Mae'r rhedwr Stephen Edwards, sy'n wreiddiol o Lanberis, wrth ei fodd yn cystadlu mewn cystadlaethau rhedeg amrywiol - a fe hefyd sy'n trefnu ras flynyddol Ras yr Wyddfa.
Ond dros y penwythnos yn Hanner Marathon Caerdydd (a noddir gan Lloyds TSB), ni fydd Stephen ymysg y pymtheg mil sy'n rhedeg. Yn hytrach, fe fydd yn cael gwared ar yr esgidiau rhedeg er mwyn sylwebu ar gyffro'r ras ar S4C.
Mae Hanner Marathon Caerdydd yn fwy poblogaidd nag erioed o'r blaen ac i ddathlu'r achlysur, bydd camerâu S4C yno i ddarlledu uchafbwyntiau estynedig.
Sarra Elgan fydd wrth y llyw yn ystod y rhaglen awr o hyd, tra bod Dot Davies yn gohebu ymysg y rhedwyr ar hyd y cwrs 13 milltir. Bydd Stephen, sydd bellach yn byw yn Llanfairpwll ac sy'n mwynhau gyrfa fel dylunydd graffeg a darlledwr, yn ymuno â John Hardy yn y blwch sylwebu.
Meddai Stephen, "Yn ystod y ras, fyddai'n dadansoddi ac yn sylwebu ar y ras gyda John Hardy. I fod yn gwbl onest, mae'n braf cael bod ochr arall y meic ond dwi'n eiddigeddus iawn o'r holl redwyr wrth iddyn nhw fynd ati i wneud y paratoadau olaf. Rwy'n bwriadu rhedeg y cwrs cyn y ras i gael teimlad o'r sialens sy'n wynebu'r holl gystadleuwyr."
Bydd rhedwyr o safon a rhai llai profiadol yn rhedeg ar hyd y cwrs gwastad a chyflym gan fwynhau awyrgylch wych y digwyddiad sy'n cael ei adnabod fel y Great Welsh Run.
Mae Stephen wedi hen arfer a rhedeg Hanner Marathon Caerdydd - llynedd oedd y drydedd tro iddo wneud. Y bryd hynny, cwblhaodd y ras mewn 1 awr 42 munud - record bersonol iddo - ond pam mae'n credu fod y ras yma yn apelio at redwyr?
"Hanner Marathon Caerdydd yw unig adeg y flwyddyn i bobl gael y rhyddid i redeg o gwmpas y brifddinas, gan wibio heibio adeiladau a golygfeydd adnabyddus ar hyd y ffordd. Mae'n deimlad arbennig wrth redeg tuag at y Bae - heibio Canolfan y Mileniwm a'r Senedd - ac yna nôl at ganol y ddinas a Stadiwm y Mileniwm."
Bydd Stephen yn cydio yn ei 'sgidiau rhedeg yn syth pan fydd yn cymryd rhan yn ei farathon gyntaf erioed - Marathon Eryri. Gallwch ddilyn taith Stephen o gwmpas ardaloedd prydferth Eryri ar S4C yn hwyrach yn y mis.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales