Yn 1998, roedd rygbi Cymru mewn cyflwr enbyd ar ôl i’r tîm cenedlaethol ddod o fewn trwch blewyn i golli o gan pwynt i Dde Affrica. Fe gyrhaeddodd Graham Henry ac yn ei gêm gyntaf wrth y llyw, fe drawsnewidiwyd y tîm a bron i Gymru fwynhau buddugoliaeth hanesyddol. Fe ddechreuwyd ei ddisgrifio fel y Gwaredwr Mawr.
Deng mlynedd yn ddiweddarach ac mae Cymru mwn argyfwng unwaith yn rhagor, ond y tro hwn mae’r dyn newydd yn mynd gam ymhellach a churo Lloegr yn Twickenham. Ai Gatland yw’r Ail Ddyfodiad?
Mae ein tuedd i greu arweinwyr Meseianaidd yn amlygu ein cyflwr seicolegol bregus yn hytrach nag unrhyw allu hyfforddi dwyfol sydd gan Henry neu Gatland.
Y rheswm pam mae’r genedl yn troi o anobaith i ecstasi mor rhwydd yw nad oes gennym ni fel pobl syniad pendant o le rydyn ni’n sefyll mewn gwirionedd.
Mae gennym gymhlethdod israddoldeb yng Nghymru. Nid oes gennym hunanhyder gwledydd fel Awstralia, De Affrica, Lloegr a’r Unol Daleithiau. Ym mhob agwedd ar fywyd, mae’r gwledydd yma’n cynhyrchu pobl sy’n credu eu bod cystal os nad yn well nag unrhywun arall. Rydym ni’n meddwl bod hyn yn arwydd o orhyder ond yn aml iawn nid yw hynny’n wir. Yng Nghymru, yn enwedig yn y byd rygbi, rydym yn edrych ag edmygedd ar y gwledydd hyn ac yn meddwl pam nad ydym cystal â nhw.
Mae gorliwio gallu’r hyfforddwyr tramor hyn yn tarddu o’r syniad nad ydym yn ddigon da i wneud y cyfan ein hunain. Felly rydym angen rhywun o’r tu allan i’n harwain ni i’r cyfeiriad iawn. Dim ond ar ôl rhoi ein hymddiriedaeth i rywun allanol y gallwn uno gyda’n gilydd er mwyn cyrraedd y nod. Ni fyddai Seland Newydd, Lloegr, Awstralia a De Affrica yn ystyried penodi hyfforddwr tramor, gan eu bod yn credu bod ganddynt y dalent yn eu gwledydd eu hunain.
Yn y ddegawd ddiwethaf mae rygbi Cymru wedi mwynhau dau gyfnod llwyddiannus, cyfnod o dan Henry yn 1990 pan aeth y tîm ddeg gêm yn ddiguro a blwyddyn y Gamp Lawn yn 2005. Ar y ddau achlysur roedd y garfan wedi closio at eu staff hyfforddi.
Roeddent yn ofni’r prif hyfforddwr awdurdodol, Henry neu Hansen (y dyn y mae’r chwaraewyr yn credu a oedd y tu ôl i’w llwyddiant yn 2005). Ond yn ystod y ddau gyfnod, roedd ganddynt gymeriad yn y tîm hyfforddi a allai fod yn gefn iddynt yn emosiynol. Roedd Steve Black a Scott Johnson yn bobl allweddol yn y cyfnodau hyn ac roedd y chwaraewyr yn eu haddoli. Mae’n gwlwm sydd yn anodd inni ei werthfawrogi o’r tu allan ond roedd yn rhoi sicrwydd cyson i’r chwaraewyr. Roedd Black a Johnson yn credu yng ngallu’r chwaraewyr gymaint fel y dechreuodd y chwaraewyr gredu yn eu gallu eu hunain hefyd.
Dwi ddim yn gwybod pa un o’r tîm hyfforddi presennol sy’n cynnig y ‘cariad’ hwn i’r chwaraewyr. Efallai nad yw’r grŵp presennol o chwaraewyr angen cymaint o gwtsus â’r chwaraewyr blaenorol, sy’n dda o beth gan nad wyf yn siwr faint o gysur y celai unrhywun ym mreichiau Shaun Edwards!
Ond mae’n rhyfeddol bod yr un grŵp o chwaraewyr a fethodd â chyrraedd wyth olaf Cwpan y Byd wedi gallu mynd i Twickenham ac ennill. Beth yn union y mae Gatland wedi llwyddo i wneud ar ôl pythefnos yn unig o hyfforddi?
Mae Gatland yn cydnabod nad oedd modd gweithio ar ormod o agweddau technegol neu dactegol mewn cyfnod mor fyr, a oedd yn rhan o’i rheswm dros ddewis cymaint o chwaraewyr o dîm y Gweilch. Fodd bynnag, mae eisoes wedi newid y berthynas rhwng y rheolwyr a’r chwaraewyr. Fe yw’r bos, dyna beth mae’n ei ddisgwyl, ac os nad yw chwaraewyr yn perfformio, fe gaiff e hyd i rywun arall all berfformio.
Yr enghraifft orau o hyn oedd pwnc llosg y sesiynau hyfforddi corfforol. Roedd Gareth Jenkins yn barnu bod angen i’r chwaraewyr wneud mwy o sesiynau ‘byw’ fel y gallant ail-greu profiad dwys gêm go-iawn mewn sesiynau hyfforddi. Yr unig ffordd o wella sgiliau ar lefel ryngwladol yw eu hymarfer nhw o dan yr un pwysau a gêm, fel arall mae’r ymarfer yn troi’n ddiwerth.
Fodd bynnag, pan wnaeth Jenkins geisio rhoi hyn ar waith, fe wrthododd y chwaraewyr. Pam? Achos bod e’n galed, yn galed iawn. Pe bai gennych chi’r dewis rhwng un ai rhedeg o gwmpas cae yn pasio, cicio ac ymarfer symudiadau neu orfod mynd benben â chwaraewyr eraill, pa un fyddai’n well gennych chi?
Roedd y ffaith na chynhaliwyd y sesiynau yma’n adlewyrchiad ar y dylanwad yr oedd gan y chwaraewyr o dan y drefn flaenorol. Mae Gatland wedi dinistrio’r pŵer yma ac mae’r chwaraewyr wedi treulio pythefnos yn dod wyneb yn wyneb â’i gilydd yn gorfforol. Mae’r hyfforddwr wedi dwyshâu’r sesiynau yma trwy ddweud bod Jamie Roberts wedi perfformio’n dda yn y sesiynau hyfforddi. Mae pob sesiwn nawr felly wedi troi’n brawf ar gyfer ennill lle yn y tîm. Mae hyn wedi dwyshâu’r holl brofiad wrth ymarfer. Does neb bellach yn saff.
Cyn inni gyd fynd dros ben llestri (rwy’n gwybod ei bod hi eisoes yn rhy hwyr, ond rhaid imi gael dweud hyn) rhaid edrych yn wrthrychol ar y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr. Am y rhan fwyaf o’r gêm, roedd y tîm yn siomedig ond ni allai Lloegr gladdu Cymru. Yn yr 20 munud diwethaf, fe roddodd Cymru bwysau arnyn nhw ac fe ildiodd Lloegr. Roedd Cymru’n haeddu ennill a’r gêm yn destament i benderfyniad a ffitrwydd.
Fe ddechreuodd blwyddyn y Gamp Lawn yn 2005 gyda buddugoliaeth glos ond perfformiad amharchus braidd dros yr Hen Elyn. Dim ond ar ôl y fuddugoliaeth gychwynnol honno y dechreuodd y chwarae lifo a gallaf ddisgwyl i Gymru chwarae mewn steil fwy agored yn erbyn Yr Alban.
Mae gan Yr Alban sgrym gref a neidwyr da yn y llinell ond mae’r chwarae ymhlith y cefnwyr mor llyfn ag araith gan George Bush. Fe ddylai Cymru ennill, ond rwy’n gwybod bod hyn wedi cael ei ddweud lawer gwaith o’r blaen!
Hoffwn gymryd y cyfle i longyfarch Jamie Roberts ar ennill ei gap cyntaf. Roeddwn i’n ofni taw fi fyddai’r doctor olaf i chwarae dros Gymru ac y byddai traddodiad glew o chwaraewyr o Glwb Rygbi’r Cardiff Medicals yn chwarae i’r tîm rhyngwladol yn dod i ben. Da iawn Jamie, da iawn y Gleision a Chymru hefyd am dderbyn bod ganddo ymrwymiadau a da iawn yr Ysgol Feddygol am fod mor hyblyg. Dyw’r gêm broffesiynol heb eto golli’r gweithiwr proffesiynol.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales