English
S4C

Rhaglen 6

Nerys oedd y pedwerydd cystadleuydd i adael cegin Chez Dudley wrth i'r cogydd a helpodd i'w rhoi hi drwodd i'r gystadleuaeth yn Ffrainc, Bryn Williams, wneud ymddangosiad annisgwyl draw yn Ffrainc. Er bod Bryn wedi edmygu naws Provençal y coginio, pryd Nerys i gyd-fynd â gwin rosé oedd yr un ar waelod ei restr, gyda stêc a gwin coch Aldwyn y cyn-blismon o Gaerfyrddin yn dod i'r brig.

Mae hyn yn gadael pedwar ar ôl ar gyfer y rownd gynderfynol. Un peth sy'n sicr, mae Dudley yn mynd i wneud i'r cystadleuwyr weithio'n galed iawn am eu lle yn y ffeinal. Bydd y sialens gyntaf yn cynhyrfu synhwyrau'r pedwar, a bydd tasgau arogli a blasu yn arwain at sialens pwdin mewn parau. Ar gyfer yr ail sialens, bydd angen gwneud tasg sy'n ymddangos yn hawdd, ond sy'n dipyn anoddach na'r disgwyl. Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yn hyn fydd sialens arbennig gan y meistr ei hun, René Bérard, a'r sialens yma fydd yn penderfynu pwy fydd yn dweud ta-ta unwaith ac am byth...

Cystadleuwyr


Aldwyn Jones Anna Brown Jan Wilson Jones Nesta Treharne

Sialens Pwdin Perlysiau

Sialens i gynhyrfu'r synhwyrau! Tasg arogli a blasu perlysiau cyffredin tra wisgo blindfold, oedd yn arwain at sialens pwdin mewn parau. Pwdin oedd yn cyfuno ffrwythau a pherlysiau. Dewisodd Aldwyn Nesta i ymuno gydag ef am ei fod wedi ennill y sialens ddiwethaf. Sy'n gadael Jan ac Anna i weithio gyda'i gilydd.

Dewisodd Nesta ac Aldwyn i gyfuno eirin gwlanog gyda basil. Ond roedd eirin gwlanog René o'r berllan rhy feddal ac felly roedd rhaid iddyn nhw ddefnyddio bricyll yn lle. Dewisodd Jan ac Anna i gyfuno ffigys, mefus a llafant (lavender).

Yn beirniadu oedd Bryn Williams a Jeff Bérard. A dyma nhw'n penderfynu mae pwdin Nesta ac Aldwyn oedd â'r cyfuniad orau. Roedd Nesta drwodd i'r ffeinal ond beth am Aldwyn? Druan ag ef, unwaith eto dyma Dudley yn mynnu bod 3 yn cystadlu yn y sialens nesaf. Ac unwaith eto dyma'r merched yn dewis Aldwyn i ymuno â nhw.

Sialens Omled

Pa mor anodd ydy creu omled? Mae'n edrych yn ddigon hawdd. Ond mae'r rysàit bach yma yn un o'r sialensiau cyffredin mae cogyddion newydd yn wynebu cyn cael cynnig swydd yn y bwytai enwocaf.

Bryn a Jeff oedd yn beirniadu unwaith eto, ond y tro hwn tra gwylio'r tri yn coginio! Wnaeth Aldwyn druan, anghofio rhoi menyn yn y badell ffrio a dyma'r omled yn sticio at y badell!

Felly sut mae creu'r omled perffaith? Dyma Bryn a Jeff yn dangos eu talentau. Tipiau Bryn: sicrhau bod y badell yn grasboeth; defnyddio digon o fenyn; dylai'r omled fod yn frown ar y tu allan ond yn feddal yn y canol.

Roedd y beirniaid wedi'u plesio gan omledau'r merched. Ond un Anna oedd yr un mwyaf ysgafn. Felly dyma hi'n ennill y sialens – a lle yn y ffeinal!


Sialens o lyfr René

Uchafbwynt y gystadleuaeth hyd yn hyn oedd sialens arbennig gan y meistr ei hun. Mae René Bérard wedi ysgrifennu nifer o lyfrau ar fwydydd Provençal. Y sialens i Aldwyn a Jan felly oedd ail greu un o'i ryseitiau - Draenog y Môr mewn Crwst gyda Saws Madarch a Siampên.

Yn dilyn perfformiad gwael yn y sialens omled, roedd Aldwyn yn wên i gyd wrth edrych ymlaen at y sialens yma. Bu'r corciai'n hedfan a'r siampen yn llifo - dros ben Dudley a'r camera! Gafodd y ddau gogydd eu profi i'r eithaf.

Dyma René yn canmol y cogyddion mentrus a thalentog. Ond yn y diwedd, y beirniadaeth oedd bod crwst Jan ychydig yn well nag un Aldwyn. Jan oedd wedi ennill y lle olaf yn y ffeinal ac Aldwyn wedi ennill sedd ar yr awyren yn ôl i Gymru.

Yr un aeth adref i Gymru...


Aldwyn Jones

Rysáit: Draenog y Môr mewn Crwst gyda Saws Madarch a Siampên

Cynhwysion

Pysgod:
2 x 250g ffiled draenog y môr - heb y croen
800g o fadarch botwm gwyn
100g o winwns bach - wedi'u sleisio'n fân
1kg o does crwst pwff - rolio i 2 ddarn o 40cm x 15cm
halen a phupur
2 wy - curo gydag ychydig o halen i orchuddio'r toes
10cl o olew yr olewydd

Saws Siampên:
100g o winwns bach - wedi'u sleisio'n fân
5cl o olew yr olewydd
1 potel o siampên sych
40cl o stoc pysgod
60cl o hufen sengl
halen a phupur

Paratoi:

Golchi'r madarch a'u torri'n fân. Mewn sosban gydag ochrau uchel, chwysi'r winwns bach yn yr olew, ychwanegu'r madarch, halen a phupur a choginio hyd nes i'r dŵr o'r madarch anweddu. Gosod naill ochr mewn lle oer.

Saws:

Mewn sosban neu ffreipan, chwysi'r winwns bach mewn olew yr olewydd. Ychwanegu'r siampên a'i leihau hyd nes iddo fesur 1 gwydred o siampên yn unig. Ychwanegu'r stoc pysgod a'i leihau i hanner y maint. Ychwanegu'r hufen a'i fudferwi yn ysgafn am 20 munud hyd nes i'r saws dewhau. Gosod y saws mewn prosesydd bwyd yna ei hidlo. Sesno os oes angen a'i osod naill ochr.

Draenog y Môr mewn Crwst Pwff

Rhoi'r pysgod ar hambwrdd a'u sesno ar y ddau ochr. Rhoi haenen dda (3cm o drwch) o'r madarch a'r winwns ar ben un o'r pysgod. Gosod yr ail ffiled ar ben yr un cyntaf i greu siâp un pysgodyn mawr.

Gosod un darn o'r crwst ar hambwrdd, rhoi'r pysgodyn yn ofalus yng nghanol y crwst. Brwsio'r crwst gyda'r wy. Rhoi'r darn arall o'r crwst ar ben y pysgodyn, a'i wasgu'n ofalus i waredu unrhyw awyr yn y toes. Torri gweddillion y crwst yn daclus a'i orchuddio gyda gweddill yr wy. Gyda chyllell siarp, marcio'r crwst i greu siap 'scales' ar y pysgodyn.

Gosod yn y ffwrn am ½ awr ar wres o 190°C/Nwy 5

Galeri Rhaglen 6

Rhaglenni