English
S4C

Rhaglen 2

Y gamp yn y bennod gyntaf yr wythnos diwethaf, oedd cyrraedd Ffrainc, ond wrth i ni ddychwelyd i Chez Dudley'r wythnos hon, buan iawn y bydd yr wyth sydd wedi sicrhau eu lle yn y rownd derfynol yn sylweddoli mai blas o'r hyn sydd i ddod oedd y 'cook-off' yng Ngholeg Llandrillo.

Bellach, mae Aldwyn, Jan, Nesta, Nerys, Anna, Eleanor, Owain a Michael John yng nghanol prydferthwch Provence. Wedi eu hamgylchynu gan arogl y caeau lafant, mêl, olew'r olewydd a'r llethrau o winllannoedd ffrwythlon - heb sôn am yr haul bendigedig - yr ardal odidog hon yn ne Ffrainc fydd cartref yr wyth, a ddaw o bob cwr o Gymru, dros y chwe wythnos nesaf.

Ond er y golygfeydd godidog, prin fydd cyfle'r cystadleuwyr i fwynhau'r hyn sydd o'u cwmpas, wrth iddynt fynd i'r afael â chyfres o dasgau a sialensau fydd yn eu herio i'r eithaf. Ac mae sioc yn eu disgwyl o'r cychwyn cyntaf wrth i Dudley roi gwybod iddyn nhw bod disgwyl iddynt goginio pryd blasus, ac y bydd y cystadleuydd gwanaf yn gorfod troi am adref ar ei union - â hwythau prin wedi cael cyfle i ddadbacio hyd yn oed!

Cystadleuwyr


Aldwyn Jones Anna Brown Eleanor Baker Jan Wilson Jones Richard Michael John Nerys Kelly Nesta Treharne Owain Morris

Sialens 5 Cynhwysyn

Pysgodyn, pupur, winwns, tomato a corbwmpen

Sialens 5 cynhwysyn, sialens gyntaf yr wyth draw yn yr ysgol goginio yn Provence. Fel mae'r teitl yn awgrymu, creu pryd o fewn 40 munud yn defnyddio 5 prif gynhwysyn, oedd y dasg. Yn beirniadu'r sialens roedd Guy Gedda a René Bérard, dau o gogyddion enwocaf Provence a Ffrainc.

Roedd yr wyth yn nerfus tu hwnt ond cafwyd eu dychryn yn fwy wrth iddynt sylweddoli byddai un ohonynt yn mynd adre ar ddiwedd y sialens!

Ar ôl chwysu yn y gegin boeth, roedd rhaid cael un enillydd ac un i fynd adra. Aldwyn enillodd y sialens a Owain oedd ar sedd yr awyren adre i Gymru.

Yr un aeth adref i Gymru...


Owain Morris

Galeri

Rhaglenni