Bydd S4C yn cynnig uchafbwyntiau daearol egscliwsif o rownd yr wyth olaf y Cwpan Heineken dros y penwythnos – ac mae un o dîm cyflwyno Cwpan Heineken a Clwb Heineken y Sianel yn credu fod yn benwythnos allweddol i ddyfodol rygbi yng Nghymru.
Mae cyn gapten Cymru a sylwebydd S4C Gwyn Jones yn credu fod buddugoliaeth i’r Gweilch yn erbyn y Saraseniaid dros y penwythnos yn rownd yr wyth olaf y Cwpan Heineken yn hanfodol i adfywiad rygbi Cymru o dan arweiniad Warren Gatland.
Meddai Gwyn Jones, “Roedd llwyddiant Cymru adeg y Gamp Lawn 2005 yn llwyddiant ynysig a doedd ddim unrhyw adlewyrchiad o’r chwarae disglair ym mherfformiadau a llwyddiant y rhanbarthau yn y Cwpan Heineken. Y tro hwn, mae’r rhanbarthau yn gryfach a dylai nhw fod yn gallu adeiladu ar lwyddiant Cymru. Mae’n rhaid i’r gwreiddiau fod yn gryf i alluogi llwyddiant parhaol y garfan genedlaethol. Mae hyn yn golygu llwyddiant yn y Cwpan Heineken a chael gweld un o’r rhanbarthau yn codi’r gwpan yn y blynyddoedd nesaf..”
Mae Gwyn yn credu fod gan y Gweilch y momentwm i ennill y gêm ac i fynd ymlaen i gyrraedd y rownd derfynol yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd ym mis Mai. Ond mae hefyd yn rhybuddio fod colli ar ddydd Sul yn gallu achosi problemau cryf i hyfforddwr y Gweilch.
“Os yw’r Gweilch yn colli, bydd cwestiynau yn cael eu codi ai Lyn Jones yw’r dyn cywir i ddod â llwyddiant yn Ewrop i’r tîm. Rydym yn disgwyl iddyn nhw ennill - mae’r disgwyliadau wedi cynyddu yn fwy i’r Gweilch ers Camp Lawn Cymru. Dwi’n clywed pobl yn dweud os ydy Cymru’n ennill, fe ddylai’r Gweilch fod yn ennill hefyd. Wrth gwrs, mae ganddo gyfle arall i ennill tlws gyda Ffeinal Cwpan Ynni EDF, ond yr Heineken yw’r un sydd wir yn cyfrif.”
Ychwanega Gwyn, sy’n cyd-sylwebu gyda Wyn Gruffydd ar y gêm dyngedfennol ar Heol Vicarage, Watford. “Ond rwy’n hyderus y bydden nhw’n ennill, er eu bod nhw’n chwarae oddi cartref. Cafon nhw’r fantais seicolegol dros y Saraseniaid ar ôl y fuddugoliaeth yn rownd gynderfynol yr EDF, a gan fod y rowndiau cyn derfynol a’r ffeinal o’r Cwpan Heineken yn cael eu chwarae yng Nghaerdydd, mae ganddynt siawns dda o ennill y gwpan.”
Ond, mae Gwyn yn poeni fod trip y Gleision allan i Toulouse mewn gêm arall yn rownd yr wyth olaf yn debyg o fod yn sialens rhy fawr iddyn nhw'r tymor yma.
Meddai Gwyn, “Rwy’n credu wnaethon nhw chwarae eu ffeinal nhw yn erbyn Bryste yn y rownd ddiwethaf. Roedden nhw mor falch o ennill doedd dim y penderfyniad gyda nhw i fynd am y sgôr ychwanegol i sicrhau gêm gartref. Rwy ’n credu bydden nhw’n difaru hwn achos mae sicrhau llwyddiant allan yn Toulouse yn gryn her. Yr unig ffordd allwch chi faeddu Toulouse allan yno yw chwarae gêm eang fel y gwnaeth y Sgarlets y llynedd a Leinster ddwy flynedd yn ôl. Ond dwi ddim yn hyderus fod gan y Gleision y cefnwyr i ennill yn erbyn Toulouse. Gobeithio y bydden nhw’n fy synnu i.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales