Mae Chwa!, cyfres newydd sy'n dilyn cystadlaethau chwaraeon eithafol, yn addo gadael y gwylwyr yn gegrwth!
Alex Jones sy'n cyflwyno'r gyfres a bydd hi'n mynd â ni i bob cwr o'r byd i roi'r newyddion diweddara' o fyd syrffio, eirafyrddio, becio mynydd, syrffio-barcud, cystadlaethau BMX a mwy.
"Bob wythnos fe fyddwn ni'n rhoi sylw i'r digwyddiadau diweddara' ym myd chwaraeon eithafol," meddai Alex, "gan gynnwys uchafbwyntiau o Daith Eirafyrddio y Byd, Cwpan y Byd Beiciau Mynydd a chystadleuaeth campau ar feic modur, y Red Bull X Fighters motocross. Fe fydd gwestai arbennig yn ymuno â fi hefyd yn y stiwdio bob wythnos i roi tips ar sut i gymryd rhan mewn chwaraeon eithafol yng Nghymru, ac fe fyddwn ni'n gosod sialens arbennig i'w profi nhw i'r eitha'! Ac mae'n rhaid imi gyfadde' ei bod nhw'n gystadleuol dros ben!"
Mae'r cyffro'n dechrau gyda rhaglen arbennig. Bydd Alex yn teithio i Dde Ffrainc, i fwynhau'r tywod a'r tonnau yng ngŵyl syrffio, cerddoriaeth a chelf i ferched - y Roxy Jam ym Miarritz. Daw 48 o ferched mwyaf galluog y byd i hirfyrddio a cheisio am goron pencampwriaeth 2008 yng nghartref syrffio Ewrop. Yn ogystal, bydd Alex yn mentro i frig y tonnau wrth geisio syrffio tandem ym mreichiau pencampwr y byd, Rico!
Gwestai arbennig yr ail raglen nos Iau yw Mark Thomas o Bontrhyd yn Sir Gaerfyrddin sy'n arbenigwr ar y gamp motocross, sef gwneud campau ar feic modur. Mae Mark wedi sefydlu Academi Motocross Cymru yng Nghaerdydd i hyfforddi pobl ifanc yn y gamp ac mae hefyd yn helpu i drefnu gŵyl flynyddol y Big Air Jam ym Mharc Margam.
Hefyd nos Iau, cawn glywed y newyddion diweddaraf am gystadleuaeth feicio mynydd y Nissan Quashqai o ddinas Milan, ac un o gystadlaethau eirafyrddio gorau'r byd, y Nokia Air & Style sy'n cael ei chynnal ym Munich. Awn hefyd draw i Galiffornia am y diweddara' o Oscars y byd syrffio, cystadleuaeth y Billabong XXL Bigwave 2008.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales