Guy Gedda
Byw: Var, Provence
Swydd: Arbenigwr ag yn ymgynghorydd bwyd a cuisine Provence.
Fel arfer mae plant yn cael eu geni mewn ysbyty neu ystafell wely ond fe gafodd Guy Gedda ei eni mewn cegin! Roedd ei rieni a'i nain a'i daid yn gogyddion ac yn cadw bwytai.
Bu i Guy Gedda hyfforddi fel cyffeithiwr a 'patisserie' a bu'n coginio yn Marseille am gyfnod. Bu wedyn yn brif gogydd ym mwyty'r teulu yn Bormes les Mimosas.
Roedd yn arfer bod yn athro coginio yn 'chamber of commers' yn siambr amaethyddiaeth Var. Mae o hefyd yn ymgynghorydd ar gyfer sefydliad Escoffier ac yn Feistr cogyddion Var.
O 1987 hyd heddiw mae'n llysgennad byd eang, yn arbenigwr ag yn ymgynghorydd bwyd a cuisine Provence. Mae hefyd yn awdur i nifer o lyfrau. Ym mis Awst 2007 fe welwn un o'i lyfrau yma yn yr iaith Saesneg "Provence Cookery School"; a bydd iddo 350 o dudalennau gyda 7 pennod wahanol - 1. cynnyrch, 2. cig, 3. pysgod, 4. dylanwadau Eidalaidd. Ayyb...Mae ynddo hefyd 50 o rysetiau gan Guy Gedda.