Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Y Clwb Rygbi

Mae Y Clwb Rygbi yn cynnig darpariaeth cynhwysfawr a chyffrous o Gynghrair Magners, Cwpan Heineken, Uwch-gynghrair y Principality a Chwpan Konica Minolta.

Amserlenni Y Clwb Rygbi

Pwy yw chwaraewr gorau Cymru tymor 2007/08?

Wedi tymor cyffrous o rygbi'r clybiau'n dod i ben, mae arbenigwyr S4C yn datgelu pwy fuasen nhw'n ei goroni fel chwaraewr gorau Cymru yn ystod y cyfnod.

Brynmor Williams

Brnymor Williams

Shane Williams

Mae e mor dwyllodrus ac mor anturus pan mae'n chwarae, ac mae'n edrych am waith trwy'r amser. Mae e moyn y cyfrifoldeb trwy'r amser, sy'n beth da a gwahanol am asgellwr. Ond hefyd daw Ryan Jones yn agos iawn, ac yn sicr yn serennu o ran y pac. Mae'n rhaid canmol ei chwarae a hefyd ei gyfraniad fel arweinydd y tîm ar y cae.

Gareth Roberts

Gareth Roberts

Shane Williams

Heb os nac oni bai. Fe oedd seren Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni. Gwnaeth yr asgellwr groesi carreg filltir trwy dorri record sgorio ceisiau Gareth Thomas dros Gymru.

Gwyn Jones

Gwyn Jones

Shane Williams

Mae e wedi bod yn wych yn chwarae dros Gymru'r tymor yma – roedd ei gyfraniad at garfan y Gamp Lawn yn anhygoel. Ac mae Lee Byrne wedi cadarnhau ei safle fel dewis cyntaf Cymru yn safle'r cefnwr oherwydd ei fod yn fwy cadarn a hyderus.

Huw Llywelyn Davies

Huw Llywelyn Davies

Shane Williams

Yn syml am y ffaith ei fod wedi sgorio chwech o geisiau ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae'n cynnig ysbrydoliaeth ym mhob gêm, bron,,ac mae’n barod i drio'r annisgwyl. Mae Shane yn unigolyn sydd yn cyffroi'r dorf yn fwy nag unrhyw un arall pan mae ganddo'r bêl.

Lyn Davies

Lyn Davies

Alun-Wyn Jones

Mae'r clo yn gwella ac yn aeddfedu gyda phob gêm. Mae'n hen ben ar ysgwyddau ifainc ac yn cynnig rhywbeth gwahanol iawn i'r mwyafrif o chwaraewyr. Mae'n ddigon ifanc i allu datblygu ei dalentau ac i ddysgu sgiliau newydd. Rwy'n rhagweld y bydd Alun-Wyn yn gapten ar Gymru yn y dyfodol.

Sarra Elgan

Sarra Elgan

Lee Byrne

Fe sydd wedi serennu fwyaf ac wedi datblygu'n gefnwr hyderus dros ben. Mae Ryan Jones hefyd wedi arwain trwy esiampl yn ei rôl newydd, ac mae cyfraniad Shane Williams wedi bod yn anhygoel.

Wyn Gruffydd

Wyn Gruffydd

Roedd y penderfyniad i ddewis Ryan Jones fel capten yn gall iawn oherwydd doedd dim baggage gyda fe o Gwpan y Byd gan nad oedd wedi chwarae rhan yn y Bencampwriaeth. Fe wnaeth Shane Williams argraff fawr hefyd. Rwy’n credu fod Deiniol Jones, er na wnaeth e chwarae ryw lawer dros Gymru, yn llawn haeddu ei le fel rhan o'r garfan oherwydd ei gysondeb wrth chwarae i'r Gleision dros y ddau dymor diwethaf.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales