Mae Chwa!, cyfres newydd sy'n dilyn cystadlaethau chwaraeon eithafol, yn addo gadael y gwylwyr yn gegrwth!
Alex Jones sy'n cyflwyno'r gyfres a bydd hi'n mynd â ni i bob cwr o'r byd i roi'r newyddion diweddara' o fyd syrffio, eirafyrddio, becio mynydd, syrffio-barcud, cystadlaethau BMX a mwy.
"Bob wythnos fe fyddwn ni'n rhoi sylw i'r digwyddiadau diweddara' ym myd chwaraeon eithafol," meddai Alex, "gan gynnwys uchafbwyntiau o Daith Eirafyrddio y Byd, Cwpan y Byd Beiciau Mynydd a chystadleuaeth campau ar feic modur, y Red Bull X Fighters motocross. Fe fydd gwestai arbennig yn ymuno â fi hefyd yn y stiwdio bob wythnos i roi tips ar sut i gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n gosod sialens arbennig i'w profi nhw i'r eitha'! Ac mae'n rhaid imi gyfadde' ei bod nhw'n gystadleuol dros ben!"
Mae'r cyffro'n dechrau gyda rhaglen arbennig. Bydd Alex yn teithio i Dde Ffrainc, i fwynhau'r tywod a'r tonnau yng ngŵyl syrffio, cerddoriaeth a chelf i ferched - y Roxy Jam ym Miarritz. Daw 48 o ferched mwyaf galluog y byd i hirfyrddio a cheisio am goron pencampwriaeth 2008 yng nghartref syrffio Ewrop. Yn ogystal, bydd Alex yn mentro i frig y tonnau wrth geisio syrffio tandem ym mreichiau pencampwr y byd, Rico!
Os hoffe ti gysylltu â thîm Chwa! gyrra ebost i chwa@s4c.co.uk









