Siwan Richards
Byw: Caerdydd
Swydd: Swyddog marchnata
Wrth ei bodd yn teithio, sgïo, deifio sgwba, mynd i'r gampfa a nofio.
Mae hi wrth ei bodd yn mynd ar ei gwyliau i Ffrainc gan ei bod yn hoff iawn o glebran gyda'r bobl leol!
Mae hi'n hoffi coginio a siarad am fwyd a threulio rhan fwyaf o'r dydd yn breuddwydio am y pryd nesaf!
Hoff Rysáit: Steak au poivre.
3 Gair i ddisgrifio ei hunain: bywiog, brwdfrydig a blasus.
Rhaglen 1 - Rownd 2
Cyw iâr gyda parmesan, cnau pîn a basil wedi'i lapio mewn parma ham
Rysáit Siwan
Gweini 2Cynhwysion
2 brest cyw îar
2 o ddail basil ffres
2 ll fdd parmesan - wedi'i gratio
2 ll fdd cnau pîn
6 sleis o parma ham
1 ll fdd olew yr olewydd
tatws bach - digon i 2
halen môn - pinsiad
rhosmari - 2-3 sbrigyn
tomatoes bach - digon i 2
tsili - yn ôl eich blas
1 corbwmpen
Dull
Gosod y cnau ar hambwrdd a'u tostio yn ysgafn dan gril. Torri poced yn y cyw îar a gosod y cnau, deilen o fasil a'r parmesan yn y canol. Lapio cig mewn stribedi o parma ham ac yna mewn haenen lynu. Berwi dŵr mewn padell a photsio cig am 6 munud gan ei droi hanner ffordd. Tynnu'r cig o'r dŵr a gwaredu'r haenen lynu. Cynhesu'r olew mewn padell ffrio a selio'r cig ar bob ochr cyn ei osod yn y ffwrn am 20 munud ar wres o 180°C/Nwy 4.
Tatws wedi'u rhostio gyda Rhosmari
Rhoi ychydig o olew ar hambwrdd pobi a'i gynhesu yn y ffwrn ar wres o 180°C/Nwy 4. Gosod y tatws yn yr olew poeth a'u gorchuddio â halen môn a rhosmari, a'u pobi am 1 awr.
Tomatos Ceirios wedi'u rhostio gyda Chili
Gosod y tomatos ac ychydig o'r tsili (dibynnu ar eich blas) ar hambwrdd a'u gosod yn y ffwrn am 15 munud ar yr un gwres a'r tatws. Gweini'r tomatos heb y tsili.
Corbwmpen wedi'i gridlo
Cynhesu padell gridl. Sleisio'r gorbwmpen yn stribedi ac arllwys ychydig o olew yr olewydd dros y gorbwmpen a'i choginio am ychydig funudau hyd nes iddo frownio.
Sleisio'r cig yn rowndiau/cylchoedd a'i weini gyda'r llysiau.
Rhaglen 1 - Rownd 1
Tartenni caws gafr gyda llysiau wedi eu rhostio
Barn y Beirniaid
Blas: da, pastry da, crwst arbennig, llysiau blasus.
Edrychiad: lliwgar, da, edrych fel bwyd cartre'