Bydd S4C yn dangos darllediad byw ac egscliwsif o gêm gyfeillgar bwysig Cymru yn erbyn Gwlad yr Iâ wrth i’r tîm cenedlaethol ymbaratoi ar gyfer Cwpan y Byd 2010.
Cyflwynydd Sgorio, Morgan Jones, fydd yn cymryd saib o wres y stiwdio i adrodd o ochr yr ystlys yn Stadiwm Laugardalsvollur yn Reykjavik.
Gyda Chaerdydd yn cyrraedd Rownd Derfynol Cwpan yr F.A. a dyrchafiad Abertawe i ail lefel cynghrair pêl-droed Lloegr, bydd y garfan ryngwladol yn edrych i efelychu perfformiadau’r clybiau.
Meddai Morgan, “Heb os nac oni bai, mae llwyddiant Caerdydd ac Abertawe wedi codi ymwybyddiaeth o’r gamp yng Nghymru. Pwy a ŵyr, efallai welwn ni un ohonyn nhw yn herio Chelsea a Manchester United yn yr Uwch Gynghrair yn y dyfodol agos.”
Mae’r garfan yn awyddus i ehangu rhediad o bum gêm heb golli ac mae Morgan Jones yn credu bod cymysgedd o chwaraewyr profiadol a thalent newydd yn rysáit dda am lwyddiant.
“Mae Jason Koumas yn hanfodol i’r garfan oherwydd mae e mor brofiadol ac yn greadigol iawn ar y maes chwarae. Mae’n allweddol fod yr hen bennau yn bresennol i gynorthwyo’r gwaed newydd sy’n gwthio trwy’r garfan. Un arall rwy’n edrych ’mlaen at weld yn ennill ei ail gap yw Owain Tudur Jones.
“Mae Cymru wedi profi bo’ nhw’n gallu teithio tramor a chael canlyniadau da oddi cartref. Maen nhw’n llawn cystal â Gwlad yr Iâ. Mae yna ddyfnder yn y garfan hefyd gyda digon o ddewis – mae pwysau ar y chwaraewyr i berfformio oherwydd mae wastad rhywun arall eisiau lle yn y tîm,” ychwanega Morgan.
Er iddo ddisgwyl cael siom gyda John Toshack yn dychwelyd i’w rôl fel hyfforddwr Cymru, mae Morgan yn cyfaddef ei fod wedi cael siom ar yr ochr orau.
“Roedd ganddo weledigaeth bendant am beth roedd e eisiau a wnaeth aberthu enwau mawr er mwyn dod â chwaraewyr ifanc mewn. Mae ei benderfyniadau wedi creu canlyniadau da ond y prawf mawr bydd y prif gystadlaethau, yn enwedig yr ymdrech i gyrraedd Cwpan y Byd 2010.”
Bydd Morgan yn ymuno â’r sylwebwyr Nic Parry a Malcolm Allen yn Reykjavik, tra bod Gareth Roberts yn cael cwmni gwesteion arbennig yn y stiwdio.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales