English
S4C

Rhaglen 4

Wel, mae pethau'n poethi yn Chez Dudley! Doedd dim un o'r cystadleuwyr yn disgwyl i Michael John gael ei yrru adre mor fuan yn y gystadleuaeth, ond dyna oedd penderfyniad y beirniad René Bérard ar ôl y dasg coginio Mille Feuille.

Bydd sialens gynta'r wythnos hon yn cynnwys cynllunio ryseitiau creadigol a gweithio'n effeithiol mewn tîm, a bydd angen canolbwyntio'n ofalus ar gyfer yr ail sialens pan fydd y cystadleuwyr yn dysgu ddull arbennig o baratoi cynhwysyn gwbl newydd - llyffant y môr.

Bydd Max Callegari, cogydd enwog yn Provence gyda bwyty ei hun, yn ymuno â René Bérard a Guy Gedda i benderfynu pwy sy'n haeddu aros yn y gystadleuaeth - am wythnos arall o leiaf...

Cystadleuwyr


Aldwyn Jones Anna Brown Eleanor Baker Jan Wilson Jones Nerys Kelly Nesta Treharne

Sialens Max

Mae Owain a Michael wedi gadael Chez Dudley a dim ond chwe chogydd sydd ar ôl. Mae Aldwyn bellach nôl yn y gystadleuaeth a mae Jan yn cael dewis ei thîm heddiw oherwydd ei llwyddiant yn y dasg pwdin.

Sialens gynta'r dydd oedd paratoi bwyd i gogydd arbennig, Max Callegari. Y dasg oedd paratoi cwrs cyntaf, pwdin a gwin i gyd-fynd.

Penderfynodd Jan i weithio gyda Nesta ac Anna felly roedd Aldwyn, Eleanor a Nerys yn yr ail dîm. Effeithiodd y sialens ar y ddau dîm mewn ffyrdd gwahanol; crewyd ychydig o anniddigrwydd o fewn un tîm a daeth y tîm arall at ei gilydd i gyd-weithio'n dda. Tîm Jan, Anna a Nesta oedd yn fuddugol. Cewch chi benderfynu pa dîm weithiodd orau gyda'i gilydd!!

Wrth gwrs, roedd tro yng nghynffon y sialens oherwydd roedd angen sialens arall i benderfynu pwy oedd yn mynd adref! Y gosb i'r tîm aflwyddiannus oedd dewis un aelod o'r tîm buddugol i ymuno â nhw yn y sialens nesaf. Yn anffodus enwebodd Aldwyn Anna mewn camgymeriad, gan feddwl ei fod yn rhoi cyfle iddi gael hoe fach ond bu'n rhaid iddi ymuno â Aldwyn, Eleanor a Nerys ar gyfer y sialens nesaf...

Sialens Llyffant y Môr

Hen bysgodyn hull oedd yn y sialens yma, a'r dasg i'r pedwar oedd creu un o brydau traddodiadol yr ardal - Llyffant y Môr wedi ei stwffio (stuffed Scorpion fish). Rhoddodd Guy Gedda 'demo' i'r criw er mwyn eu helpu a'u rhoi ar ben ffordd.

Mae angen techneg arbennig i wneud y pryd yma ac yn wahanol i'r arfer roedd rhaid iddyn nhw dynnu perfedd y pysgodyn allan drwy ei dagell yn hytrach na'i fol!

Ar ôl chwysu a chael crafiadau lu ar eu dwylo, dim ond un allai ennill a roedd rhaid i un fynd adref. Nerys oedd yn fuddugol ac yn anffodus Eleanor oedd yn gorfod dychwelyd i Gymru.

Yr un aeth adref i Gymru...


Eleanor Baker

Rysáit: Llyffant Môr wedi ei Stwffio

Cynhwysion

1 llyffant môr (scorpion fish) 3 pwys
2½ pwys o datws - wedi gwaredu'r croen a'u ciwbio
2 winwns bach - wedi torri'n fan
1 llwy fwrdd o biwr domato
1 corbwmpen - wedi ei giwbio
1 wylys - wedi ei giwbio
1 pupur coch - wedi ei giwbio a gwaredu'r hadau
1 pupur gwyrdd - wedi ei giwbio a gwaredu'r hadau
1 bwlb o arlleg - wedi gwaredu'r croen
1 llwy de o hadau ffenigl
3 sbrigyn o deim
1 deilen llawryf
halen a phupur
2 llwy fwrdd o olew olewydd

Dull

Cynhesu'r ffwrn i wres 180°C/Gas 4.

Paratoi'r pysgodyn

Tynnu esgyll a chroen y pysgodyn. Tynnu'r asgwrn canol trwy dorri lawr bob ochr i'r asgwrn cefn, heblaw am y cynffon a'r pen. Torri drwy'r asgwrn gan ddefnyddio siswrn cryf yna gwagio'r pysgodyn ond cadw'r afu. Tynnu unrhyw esgyrn bychain gyda pliciwr a'u cadw ar gyfer y stoc. Chwysu'r winwns, garlleg a phupur mewn olew olewydd am 5 munud nes fod y cynhwysion yn feddal.


Galeri Rhaglen 4

Rhaglenni