English
S4C

Rob Rattray

*

Byw: Aberystwyth
Swydd: Cigydd a ffermwr

Rob Rattery cigydd a ffermwr o Aberystwyth. Hoffi saethu a physgota ond mae ei amser yn mynd i gynhyrchu cig oen blasus 'Dyffryn Ystwyth' i'w siop yn Aber. Clod mawr yn ddiweddar oedd cael ei dderbyn fel aelod o'r Q Guild of Butchers.

Mae o wrth ei fodd yn coginio a bwyta bwyd da ac yn credu mewn byw i fwyta a dim bwyta i fyw a hefyd yn dweud na ddylech fyth drystio cigydd tenau!!

Hoff Rysáit: Unrhywbeth gyda chig oen neu stecen.
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: drwg, drygionus a diddorol

Rhaglen 1 - Rownd 2
Poussin hefo saws Madeira.

Rysáit Rob

Gweini 2

Cynhwysion
1 poussin
1 ll fdd o Madeira
125 ml hufen dwbl
125ml llaeth
25g menyn
½ winwnsyn coch
½ winwnsyn gwyn
100g briwsion bara
sbrigyn o deim
sbrigyn o bersli
pinsiad o halen a phupur du
dyrned o geirios y wern
dyrned o fricyll
2 tatws
6 moron bach

Dull

Tynnu-r esgyrn o'r Poussin (carcas yn unig). Rhostio'r pouisson am 25 munud. Berwi'r tatws a'i stwnshio. Chwysi'r winwnsyn gwyn mewn menyn am 5 munud, ychwanegu'r briwsion bara a'r llaeth a'i gymysgu'n dda. Ychwanegu'r bricyll a cheirios y wern a'i adael i fudferwi am 5 munud. Mewn padell neu sospan arall, carameleiddio'r winwnsyn coch. Ychwanegu'r winwnsyn coch i'r tatws a'u cadw'n gynnes. Berwi'r moron hyd nes yn dyner.

Y Saws

Cynhesu'r hufen dwbl, Madeira a'r perlysiau a'i leihau.

I' weini

gosod y stwffin ar ganol y plât a rhoi'r poussin i eistedd ar y stwffin, yna arllwys y saws dros ben y cig a'i weini gyda'r llysiau ffres.


Rhaglen 1 - Rownd 1
Afu hwyaden mewn garlleg gyda cointreau a hufen

Barn y Beirniaid

Blas: ychydig yn sych dim bai ar Rob a digon o flas ar y cig. Edrychiad: syml ond angen ychydig mwy o saws

Cystadleuwyr