Yn dilyn y cyhoeddiad bod tîm rygbi'r gynghrair Y Crusaders Celtaidd wedi llwyddo i ennill lle i chwarae yn y Super League am y tri thymor nesaf, mae dathlu ym Mhen-y-bont ar Ogwr, cartref y Crusaders. Bydd y Crusaders yn chwarae gartref yn erbyn y Sheffield Eagles ddydd Sadwrn, 2 Awst, gyda'r gêm yn cael ei darlledu'n fyw ar Y Clwb Rygbi 13 ar S4C.
"Mae'n wych ein bod ni wedi llwyddo i gael y franchise," meddai Geraint Rhys Davies o Abertawe a enillodd wobr Chwaraewr Ifanc Gorau'r Flwyddyn y clwb yn 2006.
"Ry'n ni gyd eisiau chwarae yn erbyn y chwaraewyr gorau a'r timau gorau ac nawr mae hynny'n realiti," ychwanega.
Mae hyn yn golygu y bydd y Crusaders yn croesawu timau mawrion fel y Leeds Rhinos, St Helens, Wigan Warriors a'r Catalaniaid y tymor nesaf. Camp enfawr o feddwl bod y tîm wedi ei sefydlu llai na phedair blynedd yn ôl.
"Mae siawns dda nawr i rygbi'r gynghrair wneud ei marc yng Nghymru," eglura Geraint. "Mae llwyddiant ffeinal y Challenge Cup a phenwythnosau Millennium Magic yn Stadiwm y Mileniwm yn dangos bod pobl yn dilyn y gêm, ac mae'n rhaid i ni fanteisio ar hynny."
Yn ogystal â'r Crusaders, llwyddodd y Salford City Reds i ymuno â deuddeg tîm presennol y Super League pan fydd y gynghrair yn cychwyn ar ei newydd wedd yn 2009. Ond er eu llwyddiant, mae'n bwysig bod y ddau dîm yn parhau i lwyddo yn y Co-operative National League One am weddill y tymor hwn, yn ôl Geraint.
"Gan ein bod ni wedi cael y statws yma, mae'n rhaid i ni a Salford gyrraedd ffeinal y gynghrair y tymor yma i brofi ein bod ni'n haeddu ein lle yn y Super League," meddai.
Wedi'i chynhyrchu gan gwmni cynhyrchu Rondo ar gyfer S4C, cyflwynir Y Clwb Rygbi 13 gan Sarra Elgan, gyda sylwebaeth gan Lyn Davies. Y gêm yn erbyn y Sheffield Eagles ar Gae'r Bragdy, Pen-y-bont ar Ogwr fydd y bedwaredd gêm gartref i S4C ei darlledu'r tymor hwn.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales