Leoliadau
Llandrillo
Ers ei sefydliad 40 o flynyddoedd yn ôl, mae bwyty'r Orme View wedi datblygu enw da am safon a gwasanaeth o'r radd eithaf. Fel rhan o raglen adnewyddu enfawr, ail adeiladwyd ef yn 2003 gyda chegin a chyfleusterau modern. O fewn yr amgylchedd hyfforddi hwn dysgir myfyrwyr i'r safonau uchaf, gan ddefnyddio'r offer a'r dechnoleg ddiweddaraf.
Gelli'r bwcio'r bwyty ar gyfer partïon preifat yn ogystal â chynadleddau. Mae'r Ysgol Lletygarwch wedi ennill sawl gwobr genedlaethol a rhyngwladol dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys Gwobr Ysgol Westy Gorau Ewrop 2000.
Am fwy o fanylion am y coleg ewch draw i'r safle gwe www.llandrillo.ac.uk neu e-bostiwch conference@llandrillo.ac.uk
Aberystwyth
Y Gymraeg yw iaith pob dydd yr ysgol a chyfrwng y rhan fwyaf o'r gwersi. Mae cynnal Cymreictod o fewn yr ysgol, y gymuned leol a thu hwnt yn rhan ganolog o waith yr ysgol. Yn sgil agor yr adeilad newydd mae gan Benweddig rai o'r adnoddau gorau yng Nghymru.
Caerfyrddin
Mae'r adran arlwyo a lletygarwch wedi ei leoli ar gampws Piwbwrlwyd yng Nghaerfyrddin ac yn brolio bwyty hyfforddi enwog. Mae'r cyrsiau sy'n cael eu cynnal yn y coleg yn gyfuniad o theori a sgiliau ymarferol gyda myfyrwyr yn treulio amser yn y dosbarth, yn y bwyty hyfforddi ac ar leoliad.
Ceir amrywiaeth o gyrsiau llawn a rhan amser sy'n addas ar gyfer myfyrwyr wedi gadael ysgol a phobl hyn sydd a'u bryd a mynd i weithio ym myd arlwyo neu i wella eu sgiliau coginio.