Lingo Chwa!: Be di B-boy?
B-boy, neu B-girl – yn wreiddiol ystyr hyn oedd rhywun sydd yn ymroddi ei hunan i ddiwylliant hip-hop. Erbyn hyn mae e’n gysylltiedig a math o ddawns sydd wedi datblygu o gystadleuthau 'breakdance' yn yr UDA. Mae bywyd a dawnsio B-Boy wedi ymestyn yn fyd-eang nawr, gyda Korea yn ymddangos fel y wlad i'w churo yn nghystadleuthau B-Boy byd eang.
Mae ‘na bedair elfen sylfaenol yn nawnsio B-boy
1. Toprock – y dawnsio a’r shifflad mae’r danwswyr yn defnyddio i ddod i fewn i’r cylch dawnsio.
2. Downrock/Footwork – dawnsio sy’n cael ei berfformio ar lawr
3. Rhewi – y symudiadau sydyn maen nhw’n defyddio i rhai curaiadau amlwg ac ar ddiwedd bob dawns.
4. Symudiadau pwerus – symudiadau acrobatig le fydd y dawnswr yn troi ar lawr neu yn yr awyr.
Bydd prif gystadleuaeth B-Boy'r byd, cystadleuaeth y BC One, yn dod i Baris ym mis Tachwedd 2008 - gallwch gael mwy o wybodaeth ar wefan Red Bull BC One
Digwyddiad SurfCult - Porthcawl
Mae dathliad mawr syrffio'r haf yn Ngymru yn digwydd eto eleni ym Mhorthcawl - Pafiliwn Mawr Rest Bay yw cartref i Surf Cult 2008!
Ar nos Sadwrn y 13ain o Fedi bydd Dawns fawr y Syrffwyr yn digwydd yn y Pafiliwn, gyda setiau DJ gan Eggsy a Rhys o GLC a set byw gan Jasper. Yn ogystal â chael cystadleuthau syrffio a sglefyrddio, bydd noson agoriadol dwy ffilm syrffio Brydeinig ac arddangosfa olau tu mewn a thu allan i'r Pafiliwn enwog.
Hyd yn oed os nad ydych chi'n syrffiwr, bydd y digwyddiad yn un gwych i ffans o chwaraeon eithafol, a bydd holl elw'r cystadleuthau Penwythnos Tsunami (ar y 21ain o Fedi) yn mynd i apêl Sport Relief 2008.
Am fwy o wybodaeth am yr wyl ewch i http://www.surf-cult.co.uk.
Ai hon oedd y don fwyaf i'w reidio ERIOED?
Cape Town, De Affica: Gallai fod Grant ‘Twiggy’ Baker wedi reidio'r don fwyaf erioed yn ôl adroddiadau sy'n dod o Cape town. Roedd Grant a'i gyd-reidiwr tîm Billabong, Greg Long, yn reidio tonnau oddi ar yr arfordir allai fod dros 70 troedfedd (22 metr) o uchder.
Bu Baker (35, o Umhlanga, ger Durban, De Affrica) a Long (25 o San Clemente, Califfornia) yn reidio mas ar rîff enwog Dungeons, tu allan i Hout Bay ger Cape Town. Yno enillodd Baker y 10fed gystadleuaeth 'Red Bull Big Wave Africa' ar Dungeons yn 2008, felly mae wedi hen arfer gyda'r tonnau enfawr sydd i'w cael yno.
“Rheina oedd y tonnau mwyaf i fi eu gweld erioed yn Ne Affrica, ac o bosib, alle nhw fod y rhai mwyaf yn unrhyw le” meddai Baker. “Tynnodd Greg fi mewn i un don anhygoel, roedd hi mor anferth ges i llond twll o ofn, a dechreuodd fy nghorff pallu anadlu.”
“Wedyn , pan welo'n ni'r lluniau dynnodd Craig Kolesky gyda'i lens hir o Chapman’s Peak, sylweddolon ni bod posibilrwydd mai rhain oedd y tonnau mwyaf i'w reidio unrhyw le, yn debyg iawn i'r rhai reidio'n ni ar Cortes Bank ym mis Ionawr, oedd rheini dros 70 troedfedd yn hawdd.”
Cafodd Baker a Mike Parsons eu nomineiddio am wobrau'r Tonnau Bydol Enfawr Billabong XXL, am eu reids ar Cortes Bank. Enillodd Parsons y wobr am don wedi ei mesur drom 70 troedfedd, er na bu gallu i'r beirniad weld gwaelod y don!
“Byddwn ni'n sicr yn cadw ein llygad arno am sesiynau'r dyfodol,” meddai Baker. “gall y don yna fynd yn llawer mwy!”
Am fwy o wybodaeth am Grant Baker a chystadleuaeth sialens Tonnau Bydol Enfawr Billabong XXL, ewch i wefan Billabong De Affrica www.billabong.com/za.










