Mae S4C wedi ennill hawliau ecsgliwsif i ddarlledu dwy gêm gyfeillgar bwysig i Gymru, yn erbyn Lwcsembwrg a Gwlad yr Iâ, wrth i’r tîm cenedlaethol ymbaratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2010.
Bydd S4C yn dangos Lwcsembwrg yn erbyn Cymru yn ei chyfanrwydd o’r Stade Josy Barthel yn Ninas Lwcsembwrg nos Fercher, 26 Mawrth. Bydd y gêm yn fyw ar-lein ac ar gael i wylio ar alw ar ôl y gêm hefyd.
Lwcsembwrg yn erbyn Cymru yw’r gêm gyntaf i gael ei chynhyrchu gan Rondo Media Ltd - cyfuniad o gwmnïau teledu Nant ac Opus TF. Enillodd Rondo Media’r cytundeb i ddarparu cynnwys pêl-droed rhyngwladol Cymru; pêl-droed Uwch Gynghrair Cymru a Chwpan Cymru i S4C yn dilyn proses tendr agored.
Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys, Chwaraeon S4C, “Ar ôl y canlyniad gwych yn erbyn Norwy, llwyddiant Caerdydd yng Nghwpan FA Lloegr a thymor arbennig Abertawe yn y gynghrair, mae yna gryn ddiddordeb ym mhêl-droed Cymru ar hyn o bryd. Wrth ddangos y ddwy gêm yn fyw ac yn ecsgliwsif yn ogystal ag uchafbwyntiau llawn o gêm y tîm dan 21 yn erbyn Bosnia, mae S4C unwaith eto’n dangos ei hymrwymiad i bêl-droed Cymru.
“Mae’n gyfnod cyffrous wrth i John Toshack adeiladu seiliau cadarn i ymgyrch y tîm i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan Y Byd yn 2010 ac wrth i’r tîm dan 21 geisio cyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau dan 21 Ewrop. Mi fydd y gemau yma’n estyniad naturiol a phwysig o’n darpariaeth o bêl-droed cenedlaethol ac i’n portffolio chwaraeon.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales