Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Y Clwb Rygbi Rhyngwladol

Colofn Gwyn Jones

Mae newid yn chenj o dan Gatland

Mae Warren Gatland yn dechrau ennill enw i’w hun fel un sy’n barod iawn i newid ei dîm. Doedd ennill dwy gêm o’r bron ddim yn ddigon, roedd rhaid wrth newidiadau.

Ar sail eu perfformiad yn erbyn Lloegr yn ystod y fuddugoliaeth gofiadwy honno, gallai Mark Jones ac Alix Popham gyfrif eu hunain yn anffodus i beidio â chael eu dewis yn erbyn yr Alban. O dan amgylchiadau arferol, fyddech bron ag awgrymu eu bod wedi cael cam.

Roedd rhai o’r newidiadau a wnaed yn ystod gêm yr Alban yn destun syndod hefyd. Byddai llawer yn dadlau y buasai Cymru wedi ennill hyd yn oed petai Gatland heb eilyddio ei gapten a’i ddau hanerwr yn ystod yr ail hanner.

Fodd bynnag, does dim wedi’n paratoi ni ar gyfer y newidiadau a wnaed ar gyfer gêm Cymru v yr Eidal. Mae’n amlwg bellach mai cylchdroi’r garfan yw’r polisi ac mae hynny’n cadw pawb ar flaenau eu traed ac yn troi’r sesiynau hyfforddi’n fywiocach fyth.

Pan glywais i’r cyhoeddiad am y tîm ar gyfer gêm yr Eidal, gallwn ond cydymdeimlo gyda phrop pen tynn Cymru, Adam Jones. Rhaid ei fod yn teimlo’n eithaf siomedig ar ôl colli ei le yn y garfan.

Yn erbyn yr Alban, fe gafodd un o’i gemau gorau erioed yng nghrys Cymru yn ei yrfa 46 cap. Roedd sgrym Cymru yn gwbl drech na’r Alban, fe daclodd Adam fwy na’r un chwaraewr arall ac fe barhaodd yr 80 munud. Hyd yn oed o ystyried bod y bêl heb fod yn fyw mor hir â hynny yn ystod y gêm, mae hyn yn gryn gamp i brop.

Mae’r penderfyniad i beidio â chynnwys Adam Jones yn y rheng flaen yn temtio ffawd yng ngolwg rhai, gan fod sgrym yr Eidal ymhlith y cryfaf yn Ewrop. Mae Warren Gatland yn sicr yn ymwybodol o hynny. Mae’n un sy’n deall ffyrdd cyfrin y rheng flaen gan iddo chwarae fel bachwr i’r Crysau Duon.

Gan fod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad mor agored eleni, mae yna bosibilrwydd gwirioneddol y gall Cymru gael ei choroni’n bencampwyr ac ni fyddai’r rhan fwyaf o hyfforddwyr yn meiddio newid y tîm rhag iddynt beryglu’r cyfle hwn.

Fodd bynnag, nid y perygl o golli i’r Eidal sy’n poeni Gatland, ond yn hytrach nad yw e'n gosod ei safonau’n ddigon uchel. Nid yw cymharu ein hunain â’r Alban a bod yn fodlon â churo tîm digon cyffredin yn ddigon i Gatland. Ni fydd hynny’n sicrhau’r llwyddiant tymor hir y mae e wedi cael ei gyflogi i’w gyflawni. Y perygl yng ngolwg Gatland yw derbyn gwendidau er mwyn sicrhau llwyddiant tymor byr a dyw hynny ddim yn risg mae’n fodlon ei chymryd.

Fe allai Cymru golli yn erbyn yr Eidal oherwydd y newidiadau a wnaed mewn safleoedd allweddol yn y tîm, yn enwedig yn y sgrym. Fe allai’r newidiadau hyn olygu colli gafael ar y bencampwriaeth neu hyd yn oed ar y Gamp Lawn, ond bydd Gatland a’i dîm yn gweld hyn fel gwir fesur o’n safon yn hytrach na bod yn adlewyrchiad afreal o allu Cymru. Does neb am weld gwawr ffug arall yn codi.

Fodd bynnag, rwyf yn teimlo bod gennym ddigon o allu i guro’r Azzurri yng Nghaerdydd y Sadwrn hwn. Mae yna ddigon o reddf rygbi naturiol yn y chwaraewyr i gael y blaen ar gefnwyr mecanyddol braidd yr Eidal. Yn ogystal, mae digon o ddawn ar y fainc ac rwy’n credu y bydd hyn yn ddigon i sicrhau buddugoliaeth anghyfforddus i Gatland.

Fe all fod yn agos iawn, ond hyd yn oed os byddwn ni'n colli, rydyn ni'n gwybod lle byddwn ni'n sefyll. Rhaid inni ddeall mai nod go iawn Gatland ar hyn o bryd yw’r cynllun tymor hir dros bedair blynedd sy’n arwain at Gwpan y Byd 2011.

Os yw’r newidiadau a wnaed wedi troi’n dorcalon i Adam Jones, fe all fod yn ddechrau pennod gyffrous newydd i Jones arall. Roedd deall y bydd James Hook yn dechrau ar y fainc yn siom i rai o ddilynwyr Cymru. Rwy’n edmygwr mawr o’i sgiliau eithriadol e, ond rhaid imi hefyd gyfaddef fy mod yn falch o weld Stephen Jones yn ôl yn gwisgo’r crys rhif 10.

Fe wynebodd Stephen ormod o feirniadaeth o lawer yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan Rygbi’r Byd y llynedd gan rai ym maes y cyfryngau. Roedd fel petai yna ymgyrch yn ei erbyn. Mae Stephen Jones yn gwbl ymroddedig ac mae e wedi gwneud y gorau o’i ddawn bob amser.

Ni fydd Stephen Jones byth yn gallu cyflawni’r hyn y mae James Hook yn ei gyflawni ar y cae chwarae, does ganddo fe ddim mo’r ddawn naturiol. Fodd bynnag, mae ganddo’r awdurdod a’r presenoldeb sy’n cael eu meithrin trwy brofiad.

Tra bo Hook yn dysgu ei grefft ac yn perffeithio ei sgiliau, mae’n hollbwysig bod Jones yn aros yn rhan allweddol o garfan Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Hook rhyw ddydd yn meddu’r un gallu i arwain â Stephen Jones ond, am y tro o leiaf, mae’r rhain yn rhinweddau gwerthfawr a all ddysgu gan y dyn sy’n cystadlu ag ef am grys hudol y rhif 10 yn nhîm Cymru.

Mae Gwyn Jones yn aelod o dîm cyflwyno S4C ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Erthyglau Chwe Gwlad Gwyn Jones:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales