Rhaglen 1
Rhaglen gyntaf yn y gyfres newydd i ganfod Cogydd S4C 2006. Mae Dudley a'i dîm wedi dewis a dethol wyth o gogyddion amatur gorau Cymru i gystadlu am un wobr fawr - cyfle i fynychu ysgol goginio Raymond Blanc yn Le Manoir aux Quat'Saisons, Swydd Rhydychen - tra bydd y lleill, fesul un, yn cael eu gyrru adre dros y saith wythnos nesaf.
Rownd 1
Mae'r daith yn cychwyn gyda Rownd 1
Yn Llandrillo, Aberystwyth a Chaerfyrddin y gwelwyd Cymry brwd o bob cwr yn mynd ben ben a'i gilydd i gael y cyfle i fynd 'mlaen i rownd 2 â'r gobaith wedyn o gael sedd ar yr awyren draw i Provence.
Dod â 'starter' neu bwdin hefo nhw oedd y sialens ac yn wir cafwyd campweithiau. Roedd dewis deuddeg yn dasg anodd tu hwnt ond ar ôl oriau o drafod, bwyta, crafu pen a mwy o fwyta, dewisodd Dudley a'i gyd-feirniaid Nerys Howell a Bryn Williams, ddeuddeg i fynd 'mlaen i rownd dau.
Rownd 2
Roedd y safon yn arbennig o uchel eto yn rownd 2 a'r dasg o ddewis wyth yn creu tipyn o gur pen i’r tri beirniad. Roedd gofyn am ddangos sgiliau gwahanol yn rownd dau a'r deuddeg yn cael eu rhoi dan bwysau yng nghegin broffesiynol Coleg Llandrillo. Creu pryd yn defnyddio cyw iâr mewn awr a chwarter - dyna oedd y sialens a’r deuddeg yn nerfus, yn chwysu a chynhyrfu cyn hyd yn oed cyrraedd y gegin boeth!
Yng nghefn meddwl y deuddeg ... dim ond lle i wyth yn Chez Dudley a pedwar yn mynd adref!















