English
S4C

Nerys Howell

Nerys

Byw: Caerdydd
Swydd: Perchennog Cwmni Ymgynghoriaeth Bwyd Howell

Mae gan Nerys brofiad helaeth ym maes bwyd, arlwyo a lletygarwch. Mae hi wedi gwneud gwaith rheoli mewn nifer o wahanol sefydliadau ac wedi teithio'n helaeth yn hybu bwydydd a diodydd o Gymru.

Mae Nerys yn datblygu syniadau newydd ar gyfer marchnata bwyd, hyrwyddo cynnyrch, profi rysetiau, datblygu bwydlenni ymysg nifer o bethau eraill.

Eleni gobeithio y gwelwn ni lyfr coginio gan Nerys ar ein silffoedd, llyfr fydd yn canolbwyntio ar brydiau rhanbarthol Cymru, gyda rysetiau newydd yn defnyddio cynnyrch gorau Cymru.

Am fwy o wybodaeth ewch draw i'r wefan www.howelfood.co.uk

Y Beirniaid