English
S4C

Richard Michael John

Byw: Porthmadog
Swydd: Myfyriwr arlwyo yng Ngholeg Menai

Mae Michael yn hoff iawn o goginio a darllen llyfrau am fwyd, er enghraifft Harold McGee Food, Science and Culture.

Mae o wrth ei fodd yn creu rysetiau newydd a gwahanol ac yn ei amser rhydd mae'n chwarae snwcer, pêl droed, rygbi a mwy o goginio!! Ymddangosodd ar y rhaglen blant boblogaidd Uned 5 yn dangos ei sgiliau snwcer!

Hoff Rysáit: Macrell wedi ei faraneiddio mewn tequila pomegraned â sudd leim a'i osod ar wely o salad ffenigl.
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: hyderus, annwyl a thalentog

Rhaglen 3

Sialens 10 Tomato

Y sialens oedd creu salad tomato hefo 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Roedd Michael John gydag Anna

Roedd Michael yn edrych ymlaen at y dasg ar ôl teimlo'n ddigalon y diwrnod cynt ac yn ddigon bodlon gyda'u salad domatos. Er hynny gafwyd sioc i glywed bod 'na sialens arall yn dilyn..... "Do ni ddim yn meddwl bod na rywbath yn mynd ohoni...meddwl mai hwyl a sbort o ddysgu rywbath newydd yn unig oedd hi"


Sialens Mille Fuille

Y sialens oedd creu rysáit Mille Fuille gyda ceuled lemwn a saws mafon. Roedd Michael yn nerfus iawn ond yn ceisio cadw'n cŵl.

"Do wnaeth e troi allan yn well na beth o ni'n meddwl. Wnes i fwynhau yn well na ddoe." Ond yn anffodus i Michael, ei dro ef oedd mynd adref!


Rhaglen 2

Roedd Michael wedi paratoi ar gyfer y sialensiau yn Provence. Daeth ef a llond câs o lyfrau coginio o adref.

"Sa fi wedi dod a mwy gyda fi, ond o ni gorfod dod a dillad efo fi!"

Y sialens 5 cynhwysyn Wnaeth Michael ffrio ffiledau y pysgod mewn padell a'u gweini gyda salsa winwns.
Sut oedden nhw'n teimlo? "Shambles! O ni ddim yn gwybod be o ni'n neud - nightmare!"
Barn y beirniaid Doedd e ddim wedi tynnu'r esgyrn allan. Rhy hyderus a ddim digon da.

Rhaglen 1 - Rownd 2
Cinio dydd Sul posh

food

Rysáit Michael

Gweini 2

Cynhwysion
2 coes cyw îar
50g iau cyw îar (opsiynol)
2 sleis o gig moch brith
2 sleis o gig moch wedi'u halltu'n sych
8 winwns bach
2 pen asparagws
8 moron bach
6 madarch bach
2 tatws (maris piper) - wedi'u pilio
75g menyn
teim
garlleg
25g blawd plaen
2 pt stoc cyw îar
250ml gwin gwyn Cymreig
100ml brandi
halen a phupur

Burre Mannie:
50g menyn
30g blawd plaen
mewn powlen, rhwbio'r blawd a'r menyn gyda'i gilydd yna ychwanegu yn raddol i'r saws hyd nes i'r saws dewhau.

Method

Cynhesu'r ffwrn i 220°C/Nwy 8.

Rhoi 1_pt o'r stoc cyw îar mewn sosban a dod i'r berw, ychwanegu'r tatws, garlleg, teim a hanner y menyn i mewn i'r sosban a'i drosglwyddo i'r ffwrn.

Dod â sosban o ddŵr i'r berw, ychwanegu'r moron a'u gwynnu am 50 eiliad ac yna'r asparagws am 30 o eiliadau a'u rhoi naill ochr.

Darparu'r cig wrth wahanu'r glun o'r coes cyw. Stwffio'r iau i mewn i'r glun a'i lapio mewn sleisen o gig moch wedi'i halltu'n sych. Gosod y cig mewn ffreipan a'u goginio hyd nes iddo frownio, ychwanegu'r cig moch brith i'r ffreipan yna ei drosglwyddo i ddysgl sy'n addas i'r ffwrn.

Yn yr un ffreipan, ffrio'r winwns bach hyd nes iddynt feddalu yna ychwanegu'r brandi.

Ychwanegu'r gwin er mwyn glanhau gwaelod y ffreipan ac yna ei leihau i hanner maint cyn ychwanegu gweddill y stoc a'i dewhau gyda burre manie (gweler isod).

Ffrio'r madarch yn ysgafn mewn menyn a'u hychwanegu i'r cyw îar a'r cig moch brith.

Ail-gynhesu'r moron a'r asparagws.

I weini - gosod y cig yng nghanol y plât, arllwys y saws o gwmpas y cig gyda'r madarch, cig moch brith, llysiau a'r tatws bach o gwmpas y cig.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Panacotta Lemwn, syryp leim a bisgedi brau

Barn y Beirniaid

Blas: saws leim arbennig o dda.
Edrychiad: syml

Cystadleuwyr