Gorffennaf 13, 2010 3:43 pm
Erbyn hyn mae Alex n'ol yn stiwdio Chwa ac yr wythnos yma ar y rhaglen mi fyddwn yn dal fyny hefo'r bboys medrus tro yma yn Helsinki. Fe fyddwn n'ol ar daith eira Freeride gyda eirafyrddwyr a sgiwyr rhydd gorau'r blaned, yn Squaw Valley yr Unol Dalaethiau ac sut fedrwn i anghofio y drigionus Pritch a Dainton, mi fydda nhw yn wynebu ei ail sialens!
Gorffennaf 6, 2010 3:36 pm
Yr wythnos yma mi fyddwn yn ôl ym mharc Margam gyda ail raglen or digwyddiad beicio mynydd y ‘Big Welsh Weekend’, ac yn cael cip olwg ar hanes pencampwr beicio mynydd Cymru, Lee Williams. Mi fyddwn yn Sotchi, Rwsia gyda eirafyrddwyr a sgiwyr rhydd gorau’r byd ar daith Freeride 2010, ac yn y Bronx, Efrog Newydd yn gwylio’r BBoys yn brwydro am eu lle ym mhencampwriaeth Prydain. Mi fyddwn hefyd yn ymuno gyda ras ymgyrch Patagonia, ble mae 14 tîm yn gorfod trecio, caiacio, beicio a dringo ar hyd Patagonia i gyrraedd y llinell derfyn.
Mehefin 29, 2010 2:39 pm
Mae Chwa yn ôl gyda cyfres newydd sbon lle byddwn yn dangos y chwaraeon eithafol gorau o bedwar ban byd! Yr wythnos yma yw’r darllediad cyntaf o ddigwyddiad beicio mynydd y ‘Big Welsh Weekend’ ym mharc Margam, lle fydd Alex Jones yn cwrdd â pencampwr beicio mynydd Cymru, Lee Williams. Yn ogystal â hyn mi fyddwn yn Chamonix ar gyfer cymal cyntaf taith eira Freeride ac yn mynd draw i Efrog Newydd i weld doniau dawnus y BBoys ac i ddysgu ychydig am gefndir y gamp.
Medi 8, 2009 6:30 pm
Daw Chwa! yr wythnos hon o gystadleuaeth ‘Mountain Mayhem’ dros y ffîn yn Swydd Henffordd. Ras beicio mynydd pedair awr ar hugain yw ‘Mountain Mayhem’, y mwyaf o’i fath yn y byd, ac mae mae sawl Cymro a sawl Chymraes yn gobeithio disgleirio yno eleni. Bydd hefyd, wrth gwrs, y coctel arferol o’r chwaraeon eithafol gorau – cymal nesaf Cwpan Byd Beicio Mynydd Nissan UCI o Ffrainc, byrddio ôl-llong dra wahanol o Earls Court yn Llundain ac eirafyrddio o ganol Efrog Newydd.
Gorffennaf 14, 2009 6:30 pm
Mae Chwa! yn ôl yng Ngorllewin Cymru ar gyfer Cystadleuaeth Agored Rhwyfo Môr Aberaeron, a’r wythnos hon byddwn yn cwrdd âg enillwyr y gystadleuaeth. Byddwn yng Ngwlad Belg ar gyfer trydydd cymal Cwpan Byd Beicio Mynydd Nissan UCI ac mae sgïwyr gorau’r byd yn ymgynull yn Laax yn y Swistir am Bencampwriaethau Agored Sgïo Dull Rhydd Ewrop. Yn ogystal, bydd B-Boys gorau’r Unol Daleithau yn Los Angeles i frwydro am le yn rownd derfynol Pencampwriaeth Sony B-Boy. Alex Jones bydd yn cyflwyno Chwa! - y diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd!
Gorffennaf 7, 2009 6:30 pm
Yr wythnos hon daw Chwa! o Gystadleuaeth Agored Rhwyfo Môr Aberaeron, lle bydd tipyn o frwydro rhwng timoedd gorau Cymru! Bydd hefyd mwy o sgïo ac eirafyrddio o Thaith Byd Freeride yn Rwsia a byddwn yn yr Wcrain ar gyfer cymal Dwyrain Ewrop o Bencampwriaeth Sony B-Boy. Mae Tlws Syrffio Barcud ‘Seat’ yn denu goreuon y gamp i Dahme yn yr Almaen, ac yna bois y beiciau modur bydd yn hedfan trwy’r awyr yng nghystadleuaeth ‘Red Bull X-Fighters’ 2009 o Fecsico. Yn ogystal, bydd Alex yn cwrdd â Jake Collins o Gasnewydd, un o sglefrfyrddwyr mwyaf addawol Cymru. Alex Jones bydd yn cyflwyno Chwa! - y diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd!
Mehefin 29, 2009 12:01 pm
Yn y drydedd bennod o Chwa! bydd Cwpan Byd Beicio Mynydd Nissan UCI yn dechrau yn Ne Affrica a byddwn yn Japan ar gyfer trydydd cymal Pencampwriaeth Sony B Boy. Pwy sgwn i, fydd yn fuddugol yng nghystadleuaeth cyntaf Taith Byd Freeride? Bydd y sgïwyr a’r eirafyrddwyr yn ymgynull ym mynyddoedd y Caucasus yn Rwsia gan obeithio cael dechreuad da i’r tymor. Yn ymuno âg Alex yr wythnos hon bydd yr eirafyrddiwr Cynyr Ifan, a fydd yn trafod y triciau a’r symudiadau sy’n gwneud eirafyrddio mor unigryw. Alex Jones bydd yn cyflwyno Chwa - y diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd!
Mehefin 23, 2009 11:59 am
Bydd ail bennod Chwa! yn dod o Ganolfan Ddringo Dan-do Dynamic Rock yng Nghlydach, lle bydd y dringwyr brwd Lewis Gardiner a Siôn Lewis yn ymuno âg Alex i esbonio mwy am y gamp. Byddwn hefyd yn dilyn yr eirafyrddwyr i Awstralia ar gyfer ail rownd Cystadleuaeth Pum Seren Burton, ac ar dir gwastad yr Iseldiroedd bydd y ‘B Boys’ yn troi a throelli yng nghymal diweddaraf Pencampwriaeth Sony B Boy. Bydd hefyd uchafbwyntiau o Dasmania, wrth i syrffwyr gorau’r byd gystadlu yng Nghyfres Glasur Dyfroedd Oer O’Neil. Alex Jones bydd yn cyflwyno Chwa - diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd!
Mehefin 16, 2009 6:30 pm
Bydd y gyfres newydd yn dechrau gyda un o gystadleuthau eirafyrddio mwya’r byd – Cystadleuaeth Pum Seren Burton yn Seland Newydd, sy’n denu eirafyrddwyr gorau’r byd. Yna, draw i Ynysoedd y Ffaro ar gyfer Taith Syrffio O’Neil – lleoliad sy’n profi mai tonnau nid tywydd yw’r brif atyniad i syrffwyr. Camp eithafol sy’n dod yn fwy fwy boblogaidd yw ‘B Boy’ - byddwn yn dilyn Pencampwriaeth Sony B Boy trwy gydol y gyfres ac yn Korea bydd y cymal cyntaf. Ond nid oes rhaid teithio mor bell i weld campau’r ‘B Boys’, bydd Alex yn ymweld â chriw H2O o Dde Cymru, un o griwiau ‘B Boy’ mwyaf llwyddiannus Prydain. Alex Jones bydd yn cyflwyno Chwa - y diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd!
Chwefror 19, 2009 6:00 pm
Bydd Alex Jones yn ein tywys drwy holl gyffro, hwyl a sbri cystadleuaeth Billabong Air & Style - sy'n rhan o daith byd 'Ticket to Ride' yr Eira-fyrddwyr. Daeth 20,000 o gefnogwyr ynghyd yn y Stadiwm Olympaidd yn Innsbruck, Awstria, i wylio goreuon y gamp yn profi eu sgiliau ar un o'r pibau chwarter mwyaf yn y byd - gyda gwobr o 75,000 Ewro a phwyntiau pencampwriaeth yn fantol. Hefyd, bydd Alex yn edrych beth sy'n gwneud yr ardal mor arbennig ym myd yr Eira-fyrddio.
Hydref 23, 2008 6:30 pm
Yn raglen ola’r gyfres bydd Sglefyrddio o’r Cwpan Mystic Skate yn Prague, Sgïo Nos yn Manceinion, uchafbwyntiau’r Nissan Outdoor Games a chystadleuaeth Sony b-boy yn yr Iseldiroedd. A bydd gwestai arbennig yn ymuno ag Alex yn y stiwdio, sef y dringwr a’r neidiwr BASE, Eric Jones.
Hydref 21, 2008 6:30 pm
Ar y rhaglen heno bydd uchafbwyntiau’r gystadleuaeth 4X a lawr allt o’r daith Cwpan Byd Beicio Mynydd yng Nghanada, cystadleuaeth sglefyrddio Cwpan Mystic Skate gyda’r steil stryd. A bydd uchafbwyntiau’r gystadleuaeth Cwpan Byd hwyl-fyrddio yn Cataluna. Yn ymuno ag Alex yn y stiwdio bydd Shem ap Geraint i roi cyngor ar sut i fynd ati i syrffio-barcud.
Hydref 16, 2008 6:30 pm
Ar y rhaglen heno bydd trydedd gystadleuaeth y daith Cwpan Byd Beicio Mynydd yn yr Alban, perfformiad gan un o brif griwiau b-boy y byd, sef T.I.P o Dde Corea ac uchafbwyntiau cystadleuaeth sglefyrddio’r Cwpan Mystic Skate. Bydd Alex hefyd yn cwrdd â Callum Stone i ddysgu mwy am gaiacio.
Hydref 14, 2008 3:30 pm
Ar y rhaglen heno byddwn yn gweld uchafbwyntiau ail gymal y daith Cwpan Byd Beicio Mynydd yn Andorra, Cystadleuaeth hedfan yn Air Race Detroit a thriciau BMX yn Empire of Dirt. Ac yn ymuno ag Alex yn y stiwdio bydd yr eira-fyrddiwr Cynyr Ifan yn sôn am deithio’r byd yn hyfforddi, cyn symud i Langrannog.
Hydref 9, 2008 11:13 am
Ar y rhaglen heno byddwn yn dychwelyd i Slovenia ar gyfer Cystadleuaeth Cwpan Byd Beicio Mynydd yr Undeb Seiclwyr Rhyngwladol. Yna, draw i Galiffornia ar gyfer cystadleuaeth Syrffio ton mawr, ac i Bencampwriaeth Syrffio Byd i’r iau yn Ffrainc. Byddwn yn gorffen gyda chystadleuaeth hedfan yn San Diego. Bydd syrffiwr o Langrannog hefyd yn dod fewn i sôn am ddysgu syrffio a chystadlu ar y gylchdaith Brydeinig.
Hydref 7, 2008 6:30 pm
Ceir croestoriad mawr o chwaraeon eithafol ar y rhaglen heno. Cystadleuaeth hedfan draw yn Abu Dhabi gyda pheilotiaid gorau’r byd, Eira-fyrddio ar ei orau yn Abkhazia, Georgia, digwyddiad moto cross yn llawn triciau adloniadol a chystadleuaeth syrffio barcud yn yr Almaen. Yn ymuno ag Alex yn y stiwdio bydd Ffion Jones sydd wedi teithio’r byd yn cymryd rhan mewn cystadlaethau eira-fyrddio.
Hydref 2, 2008 6:30 pm
Sglefyrddio, eirafyrddio a beicio mynydd sydd ar y rhaglen heno. Byddwn yn dechrau gyda chystadleuaeth olaf y Daith Byd Eira-fyrddio TTR i’r merched yn Roxy Chicken Jam. Yna, draw at un o brif gystadlaethau Sglefyrddio’r byd, Bowlriders yn Sweden, digwyddiad cyntaf y Cwpan Byd Beicio Mynydd yn Slofenia a’r gystadleuaeth BMX lawr allt olaf o’r Dirtmasters yn yr Almaen. Hefyd, bydd Alex yn sgwrsio gyda’r artist a’r athletwr eithafol Nia Jones.
Medi 30, 2008 6:30 pm
Tonight’s programme includes highlights of the Nissan/O’Neill Xtreme Verbier Freeride finals, the latest TTR tour snowboarding event – the Burton US Open, and the Dirtmasters Motocross competition in Germany. Garod Thomas, surf life saver, will join Alex in the studio.
Medi 25, 2008 6:30 pm
Mae rhaglen heno, sydd llawn eira, yn cynnwys cystadleuaeth sglefrio lawr allt yn y Swistir, pedwerydd cystadleuaeth y daith Byd Reidio Rhydd Nissan Freeride de Tignes a digwyddiadau eira fyrddio TTR y dynion a’r merched yn y Burton US Open. Yn ymuno ag Alex yn y stiwdio bydd Rhys Williams i sôn am fyrddio mynydd a bocsio.
Medi 23, 2008 6:30 pm
Yn y pennod diweddaraf o Chwa! bydd sgio gwallgo yn y Swatch O'Neill Big Mountain Pro, rasio beicio modur anghrediniol yn y Red Bull Hare Scramble, triciau BMX yn y Dirtmasters a champau eira-fyrddio yn y Red Bull Gap session. Yn ymuno ag Alex yn y stiwdio bydd Naomi Patterson, pencampwraig dawnsio hip hop ifancaf Cymru.
Medi 18, 2008 6:30 pm
Byddwn yn dechrau’r rhaglen gyda’r Nissan Russian Adventure lle mae sgiwyr ac eira-fyrddwyr yn wynebu sialens unigryw. Wedyn bydd pedwerydd cymal y Billabong Air & Style gyda cystadlu’r daith TTR, ac yn Vienna byddwn yn gweld sgiliau pêl-droed arddull rhydd anhygoel y Red Bull Street Style. Yn y stiwdiobydd Huw Williams yn dod fewn i sôn am y gamp syrffio bwrdd-hir.
Medi 16, 2008 6:30 pm
Byddywn yn dechrau gyda'r gystadleuaeth eirafyrddio Sialens Nissan Mammoth draw yng Nghaliffornia. Yna i Leon ar gyfer y digwyddiad beicio mynydd byd-enwog y Saab Salomon Avalanche Trophy a byddwn yn mynd i Tecsas ar gyfer cystadleuaeth beicio modur gwallgo y Red Bull Last Man Standing. A bydd y rhedwr rhydd, Rhidian Thomas yn dod am sgwrs i egluro mwy am Parkour, sef y gamp o redeg lan ochrau adeiladau a dros rwystrau gan wneud pob math o driciau!
Medi 11, 2008 6:30 pm
Yn y chweched pennod o Chwa! byddwn yn mynd i ail gystadleuaeth byd syrffio’r merched a’r dynion – Rip Curl Pro Bells Beach yn Awstralia ac i’r drydedd gystadleuaeth eira-fyrddio ar y daith byd TTR – Burton European Open. Yn ymuno ag Alex yn y stiwdio bydd Mark Griffiths, Pencampwr corf-fyrddio. Y diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd bob nos Fawrth a Iau am 6.30pm ar Chwa!
Medi 9, 2008 6:30 pm
Mewn rhifyn arbennig, bydd Alex Jones yn mynd i'r gystadleuaeth Red Bull X-Fighters a gynhelir ym maes ymladd teirw enwog Las Ventas, Madrid. Dyma gystadleuaeth Motocross Arddull-rydd fwyaf y byd. Bydd hi'n cwrdd â rhai o reidwyr gorau'r gamp ac yn gwylio uchafbwyntiau'r gystadleuaeth Tric Gorau lle bydd reidwyr enwog megis Dany Torres, Mat Rebeaud a Busty Wolter yn syfrdanu'r gynilleidfa gyda'u triciau gwefreiddiol.
Medi 4, 2008 6:30 pm
Yn y bumed bennod o Chwa! byddwn yn dechrau gyda'r gystadleuaeth tonfyrddio Red Bull Double or Nothing. Yna, draw i'r Swistir ar gyfer cystadleuaeth eira-fyrddio'r dynion - a byddwn yn teithio i adeilad ucha'r byd - Twr Taipei 101 yn Taiwan - i weld "Fearless Felix" yn gwneud y gamp anghyfreithlon sy'n cael ei alw'n basejumping. Yn y stiwdio bydd Caradog Emanuel yn sôn wrth Alex am sglefyrddio.
Medi 2, 2008 6:30 pm
Bydd y Sialens Nissan Qashqai yn cyrraedd uchafbwynt yn y Tate Modern yn Llundain gydag ail ran y rowndiau terfynol. Byddwn yn mynd i ddigwyddiad cynta’r tymor mewn syrffio i ferched – y Roxy Pro Gold Coast yn Awstralia, draw i Awstria ar gyfer cystadleuaeth eirafyrddio unigryw yr SG Invitational a byddwn yn cael y cyfle i ddod i adnabod rhai o syrffwyr gorau Ewrop. Yn y stiwdio bydd y beiciwr mynydd disgynnol, Emyr Davies, yn ymuno â ni.
Awst 28, 2008 6:30 pm
Yn y drydedd bennod o Chwa! byddwn yn dechrau lan yn yr Alban gyda chystadleuaeth syrffio unigryw, yna’n mynd i Munich yn yr Almaen i un o rowndiau terfynol y Sialens beicio mynydd chwyldroadol Nissan Qashqai a gorffen ar ynysoedd trofannol Cape Verde yng nghystadleuaeth cwpan hwylfyrddio’r Asiantaeth Hwylfyrddwyr Proffesiynol. Yn y stiwdio bydd Iwan Lewis yn dod fewn i sgwrsio am y gweithgaredd eithafol diweddaraf i ddod ar y sîn, sef Bocio. Y diweddaraf o’r byd chwaraeon eithafol o Gymru ac o bedwar ban byd bob nos Fawrth a Iau am 6.30pm ar Chwa!
Awst 26, 2008 6:30 pm
Yn yr ail bennod o Chwa! byddwn yn dechrau yn Madrid gydag ail rownd cyn-derfynol Sialens Nissan Qashqai. Bydd uchafbwyntiau cystadleuaeth syrffio dynion y Quiksilver Pro ar Arfordir Aur Awstralia. Yna, draw i Galiffornia ar gyfer y gystadleuaeth eira-fyrddio Roxy Chicken Jam gan orffen gydag uchafbwyntiau gwefreiddiol Pencampwriaeth b-boy Sony Ericsson, sydd wir yn wledd i’r llygaid! Yn y stiwdio bydd Kirsty Jones, pencampwr syrffio barcud Prydain, yn sôn wrth Alex am gystadlu dros y byd ac am syrffio o Lanzarote i Morocco!
Awst 19, 2008 6:00 pm
Daw rhifyn arbennig cyntaf Chwa! atoch o draeth nefolaidd Biarritz, cartref syrffio Ewropeaidd, lle byddwn yn dilyn cystadleuaeth y Roxy Jam 2008. Bydd Alex Jones yn cwrdd a syrffwyr hirfwrdd benywaidd gorau’r byd, ac yn ceisio dod i ddeall bywyd y syrffiwr proffesiynol gan drio’r technegau allan ei hun! Cofiwch gallwch wylio’r cystadlu yma eto ar y wefan ar alw 24 awr y dydd.









