Rhaglen 5
Mae'r chwys yn llifo draw yn Chez Dudley wrth i'r ffeinal agosáu a nifer y cystadleuwyr fynd yn llai ac yn llai. Gyda'r cystadlu'n poethi roedd y gwres yn ormod i Eleanor. Wedi iddi hi gael ei gyrru nôl i Gymru wythnos diwethaf, mae'r beirniadu'n mynd yn llymach yr wythnos hon wrth i'r wobr fawreddog nesáu a dim ond pythefnos o gystadlu ar ôl!
Bellach mae pump ar ôl yn y gystadleuaeth. Sialens gyntaf yr wythnos hon yw creu aioli sy'n cael ei alw'n 'fenyn aur' Provence. Bydd enillydd y dasg hon yn ddiogel ond bydd rhaid rhannu'r pedwar sy'n weddill yn barau ar gyfer yr ail sialens. Her y ddau bâr bydd profi eu dawn blasu. Yna ar gyfer y sialens nesaf, bydd y gystadleuaeth yn cael ei droi ben i waered wrth i'r cystadleuwyr orfod anghofio gweithio fel tîm a brwydro yn unigol i aros yn y gystadleuaeth. Bydd hefyd ymweliad arbennig gan gogydd cudd er mwyn dyfarnu pwy fyddai'n gadael Chez Dudley.
Sialens Farchnad Sanary
Fe gafodd y pump eu rhyddhau o'r gegin am fore ac yn y car a nhw i farchnad leol yn Sanary. Marchnad fendigedig yn orlawn o lysiau a ffrwythau ffres a chrefftau lleol. Roedd rhaid i'r pum fodd bynnag gael tasg fer yn y farchnad a hynny oedd prynu nwyddau o restr a gawsant nhw gan Dudley. Y cynnyrch yn rhan o sialens nôl yn yr ysgol goginio! Llwyddodd pawb gael y cynnyrch ac fe gafodd Anna bâr o esgidiau yn y fargen hefyd!!
Sialens Tapenade ac Aioli
Nol yn yr ysgol goginio fe gafodd y pump 'demo' gan Rene ei hun ar sut i wneud tapenade ac aioli, rysetiau traddodiadol iawn o'r ardal. Roedd y pump yn barod ar gyfer eu her - gwneud tapenade...ond na...tro bach arall yn y gynffon...eu tasg oedd creu aioli!!
Y pump yn pwnio a chymysgu ac yn drewi o arlleg erbyn diwedd y dasg ac un enillydd yn serennu - Nesta! Rhyddhad i Nesta ond panic i Jan, Aldwyn, Anna a Nerys un ohonyn nhw'n nes at y sedd ar yr awyren!
Sialens Parau
Taith fach arall i'r pedwar, y tro yma draw i winllan Chateaux Pibarnon ac at Eric y perchennog. Fe gafodd y pedwar wledd wrth fynd o amgylch seleri'r Chateaux dan arweiniad Eric a chael blasu'r gwinoedd bendigedig. Ar ddiwedd eu taith bu'n rhaid i'r pedwar yn wynebu sialens arall - gorfod dyfalu'r gwin a pharu gyda'r ffrwythau; dyfalu'r caws a pharu gyda'r anifail; ac i orffen paru'r caws gyda'r gwin!!
Nerys a Jan wnaeth golli'r sialens tra mai Anna ac Aldwyn wnaeth lwyddo!
Ond roedd rhaid i Nerys a Jan ddewis naill ai Aldwyn neu Anna i ymuno â nhw yn y dasg nesaf. Y dasg hon fyddai'n penderfynu pa un fyddai'n mynd adref. Yn anffodus i Aldwyn dyma nhw'n ei ddewis e. Anna felly yn 'saff'...am y tro!!
Sialens Bwyd a Gwin
Treuliodd Aldwyn, Jan a Nerys noson gyfan yn penderfynu pa bryd i'w goginio gyda thair potel o win gwahanol. Dewisodd Aldwyn gwin coch gan adael Jan i ddewis gwin gwyn a Nerys gwin rosè. Roedd gan Dudley sypreis arall ar gyfer y cystadleuwyr - beirniad cudd y sialens hon oedd Bryn Williams!
Penderfynodd Bryn mai Aldwyn oedd enillydd yr her a thro Nerys yn anffodus oedd mynd adref i Gymru
Rysáit: Tapenade ac Aioli
Cynhwysion
200g o olifau du wedi gwaredu'r garreg50g o gaprau
50g o ffiledu ansiofi
1 llwy de o Marc de Provence / cognac
15cl o olew olewydd
Tapenade
Tapenade yw'r cyfuniad Ffrenig clasurol o olifau, caprau ac ansiofi. Tapen yw capryn yn Ffrenig. Mae'r tri chynhwysyn wedi bod yn rhan annatod o fwyd Provence ac mae'n cyfuno cynnyrch y môr a'r tir.
Y cynhwysyn amlycaf mewn unrhyw tapenade yw'r olifau. Credir bod olifau yn un o'r bwydydd cyntaf yn dyddio'n ôl i'r 17eg ganrif C.C. Daw'r olifau yn wreiddiol o Asia Leiaf lle bu i ymledu ar draws y byd. Credir hefyd bod duwiau Groegaidd wedi eu geni o dan goed olifau, ac yn ôl chwedlau bu i'r dduwies Athena roi dwy anrheg i'r Groegwyr hynafol: doethineb ac olifau. Y Groegwyr o ddaeth ar goeden olif i Ffrainc yn 6000 C.C.
Dull
Mewn pestl a morter gwasgu a churo'r olifau, caprau ar ffiledi ansiofi hyd nes yn bast. Ychwanegu'r Marc De Provence. Yna ychwanegu'r olew olewydd yn araf i greu piwrî trwchus. Ei weini gyda llysiau amrwd, bara neu/a thost.
Cynhwysion
20 ewyn o arlleg2 melynwy
2 llwy de o sudd lemon
2 llwy de o ddŵr
½ litr o olew olewydd
halen a phupur
Aioli
Yn cael ei adnabod fel menyn euraidd Provence ac yn enghraifft o fwyd sy'n hawdd iawn i'w neud. Mae fel arfer mae'n cael ei rannu o amgylch y bwrdd ac mae'n destun trafodaeth ddofn!! Angen gwneud yn saff bod toreth o'r aioli i gael i'w fwyta dros oriau! Mae'r rysáit traddodiadol yn defnyddio pestl a morter a wisg llaw ac mae pob brodor o Provence yn siŵr o ddweud mai cread Profensaidd yw aioli. Yn draddodiadol un bwlb o arlleg a 250 - 300ml o olew olewydd a ddefnyddir.
Yn Vaucluse y tyfir y rhan fwyaf o arlleg Provence ac mae oddeutu 2470 acer ohono'n tyfu. Y math gwyn sy'n cael ei dyfu gan ei fod yn cadw'n well, ac mae'r cynaeafu yn digwydd ym mis Mehefin.
Dull
Malu'r garlleg gyda'r halen mewn pestl a morter. Yna cymysgu'r melynwy gyda'r garlleg. Tywallt ychydig o'r olew olewydd i'r gymysgedd yn araf gan ei gymysgu trwy'r amser. Ychwanegu'r sudd lemon a'r dŵr. Parhau i'w gymysgu ac ychwanegu gweddill yr olew olewydd. Ei gadw'n oer. Yna ei weini gyda llysiau amrwd a bara.





