Elen Dupuy
Byw: Caerdydd
Swydd: Cyfieithydd.
Cafodd ei geni a'i magu yng Nghaerdydd a mynychodd ysgol gynradd Bryntaf ac yna ysgol Gyfun Glantaf. Yn ystod ei phlentyndod bu i'w rhieni redeg gwesty Llety Cymro yn y ddinas. Treuliodd lawer o amser yn Ffrainc gan fod ei mam ai thad yn ffrancoffeils mawr. Maent erbyn hyn wedi ymgartrefi yno!
Astudiodd Ffrangeg a Drama ar gyfer lefel A, ond doedd dim awydd o gwbl arni i fynd i'r Brifysgol, felly fe dreuliodd flwyddyn yng ngwlad Belg yn gweithio fel au pair. Dychwelodd i Gymru yn gymharol rugl yn Ffrangeg a gyda chymorth lwfans entrepreneur y llywodraeth sefydlodd asiantaeth au pair a nani cyntaf De Cymru. Agorodd y swyddfa yng Nghaerdydd yn 1989 gyda ffacs, ffon, papur a phensil! Ymhen tair blynedd roedd waliau'r swyddfa wedi'u haddurno gyda chardiau post gan au pairs dros y byd!
Yn ystod y cyfnod yma bu iddi gwrdd ai ngŵr Francis, ac roedd yn freuddwyd gan y ddau i agor tŷ bwyta rhyw ddydd. Ganwyd eu plentyn cyntaf Marianne yn 1992 ac yna Ifan yn 1995. Agorwyd Le Gallois yn 1998 mewn partneriaeth gyda'i brawd Padrig cogydd dawnus iawn au rhieni. Am fwy o wybodaeth ewch i: www.legallois-ycymro.com.
Yn 2005 agorwyd France Galles, siop sy'n arbenigo mewn pethau Ffrangeg gyda detholiad arbennig o win Ffrangeg ac yn 2006 agorwyd Café France Galles Am fwy o wybodaeth ewch i www.francegalles.com.