S4C

Close
Flash is required to view this video

chwaraeon

Criced: Morgannwg v Surrey

  • Prynhawn Sadwrn 2 Mehefin 4.15

Rhodri'n awchu am y tymor ugain pelawd

Fe fydd S4C yn darlledu un gêm CB40 a thair o gemau Dreigiau Morgannwg yn y gystadleuaeth ugain pelawd Friends Life t20 2012 yn fyw ac yn ecsgliwsif eleni.

Y pedair gêm ar S4C yn y gyfres Criced fydd Surrey ar 2 Mehefin (y gêm CB40), Warwickshire ar 17 Mehefin, Caerloyw ar 23 Mehefin a Northamptonshire ar 30 Mehefin (t20).

Rhodri Davies, un o ohebwyr y gyfres gylchgrawn Heno, fydd yn cyflwyno'r rhaglenni byw a bydd y tîm cyflwyno yn cynnwys y sylwebwyr John Hardy a Huw Llywelyn Davies, y cyn gricedwr Alan Jones a'r cyn dyfarnwr Jeff Evans yn dadansoddi, ymateb byw gan gricedwr Morgannwg Robert Croft a chyfraniadau lliwgar gan feirdd fel Ceri Wyn Jones.

Mae Rhodri yn edrych ymlaen at dymor cyffrous o gemau 20 pelawd, yn enwedig gan y bydd y rowndiau cynderfynol a therfynol eleni yn Stadiwm Swalec Caerdydd am y tro cyntaf erioed ar 25 Awst.

"Fe fydd hynny'n cynyddu'r cyffro'n fwy fyth a'r gobaith yw y bydd hynny'n ysbrydoli'r tîm ifanc i wireddu eu potensial y tymor hwn. Dyw Morgannwg ddim wedi cael y dechrau gorau i'r tymor, ond fe all y gystadleuaeth yma gynnau'r fflam. Mae'r fformat ychydig yn wahanol eleni gyda chwe thîm yn Nhabl Midlands, Wales & West yn ymladd am leoedd yn y chwarteri. Os caiff Dreigiau Morgannwg ddechrau da, mae pob dim yn bosibl," meddai Rhodri, a oedd yn ohebydd chwaraeon gyda newyddion ITV Wales am dros ddegawd.

Mae Rhodri, a gafodd ei fagu yn Nhrimsaran ger Llanelli ond sydd bellach yn byw ym Mhenarth, yn ddilynwr criced brwd erioed. Arferai wylio Morgannwg yn Sain Helen, Abertawe a Chaerdydd a chwarae dros dîm criced ysgolion Llanelli.

"Roeddwn yn batio llaw dde a bowlio llaw chwith - ond yr un mor wael yn y ddwy dasg! Roedd Robert Croft yn chwarae yn yr un tîm - sy'n rhoi amcan i ti o'm hoedran i, ac roedd yn amlwg pwy oedd am fynd yn ei flaen i chwarae'n broffesiynol a phwy oedd am ohebu!

"Dwi wedi fy magu ar griced tri a phedwar diwrnod y siroedd a'r gemau prawf pum diwrnod, ond dwi'n mwynhau'r gêm 20 pelawd hefyd ac yn credu ei fod yn gyflwyniad gwych i'r gêm i bobl ifanc. Dwi'n mwynhau cyflwyno gyda'r tîm - dwi'n dysgu cymaint am y gêm gan bobl fel Alan Jones a Jeff Evans a hyd yn oed yn y gêm ugain pelawd, mae yna gyfle am sgwrs hamddenol, yn enwedig os yw hi'n glawio fel y gwnaeth hi y llynedd. Mae criced yn fwy na jest gêm - mae'n rhan annatod o'r haf, ac yn gyfle gwych i gymdeithasu yn ogystal â gweld y goreuon wrth eu gwaith."

  • Prynhawn Sadwrn 2 Mehefin 4.15