Bryn Williams
Byw: Llundain, ond yn wreiddiol o Ddinbych
Swydd: Newydd agor tŷ bwyta yn Llundain
Dechreuodd ei ddiddordeb mewn bwyd pan oedd yn ddeg oed ar ôl ei ymweliad â Becws Alwyn Thomas yn Ninbych. Yno fe gafodd wersi ar sut i wneud bara ac ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach dechreuodd weithio yno - dyma oedd ei ysgogiad i gael gyrfa fel cogydd proffesiynol.
Ar ôl gadael Ysgol Glan Clwyd yn Llanelwy aeth Bryn ymlaen i astudio arlwyo yng Ngholeg Llandrillo a chael NVQ Lefel 3 mewn darpariaeth bwyd a choginio, yno hefyd bu iddo ennill Myfyriwr y Flwyddyn.
Ar ôl gorffen coleg cafodd swydd fel 'chef de partie' ym mwyty Marco Pierre White yn Llundain cyn symud wedyn i 'Le Gavroche'. Ar ôl 16 mis o waith caled yn 'Le Gavroche' fe gafodd ddyrchafiad i fod yn 'sous chef'. Yn y flwyddyn 2003 symudodd i'r Orrery yn Llundain a llynedd daeth yn ail yng nghystadleuaeth y brodyr Roux.
Great British Menu: Eleni bu'n llwyddiannus iawn yn y gyfres Great British Menu, cyfres a oedd yn dilyn cogyddion enwog yn paratoi gwledd i ddathlu pen-blwydd y frenhines yn wyth deg. Yn y rownd gyntaf bu i Bryn chwysu a choginio pryd gwerth chweil a welodd o'n curo Angela Hartnett ac yn mynd ymlaen i'r rownd nesaf. Roedd yn rhannu cegin gyda Richard Corrigan, Nick Nairn a Marcus Wearing a bu i'w bryd torbwt gyda chocos a chynffon bustach gael canmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid a Bryn fu'n llwyddiannus! "Roedd hi'n brofiad arbennig gwneud y rhaglen Great British Menu, roedd hi'n gyfle arbennig i ddangos cynnyrch Cymru ac yn brofiad gwych cael gweithio gyda'r cogyddion gorau Prydain."
Yn ddiweddar mae Bryn wedi cael y cyfle i agor tŷ bwyta yn Llundain ac mae o'n brysur yn chwilio am gynnyrch da i'w weini yn ei fwyty.
Y Dyfodol: Canolbwyntio ar y tŷ bwyta a chadw'r safon yn uchel.