Mae hyfforddwr newydd Cymru wedi cymryd cam hanesyddol wrth ddewis 13 o chwaraewyr o’r un rhanbarth yn ei gêm gyntaf yn y swydd. Ar ôl cyhoeddi enwau 13 o chwaraewyr y Gweilch i wynebu Lloegr yn Twickenham, pwy fase’n meddwl y byddem yn cymharu Warren Gatland â Ron Waldron wrth ddewis cymaint o’r un tîm?
Ni fydd pawb - yn enwedig o’r rhanbarthau eraill - yn cytuno, ond rwy’n deall pam mae Gatland wedi rhoi ei ffydd yn agosrwydd a chyfeillgarwch tîm sefydlog. Efallai nad oedd Ron Waldron yn hollol anghywir nôl yn nyddiau ‘Cymru’r Crysau Duon’ yn yr 80au pan ddewisodd gymaint o chwaraewyr Castell-nedd - y tîm fu ef ei hunan yn ei feithrin.
Yn achos Gatland, mae’r amgylchiadau yn hollol wahanol. Dim ond pythefnos oedd ganddo i baratoi ei garfan a bu’n rhaid iddo ddibynnu ar y cyfarwydd. Un rheswm dros wneud y dewisiadau hyn yw ei bod wedi profi bron yn amhosib paratoi’r tîm ar gyfer pob math o sefyllfaoedd mewn cyfnod mor byr. Mae’n rhaid iddo ddibynnu ar ryw fath o strwythur tan y gall roi stamp ei hun ar y tîm.
Fel cyn hyfforddwr Iwerddon mae’n gwybod fod angerdd ac agosatrwydd yn elfennau pwysig ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad, a dyna pam mae wedi dewis mynd am y cyfarwydd. Mae Gatland yn gwybod beth i ddisgwyl, yn wahanol i ŵr arall o Seland Newydd, Graham Henry a gyfaddefodd ei fod wedi cael ei synnu gan ddwyster y bencampwriaeth pan gychwynnodd fel hyfforddwr Cymru.
Yr hyn sy’n anffodus wrth iddo roi ei ffydd yn y Gweilch yw na all ddewis y tri Gwalch gorau'r tymor hwn oherwydd eu bod hefyd yn dod o Seland Newydd!
A bod yn deg, fedra’ i ddim dadlau a’i ddewis - er bod dau chwaraewr yn anlwcus dros ben. Bydd Tom Shanklin ar y fainc mwy na thebyg oherwydd bod yr hyfforddwr amddiffyn newydd, Shaun Edwards, yn ffafrio sustem amddiffyn ‘blitz’. Mae Sonny Parker yn fwy cyfarwydd â’r system amddiffyn ‘blitz’ gan mai dyma sut mae’r Gweilch yn chwarae.
Y chwaraewr anlwcus arall yw Gethin Jenkins sy’n dal i frwydro yn erbyn Duncan Jones am safle’r prop ochr agored. A bod yn onest, mae’r ddau o safon debyg. Mae Gatland yn iawn hefyd i bwysleisio ei fod wedi dewis 22 o chwaraewr ar gyfer y gêm ac y bydd Jenkins, os nad Shanklin, yn siŵr o chwarae rhyw ran yn Twickenham.
Mae ‘na chryn dipyn o optimistiaeth haeddiannol wrth baratoi am yr ymgyrch oherwydd ffresni'r tîm hyfforddi a llwyddiannau dau o’n timau rhanbarthol yng nghystadleuaeth y Cwpan Heineken.
Ond rhaid i ni fod yn realistig - rhaid cofio bod Cymru wedi methu â chyrraedd chwarteri Cwpan y Byd wrth golli i Ffiji tra cyrhaeddodd Lloegr gêm derfynol Ffrainc 2007 gan golli i Dde Affrica mewn gêm dynn. Byddai curo Lloegr ar eu tomen eu hunain yn cymryd ymdrech enfawr ac mae’r math yma o berfformiad siŵr o fod y tu hwnt i allu Cymru ar hyn o bryd.
Mae gan Loegr bac o flaenwyr grymus a Jonny Wilkinson i reoli’r chwarae. Fel arfer, mae’r cyfuniad yma yn ddigon i guro unrhyw un yn HQ. Ond mae Brian Ashton ar groesffordd a rhaid iddo benderfynu prun ai dilyn ei reddfau fel hyfforddwr ymosodol, ei agwedd fel y bu yn y gorffennol neu ddilyn y patrwm mwy tynn o chwarae y mae wedi ei fabwysiadu gyda Lloegr. Un rhybudd arall – rwy’n poeni y bydd Cipriani yn dod i’r cae ar ryw bwynt, dyma chwaraewr all drawsnewid gêm.
Wedi dweud hynny, rwy’n credu bod gwell cyfle gyda ni nag ers llawer blwyddyn yn Twickenham. Mae’r bencampwriaeth hon yn fwy agored na llawer oherwydd bod yna gwestiynau ynghylch y ddau dîm sydd gryfaf yn draddodiadol - Lloegr a Ffrainc.
Gyda Thomas Lièvremont fel eu hyfforddwr, bydd Ffrainc yn fwy anghyson nag arfer. Dydy talent byth yn broblem, ond problem fawr Ffrainc fel erioed yw dod o hyd i’r cyfuniadau iawn o chwaraewyr i siwtio eu harddull chwarae.
Rhaid gofyn pa mor hir y gall tîm Iwerddon o hen chwaraewyr barhau i fynd. Mae gwŷr Munster yn crebachu rhyw fodfedd wrth chwarae i Iwerddon. Dylai hwn fod yn gyfnod o newid i’r gwŷr mewn gwyrdd wrth gynllunio ar gyfer y pedair blynedd nesaf. Y broblem yw bod Eddie O’Sullivan dan bwysau ac yn ymladd i gadw’i dîm blinedig i fynd.
Mae sefyllfa tîm yr Alban, ar y llaw arall, yn ymddangos yn addawol. Mae eu timau rhanbarthol yn fwy cystadleuol nag y buont ac mae gan eu hyfforddwr, Frank Hadden y gallu i gael y gorau allan o’r tîm. Er hynny, mae ganddo gryn waith i’w wneud cyn i’w dîm fod yn hollol gystadleuol.
Y golled fwyaf oddi ar bencampwriaeth y llynedd oedd ymadawiad Pierre Berbizier fel hyfforddwr Yr Eidal. Llwyddodd Berbizier i ddeall meddylfryd yr Eidalwyr a thrwy ymroddiad mawr a thactegau da, fe lwyddodd i’w troi’n gystadleuol. Fe fydd yn cymryd tipyn o amser i Nick Mallett gael hyd i’r cyfuniad iawn er mwyn sicrhau hyn.
Rhaid imi ddweud fy mod yn llawn gobaith ynglŷn â’r hyn all Warren Gatland gyflawni gyda Chymru. Mae wedi sefydlu ei awdurdod eisoes ac yn gosod sylfeini am y blynyddoedd i ddod. Nid yr hyn sy’n digwydd ddydd Sadwrn sy’n bwysig ond bod y tîm yn gwella o gêm i gêm. Rwy’n gobeithio y bydd dylanwad Gatland yn dod i ffrwyth yn raddol a’r cam cyntaf felly wrth adfywio tîm Cymru yw eu troi’n dîm anodd i’w curo.
Efallai bod 13 o’r Gweilch yn ei dîm cyntaf ond buaswn yn synnu’n fawr os na fydd newidiadau eraill yn ystod y Bencampwriaeth wrth i Gatland ddod i adnabod ei chwaraewyr a meithrin arddull chwarae sy’n gweithio iddo fe a’r chwaraewyr. Mae’n siŵr o roi rhai chwaraewyr drwy’r felin cyn diwedd y bencampwriaeth fis Mawrth.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales