Rhaglen 3
Roedd yr wythnos diwethaf yn llawn syrpreis i'n cystadleuwyr dewr allan yn Provence. Yn gyntaf, datgelwyd mai nid eu ffrind Dudley ond dau o gogyddion enwocaf yr ardal fyddai'n beirniadu'u hymdrechion. Yn ail, roedd y sialens gyntaf yn golygu coginio gyda chynhwysion anghyfarwydd dan bwysau amser ac yna dilynodd y sioc fwyaf: cafodd Owain ei yrru'n syth yn ôl i Gymru!
Beth bynnag, does dim amser i edrych yn ôl oherwydd mae'n bryd am y sialens nesaf ac yn rybudd cynnar i'r saith sy'n weddill.
Roedd sialensiau'r wythnos hon yn cynnwys dod i adnabod blasau unigryw a chynnyrch ffres, a meistroli sut i astudio a deall rysáit yn fanwl. Yn helpu ei dad René i feirniadu roedd cogydd Seren Michelin arall - Jean-Françoise Bérard. Mae 'Jeff' yn brif gogydd yn y bwyty teuluol, yn feistr ar ei grefft and yn fentrus a modern ei chwaeth. Bwyd pwy fydd at ddant y gourmet ifanc tybed?
Sialens 10 Tomato
Gyda Aldwyn yn 'saff' oherwydd ei lwyddiant gyda'r sialens gyntaf ac Owain ar ei ffordd adref, chwech wnaeth gymeryd rhan yn y sialens tomato.
Manylion y sialens - creu salad tomato gyda 10 o domatos gwahanol, pob un a'u blas unigryw eu hunain. Pa olew, pa berlysieuyn sy'n mynd gyda beth? Penbleth mawr i'r chwech! Roedd Dudley angen dau dîm yn y sialens yma - ond pwy oedd am fod gyda pwy? Aldwyn i ddewis!
Dewis Aldwyn - Nerys a Nesta, Michael ac Anna a Jan ac Eleanor. A'r rhesymeg tu ôl i'w ddewis: Nerys a Nesta am fod enwau'r ddwy yn dechrau gyda N a'r ddau dîm arall am eu bod yn sefyll wrth ymyl ei gilydd!
Jean Françoise Berard, mab René oedd yn beirniadu, ac ar ôl gweld y tri thîm yn gweithio a blasu, dewisodd mai Nerys a Nesta oedd yn fuddugol! Y ddwy yn ddiogel ac yn cael eu hepgor o'r sialens nesaf sef creu'r pwdin 'Mille Fuille'. Michael, Anna, Jan ac Eleanor yn gorfod herio'r gegin unwaith eto ac un ohonyn' nhw yn mynd i golli ac ymuno hefo Owain yn ôl yng Nghymru!
Sialens Mille Fuille
Sialens y pwdin a'r pedwar, Michael, Anna, Jan ac Eleanor yn edrych 'mlaen ac yn benderfynol o roi cant y cant yn y gegin yn y gobaith o gael aros yn Provence. Y sialens oedd creu rysáit Mille Fuille gyda ceuled lemwn a saws mafon.
Roedd Jan ac Eleanor wrth eu boddau yn paratoi pwdinau, Jan wedi gwneud ceuled lemwn o'r blaen ond ddim mewn Mille Fuille, ac Eleanor yn hoff o drin pastry and falle dim ffilo. Doedd Michael ddim wedi mwynhau sialens y 5 cynhwysyn felly yn y sialens yma roedd am drio gwneud ei orau, ac Anna yn wir obeithio nad y hi fyddai'n mynd adref.
Roedd hi'n boeth yn y gegin a René yn barod i flasu'r pwdinau...
Roedd pawb wedi cael hwyl arni yn ôl René ond roedd rhaiddewis un enillydd ac un i fynd adref...yr enillydd oedd Jan ac yn mynd adref... Michael.
Mille Fuille Aux Fraises A La Crème De Citron
Rysáit
4 haenen o does ffilo50g menyn di halen wedi ei doddi
Siwgr eisin ar gyfer ysgeintio
Ceuled ( Curd) Lemwn:
1 wy mawr
1 melynwy mawr
1 lemon - croen a sudd - oddeutu 50ml o sudd
50g siwgr eisin
50g menyn
Addurno:
450g mefus
100g siwgr eisin
Dull
Cynhesu'r popty i wres 180°c/350°f/nwy 4.
Plygu'r haenau ffilo i wneud dau ddarn sgwâr.
Brwsio'r ffilo gyda'r menyn wedi toddi.
Torri chwech sgwâr allan o'r ddau sgwâr mawr a'u rhoi ar hambwrdd popty.
Ysgeintio gyda digonedd o siwgr eisin ar eu pennau a'u pobi am 6-8 munud hyd nes eu bod yn troi'n lliw euraidd ac wedi carameleiddio ar y top. Eu rhoi mewn rhywle sych dros dro
Ceuled (Curd) Lemwn:
I wneud y ceuled lemwn, cymysgu'r wyau ar siwgr mewn sosban gyda gwaelod trwchus.
Ychwanegu'r croen lemwn, sudd a'r menyn a'i wisgo dros wres cymedrol hyd nes ei fod yn tewhau ac yn debyg i gymysgedd cwstard.
Rhoi'r ceuled mewn powlen a rhoi darn o clingfilm drosto i arbed y croen rhag caledi - yna ei adael i oeri.
Saws Mefus:
Torri 150g o'r mefus yn fan a'u rhoi mewn sosban fach gyda'r siwgr eisin a 2 llwy ffwrdd o ddŵr. Coginio dros wres isel am ychydig funudau hyd nes bod y siwgr yn toddi.
Codi'r gwres a'i fud ferwi am 5 munud hyd nes yn drwchus yna ei adael i oeri.
Haneru neu chwarteru gweddill y mefus a'u rhoi yn y gymysgedd a'u cymysgu'n dda.
I Weini:
Adeiladu pob mille fuille gan ddechrau gydag ychydig o'r ceuled yna haenen o'r ffilo, mwy o'r ceuled lemwn, y mefus a haenen arall o ffilo.
Ei addurno gyda'r siwgr eisin ac un neu ddau o'r mefus.







