Y Ffeinal
Wedi misoedd o chwilio, milltiroedd o deithio a channoedd o flasu ryseitiau o'r diwedd, mae'r ffeinal wedi cyrraedd! Mae wedi bod yn dipyn o daith - artaith hyd yn oed i rai! A phwy fyddai wedi dychmygu ar ddechrau'r gystadleuaeth mai tair merch fyddai'r brwydro am y wobr fawr yn y ffeinal?
Aldwyn druan gafodd ei yrru adref wythnos diwethaf. Roedd ei goginio wedi plesio'r beirniaid a Dudley ei hun drwy gydol y gystadleuaeth, ond fe enillodd Jan ei lle yn y ffeinal wrth i'w dehongliad hi o rysáit René Bérard guro o drwch blewyn.
Yn ymuno â Jan yn y ffeinal fydd Nesta Treharne o Bontarddulais ac Anna Brown o Gydweli. Bydd y dair, wrth reswm, yn gwynebu sialensiau mwya'r gystadleuaeth ac mi fydd gofyn iddynt alw ar yr holl wybodaeth y maent wedi ei gasglu dros eu cyfnod yn Provence.
Pwy fydd yn trechu, yn serennu yn y gegin ac yn plesio'r beirniaid? O'r tair sydd wedi'i gwneud hi i'r rhaglen olaf, pwy fydd yn hongian eu barclod yn bencampwr, a barclod pwy fydd yn un lwmp ar y llawr?! Yr wythnos hon daw'r daith gyffrous ac emosiynol i ben. Ai'ch ffefryn chi fydd yn ennill wythnos yn ysgol goginio Raymond Blanc? Dewch drwy ddrysau Chez Dudley am y tro olaf yr wythnos hon i weld...
René yn dangos sut i ffiledu pysgod - yn gywir!
Pleser yw gwylio meistr wrth ei waith. Ac mae Jan, Anna a Nesta wrth eu boddau yn gwylio René yn dangos ei ddonau.
Mae Jan wedi dyfalu, wrth edrych ar y cynhwysion ar y bwrdd, mae creu bouillabaisse fydd y sialens nesaf. Ond yn gyntaf mae Dudley yn awyddus i fynd a'r dair gogyddes am dro i Ŵyl Bouillabaisse Sanary! Yn yr Ŵyl yma mae trigolion Sanary yn coginio bouillabaisse mwya'r byd yn ôl y Guiness Book of Records.
Sialens Bouillabaisse
Mae bouillabaisse yn un o ryseitiau mwyaf poblogaidd yr ardal ac mae 'na ddwsin o ryseitiau ar gael. Yn amlwg mae René yn hoff o'r rysáit mwyaf traddodiadol sydd hefyd y mwya' anodd!
Mae'r merched wedi treulio'r noson yn paratoi, yn astudio'r ryseitiau a gwneud nodiadau yn barod ar gyfer y sialens yn y bore. Mae'r tair yn cerdded i mewn i'r gegin yn barod i goginio rysáit cymhleth, rysáit diarth....ond beth yw hyn? Mae Dudley ym mynd a'u nodiadau oddi wrthyn nhw - y diawl! Bydd rhaid i'r cystadleuwyr ceisio cofio sut mae coginio bouillabaisse.
Yn anffodus i Nesta, nid oedd ei bouillabaisse hi cystal â'r lleill, a dyma hi allan o'r ffeinal.
Y sialens olaf
Dwy gogyddes fentrus, dwy gogyddes eiddgar - ond pwy fydd yn ennill y sialens fwya'r gyfres. Sialens i baratoi pryd o fwyd dau gwrs i dri gwestai pwysicaf yr ardal. A hynny yn union fel mae'r bwytai gorau yn eu gwneud.
Mae'r merched yn cael dewis naill ai goginio pryd cyntaf a brif gwrs neud prif gwrs a phwdin. Ond mae'r gegin yn poethi y tro hwn. Mae Elen yn chwarae rhan y weinyddes ddiamynedd ac mae Dudley yn dynwared Gordon Ramsey!
Awr sydd ganddyn nhw i baratoi'r prydiau tra ond chwarter awr fydd ar gael unwaith mae'r archebion yn dod i fewn.
Mae Anna yn dewis paratoi maelgi i ddechrau a chig oen ar gyfer y prif gwrs, tra mae Jan yn dewis paratoi maelgi ar gyfer y prif gwrs a gellygen gyda theim i orffen.
Roedd y gwesteion/beirniaid, René Bérard, Guy Gedda and Max Callagari wedi plesio'n fawr iawn. Ond yn y diwedd dim ond un all ennill Chez Dudley ... a Jan oedd honno!!
Rysáit: Bouillabaisse
Cynhwysion
17½ pwys o bysgod ffres - llyffant môr (Scorpion fish) ac o leiaf 6 math arall o bysgod - pysgodyn bwyell (greater weaver fish),cythraul môr (angler fish) chwyrnwr (gurnard), gwyniaid y môr (whiting), draenog y môr (sea bass), eurgefn (John Dory) a chranc a chimwch os hoffech chi.2 winwns mawr - wedi eu malu'n fan
12 llwy fwrdd o olew olewydd
4 tomato - wedi gwaredu'r croen a'u ciwbio
1 bouquet garni
1 oren - croen / zest
4 ewyn o arlleg - wedi eu malu'n fân
1½ llwy de o saffrwm
halen a phupur
1½ pwys o datws (os dymunir)
baguette
Dull:
Paratoi'r pysgod a gwahanu'r pysgod cig cadarn (llyffant mor, great weaver fish, angler fish, gurnard, crancod, a'r cimwch) oddi wrth y rhai mwy ysgafn (whiting, draenog y môr a'r eurgef)
Mewn padell ffrio'r nionod yn ysgafn mewn 8 llwy fwrdd o'r olew olewydd heb adael iddynt frownio.
Ychwanegu'r tomatos i'r nionod ac yna'r bouquet garni, croen oren, garlleg a'r saffrwm.
*os am ddefnyddio tatws fe allwch chi ychwanegu nhw nawr fel haenen ar ben y llysiau*
Sesno gyda halen a phupur.
Gosod y pysgod cig cadarn ar ben y llysiau ac yna arllwys gweddill yr olew olewydd.
Gadael y cyfan i fwydo am ddeg munud ac yna ychwanegu digon o ddŵr berw i orchuddio'r pysgod.
Dod ar gyfan i'r berw yn sydyn ai adael i ffrwtian am 5 munud.
Ychwanegu'r pysgod ysgafnach a'i ferwi'n gyflym am 5-7 munud arall.
Gosod darn o fara mewn powlen ac arllwys y cawl drosto
Gweini'r pysgod, cranc ar gimwch ar wahân
Rysáit: Rouille i fynd gyda'r bouillabaisse
Cynhwysion
2 ewyn o arlleg2 tsili coch
pupur cayenne
pinsiad o saffrwm
2 llwy fwrdd o friwsion bara wedi eu mwydo mewn stoc cyw iâr
150ml olew olewydd
Dull:
Rhoi'r garlleg ar tsilis mewn pestl a morter a chreu past.
Ei sesno gyda phowdwr cayenne a'r saffrwm.
Gwasgu'r hylif o'r briwsion bara a'i gymysgu i mewn i'r past garlleg, curo'r olew, ychydig ar y tro hyd nes bod y saws yn debyg i fwstard.




