am tua 5 munud. Ar ôl i'r cig moch a'r winwns bach frownio, eu trosglwyddo i ddysgl. Ychwanegu'r madarch i'r ddysgl a'i osod naill ochr. Gadael y braster yn y sosban ar gyfer y stoc:
Saws Gwin Coch a'r Cyw Îar:
Stoc Rhoi 'carcas' y cyw, esgyrn, ac adenydd i'r badell/sospan oedd yn cynnwys y braster uchod. Ychwanegu'r 2 frest gyda'r croen ymlaen a selio'r cig am 2 funud ar bob ochr. Trosglwyddo 2 frest yn unig i'r ffwrn a'u rhostio am 30 munud ar wres o 160°/Nwy 2. Parhau i ffrio'r esgyrn sy'n weddill, ychwanegu'r winwnsyn bach, garlleg ac yna'r brandi a'r roi ar dân. Ar ôl i'r fflamau ddiffodd , ychwanegu'r halogen, winwnsyn, a'r moron a'u chwysi am 5 munud. Ychwanegu'r teim, dail bae, saets, lemwn a'r siwgr. Arllwys hanner y gwin coch dros y cyfan, rhoi caead ar ei ben a'i ferwi ar wres isel am hanner awr. Hidlo'r gymysgedd fel eich bod gyda saws gwin coch llyfn gan dynnu unrhyw fraster oddi ar y top. Rhoi'r saws yn ôl mewn sosban lan a'i fudferwi am ryw 5-10 munud hyd nes i'r saws leihau. Ychwanegu mwy o win a pharhau i leihau hyd nes bod y lliw yn tywyllu, a'r saws yn tewhau. Tynnu'r cig o'r popty a'i osod dan y gril am 5 munud hyd nes bod y croen yn grimp. Ychwanegu'r madarch, winwns bach a'r cig moch i'r saws i ail-gynhesu.
I'w weini - rhoi'r bresych yng nghanol y plât, sleisio'r cig a'i osod ar ben y bresych. Gosod y tatws ar ochr y plât ac arllwys y saws dros y cig.
Rhaglen 1 - Rownd 1
Caws Gafr gyda saws cnau Ffrengig
Barn y Beirniaid
Blas: cydbwysedd da cyfuniad da o flasau, yn gweithio. Edrychiad: lliwgar