Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Y Clwb Rygbi Rhyngwladol

Colofn Gwyn Jones

Chwe blynedd ar ôl ffarwelio â thîm Iwerddon, bydd Gatland yn dychwelyd I’r Ynys Werdd yno ar gyfer y gêm a fydd yn penderfynu tynged y Goron Driphlyg eleni. Er i Gatland wfftio unrhyw awgrym o ddrwgdeimlad personol yn dilyn ei ddisodli dirybudd fel prif hyfforddwr Iwerddon, efallai y byddai buddugoliaeth y tro hwn yn rhywfaint o gysur iddo.

Am newid, nid oedd llawer o enwau annisgwyl yn y tîm a’r unig benbleth go iawn oedd pwy fyddai’n chwarae maswr. Mae Gatland wedi dewis Jones am ei brofiad a’i arweiniad o flaen dawn fwy amrwd Hook.

Dwi’n meddwl bod y dewis yma’n dangos bod Gatland wedi penderfynu mynd am ddull o chwarae disgybledig gyda strwythur pendant er mwyn ceisio curo’r Gwyddelod yn Croke Park gan geisio atal y Gwyddelod rhag chwarae eu gêm nhw.

Dwi’n credu y bydd Cymru yn osgoi cicio i’r ystlys er mwyn peidio ag ildio unrhyw linellau i’r Gwyddelod gan fod Iwerddon a Munster yn defnyddio eu cryfder yn y llinell i sefydlu eu patrwm yn y gêm. Maen nhw’n defnyddio eu grym yn y sgarmesau i un ai ennill tiriogaeth sylweddol neu orfodi’r gic gosb, gan ganiatáu i O’Gara gicio pwyntiau neu ennill mwy fyth o dir.

Nid yw Cymru’n chwarae’n dda pan fo’r gwrthwynebwyr yn taflu i’r llinell, sydd yn golygu mai peidio ildio’r llinell yw’r unig opsiwn.

Dyma’r dacteg yn erbyn Lloegr ond, yn yr hanner gyntaf, roedd Hook i’w weld yn gwyro o’r dacteg yna ac yn rhoi gormod o linellau i Loegr. Fodd bynnag, er mwyn i’r strategaeth yma i lwyddo, mae angen i’r gwaith o fynd ar ôl y gwrthwynebwyr fod yn dda bob tro, a dylid rhoi pwysau ar gefnwr Iwerddon.

O ran ymosod, bydd Cymru yn ceisio ynysu O’Gara a rhedeg tuag ato. Mae ei wendidau wrth amddiffyn yn cael ei dargedu gan y rhan fwyaf o dimau, ond nid yw’n hawdd manteisio ar ei wendidau gan ei fod yn cael ei warchod yn dda gan ei gydchwaraewyr.

Mae Munster yn aml yn symud un neu ddau chwaraewr allan o’r llinell amddiffynnol cyntaf i sefyll gyda’r olwyr i gryfhau’r amddiffyn. Maen nhw’n barod i golli dau chwaraewr yn y llinell er mwyn atal y gwrthwynebwyr rhag torri’r llinell amddiffynnol ac os yw Iwerddon yn dewis gwneud hyn yn erbyn Cymru, bydd rhaid i garfan Cymru yrru eu llinell amddiffynnol.

Y ffordd orau i ynysu O’Gara yw ymosod arno o sgrymiau, ond mae hyn yn arwain timau i ymosod ar Hayes a Horan mewn ymgais i chwalu sgrym wan Iwerddon.

Fodd bynnag, mae’r ddau brop wedi treulio’r rhan fwyaf o’u gyrfaoedd dan bwysau yn y sgrym ac yn anaml mae Munster neu Iwerddon yn colli gemau oherwydd eu diffygion nhw.

Dwi’n meddwl y dylai Cymru ganolbwyntio ar ddefnyddio’r sgrym a’i throi’n fantais a chreu’r cyfleodd i ryddhau’r olwyr.

Nid yw O’Gara yn y garfan oherwydd ei daclo. Mae e yn y tîm oherwydd ei allu i reoli’r gêm gyda’i gicio. Yn wahanol i Gymru, ni fydd ganddo broblem wrth gicio i’r ystlys a gorfodi Bennett a llinell Cymru i ddiogelu eu meddiant yn erbyn tîm sy’n anodd ei drechu.

Rwy’n dal i boeni am yr agwedd yma o gêm Cymru achos dwi’n teimlo bod yna wendid sylweddol yn y llinellau.  Mae dychweliad Alun Wyn Jones yn rhoi rhywfaint o hyder i mi ond bydd rhaid i Jonathan Thomas fod yn graff yn ei alwadau i er mwyn atal neidwyr y Gwyddelod.

Y peth arall y byddwn i’n ei wneud petawn yn hyfforddi Iwerddon yw targedu Mike Phillips. Mae o wedi cael y crys rhif naw yn haeddiannol ac wedi aeddfedu’n sylweddol y tymor hwn. Ond mae yna dân yn llosgi ynddo sydd byth yn bell o’r wyneb ac rwy’n credu y bydd y Gwyddelod yn gwneud eu gorau glas i’w wylltio.

Fe fyddan nhw’n ei bryfocio a gwneud pob ymdrech i dynnu ei feddwl oddi ar ei gêm. Y ffordd arall i chwarae yn erbyn Phillips yw cynnig bwlch bach iddo ar yr ymylon a cheisio’i ddenu i redeg i’r bwlch a sicrhau bod y blaen asgellwyr a’r wythwr yn aros amdano.

Mae Phillips yn chwaraewr gwell eleni na fuodd o erioed ond bydd yn rhaid iddo fod yn hynod ddisgybledig er mwyn ymdopi â gêm dynn yn llawn tyndra.

Fe fydd hi’n gêm agos ac nid wyf yn rhagweld y bydd Cymru yn colli’n rhacs yn Iwerddon fel y maen nhw wedi mewn blynyddoedd blaenorol. Mae’r garfan bresennol yn ymddangos fel bod ganddi’r ysbryd a’r cymeriad i atal hynny.

Dwi’n sicr hefyd y bydd y tîm Cymreig hwn yn parhau i wella wrth i Gatland ac Edwards ddylanwadu’n fwyfwy arnynt. Dwi hefyd yn meddwl bod y tîm Gwyddelig hwn ymhell o fod ar ei gorau bellach a bod y sbarc wedi mynd. Maen nhw’n dal i fod yn garfan gref iawn ond, yn fy marn i, gan yr ymwelwyr y mae’r momentwm ac felly dylai Cymru ennill y gêm o bum pwynt a chipio’r Goron Driphlyg.

Mae Gwyn Jones yn aelod o dîm cyflwyno S4C ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Erthyglau Chwe Gwlad Gwyn Jones:

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales