Cawn gipolwg unigryw ar fyd ymladd cawell - cage fighting - mewn cyfres newydd ar S4C gan ddod i adnabod rhai o gymeriadau'r gamp yng Nghymru.
Bydd y gyfres dair rhan Cwffio Cawell, sy'n dechrau nos Iau, 5 Ebrill, yn ceisio newid y syniad mai gweithgaredd anghyfreithlon a pheryglus yw ymladd cawell gan ddangos bod y rhai sy'n cymryd rhan yn gyfrifol ac yn broffesiynol.
Cynorthwyydd dosbarth, model, pencampwr bocsio cic Prydain a gweinyddes mewn tŷ bwyta fydd ymhlith y rhai fydd yn ein tywys ar daith i fyd y Cwffio Cawell. Mae poblogrwydd y gamp yn mynd o nerth i nerth yng Nghymru a'r byd.
Bydd camerâu cwmni cynhyrchu Cwmni Da yn dilyn ymladdwyr o Gymru wrth iddynt gystadlu yn 'Valley of Kings' a 'Brwydr yn y Bae', digwyddiadau mwyaf ymladd cawell Cymru.
Meddai Siwan Haf, cyfarwyddwr y gyfres, "Bydd y gyfres yn dilyn yr unigolion sy'n ymladd, trefnwyr y digwyddiadau a'r cefnogwyr ymroddgar o bob cwr o'r wlad gan roi cipolwg arbennig o'r gamp sydd erioed wedi ei gweld ar S4C. Ges i fy synnu gan ymroddiad a disgyblaeth y cwffwyr - maen nhw'n treulio oriau yn y gampfa yn hyfforddi bob dydd. Mae 'na lot o sgil, ffitrwydd ac amser yn perthyn i'r grefft ac mae'n rhaid edmygu'r rhai hynny sy'n cwffio. Mae'r unigolion yma'n bobl gyffredin sy'n mwynhau diddordeb unigryw."
Yn ystod y dydd, mae Peris Tecwyn o Rosgadfan yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Bangor yn astudio'r Gymraeg ond gyda'r nos mae'n hyfforddi'n galed wrth baratoi ar gyfer y ffeit nesaf.
Meddai Peris, 22 oed, "Dwi 'di licio bocsio ers roeddwn i'n ifanc ac ers bod yn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bontnewydd dwi 'di bod yn berson cystadleuol iawn. Ond dydy mam ddim yn hapus o gwbl fy mod yn cwffio mewn cawell. Mae hi'n edrych ymlaen at y diwrnod pan fydda i'n stopio, ond dydy hynny ddim am ddigwydd."
Dros yr wythnosau nesaf cawn ddod i adnabod Leah Thomas, un o hyfforddwyr crefftau ymladd Academi Chris Pritchard yng Nghaernarfon; Robin Humphreys, llanc 21 oed o Benygroes sy'n bencampwr bocsio cic Prydain ac Emma Barton cynorthwyydd dosbarth o Gaernarfon. Bydd y ffrindiau Ricky Wright o Gwm Rhondda ac Emily Frowen o Bontypridd, sy'n fodel a chynorthwyydd dosbarth, hefyd yn ymddangos yn y gyfres.