Max Callegari
Byw: Les Arcs sur Argens, Provence
Swydd: Redeg y bwyty Le Logis du Guetteur
Yn fab i gogydd, fe fynychodd ysgol goginio yn Nice yn ystod y 70au a bu'n gweithio yn Stratford Upon Avon a Venice cyn dychwelyd i Ffrainc i redeg y bwyty enwog Le Logis du Guetteur.
Yn ôl Max, y dylanwad mwyaf ar ei goginio yw'r steil Provençal sy'n defnyddio lot o saws. "Ond mae coginio yn ymwneud ag arbrofi a datblygu, felly mae'n bwysig i barhau i greu eich ryseitiau eich hun drwy'r amser," meddai.
Mae'r Ffrancwyr hefyd yn enwog am gymryd eu bwyd o ddifri'. Felly beth yw barn Max am Chez Dudley?
"Rwy'n credu ei fod yn rhoi llwyfan ardderchog i'n rhanbarth yma yn Ffrainc, ac rwy' hefyd yn meddwl ei fod yn mynd i wneud i bobl feddwl mewn ffordd wahanol am goginio a hefyd yn ffordd o ennyn diddordeb pobl ifanc. Mae bod yn gogydd yn yrfa wych i rywun ifanc oherwydd ei fod yn gyfle i weld y byd."
Am fwy o wybodaeth am Le Logis du Guetteur ewch i'r wefan.